Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Gwareiddiad Dyffryn Indus"

Jump to navigation Jump to search
Ychwanegwyd 8 beit ,  13 o flynyddoedd yn ôl
B
robot yn ychwanegu: gan:古印度; cosmetic changes
No edit summary
B (robot yn ychwanegu: gan:古印度; cosmetic changes)
Yr oedd '''Gwareiddiad Dyffryn Indus''' (c. 3300–1700 CC, ar ei anterth 2600–1900 CC), yn [[gwareiddiad|wareiddiad]] hynafol a flodeuodd yn nyffrynnoedd afonydd [[Afon Indus|Indus]] a [[Afon Ghaggar-Hakra|Ghaggar-Hakra]] yng ngogledd-orllewin [[is-gyfandir India]] ([[Pakistan]] a gorllewin [[India]] heddiw), a cheir tystiolaeth fod ei ddylanwad yn ymestyn mor bell â rhannau o [[Afghanistan]] a [[Turkmenistan]]. Enw arall a ddefnyddir am y gwareiddiad hwn weithiau yw '''Gwareiddiad Harappa''', ar ôl y gyntaf o'u dinasoedd i gael ei chloddio, [[Harappa]]. Er bod tystiolaeth sy'n awgrymu fod y gwareiddiad yn adnabyddus i bobl [[Sumer]] (ym [[Mesopotamia]]) fel '''Meluhha''', ni ddaeth i'r golwg tan y 1920s fel canlyniad i gloddio gan archeolegwyr.
 
== Hanes ei ddarganfod ==
Cafodd adfeilion dinas [[Harappa]] eu disgrifio am y tro cyntaf yn 1842 gan Charles Masson yn ei gyfrol ''Narrative of Various Journeys in Balochistan, Afghanistan and the Panjab''. Yn 1912, darganfuwyd seliau o Harappa gan J. Fleet, a arweiniodd i gloddio gan Syr John Hubert Marshall yn 1921/22, a ddatguddiodd fodolaeth gwareiddiad newydd. Dilynwyd hyn gan gloddio ym [[Mohenjo-daro]]. Erbyn 1931, roedd llawer o safle Mohenjo-Daro wedi'i gloddio. Yna yn 1944, daeth Syr [[Mortimer Wheeler]], fel cyfarwyddwr [[Arolwg Archaeolegol India]], i gloddio. Mae archaeologwyr eraill a fu'n weithgar yno cyn 1947 yn cynnwys Syr [[Aurel Stein]]. Dychwelodd Syr Mortimer Wheeler yn 1949, fel ymgynghorydd archaeolegol i lywodraeth y Pakistan newyddanedig. Ers hynny darganfuwyd olion o'r gwareiddiad mor bell i'r gorllewin a [[Sutkagan Dor]] yn [[Balochistan]], ac mor bell i'r dwyrain a [[Lothal]] yn [[Gujarat]].
 
== Cyfnodau ==
Roedd y gwareiddiad ar ei anterth rhwng tua 2600 a 1900 CC ; gellir dweud fod Gwareiddiad Dyffryn Indus wedi parhau yn ei grynswth o tua 3300 i 1400 CC.
 
|}
 
== Dylanwad ==
O 4300 i 3200 CC, yn y cyfnod [[Chalcolithig]], mae Gwareiddiad Dyffryn Indus yn dangos cyfatebiaethau ceramig gyda diwylliannau cynnar de [[Turkmenistan]] a gogledd [[Iran]], sy'n awgrymu teithio a masnachu ar raddfa sylweddol.
 
== Llyfryddiaeth ==
*Allchin, Bridget (1997). ''Origins of a Civilization: The Prehistory and Early Archaeology of South Asia''. New York: Viking.
*Allchin, Raymond (gol.) (1995). ''The Archaeology of Early Historic South Asia: The Emergence of Cities and States''. New York: Cambridge University Press.
*Aronovsky, Ilona; Gopinath, Sujata (2005). ''The Indus Valley''. Chicago: Heinemann.
*Basham, A. L. (1967). ''The Wonder That Was India''. London: Sidgwick & Jackson, 11-14.
*Chakrabarti, D. K. (2004). ''Indus Civilization Sites in India: New Discoveries''. Mumbai: Marg Publications. ISBN 81-85026-63-7.
*Dani, Ahmad Hassan (1984). ''Short History of Pakistan'' (Book 1). University of Karachi.
*Gupta, S. P. (1996). ''The Indus-Saraswati Civilization: Origins, Problems and Issues''. ISBN 81-85268-46-0.
*Kenoyer, Jonathan Mark (1998). ''Ancient cities of the Indus Valley Civilisation''. Oxford University Press. ISBN 0-19-577940-1.
*Kenoyer, Jonathan Mark; Heuston, Kimberly (2005). ''The Ancient South Asian World''. Oxford/New York: Oxford University Press. ISBN 01951742240-19-517422-4.
*Kirkpatrick, Naida (2002). ''The Indus Valley''. Chicago: Heinemann.
*Lahiri, Nayanjot (gol.) (2000). ''The Decline and Fall of the Indus Civilisation''. ISBN 81-7530-034-5.
*McIntosh, Jane (2001). ''A Peaceful Realm: The Rise And Fall of the Indus Civilization''. Boulder: Westview Press. ISBN 08133353290-8133-3532-9.
*Possehl, Gregory (2002). ''The Indus Civilisation''. Walnut Creek: Alta Mira Press.
*Rao, Shikaripura Ranganatha (1991). Dawn and Devolution of the Indus Civilisation. ISBN 81-85179-74-3.
*Syr Mortimer Wheeler, ''The Indus Civilization'' (Caegrawnt, 1953; sawl argraffiad ers hynny)
{{Cyswllt erthygl ddethol|nl}}
 
 
[[Categori:Gwareiddiad Dyffryn Indus| ]]
[[Categori:Hanes Pacistan]]
[[Categori:Hanes India]]
 
{{Cyswllt erthygl ddethol|nl}}
 
[[ar:حضارة وادي السند]]
[[fi:Indus-kulttuuri]]
[[fr:Civilisation de la vallée de l'Indus]]
[[gan:古印度]]
[[he:תרבות עמק האינדוס]]
[[hi:सिंधु घाटी सभ्यता]]
56,988

golygiad

Llywio