Orléans: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
TXiKiBoT (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: zh-min-nan:Orléans |
TXiKiBoT (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: mk:Орлеан |
||
Llinell 46: | Llinell 46: | ||
[[lb:Orléans]] |
[[lb:Orléans]] |
||
[[lt:Orleanas]] |
[[lt:Orleanas]] |
||
[[mk:Орлеан]] |
|||
[[nl:Orléans]] |
[[nl:Orléans]] |
||
[[nn:Orléans]] |
[[nn:Orléans]] |
Fersiwn yn ôl 04:01, 14 Ebrill 2009
- Erthygl am y ddinas yn Ffrainc yw hon. Gweler hefyd Orleans (gwahaniaethu).
Dinas hanesyddol yng ngogledd canolbarth Ffrainc, prifddinas weinyddol département Loiret a hefyd ranbarth Centre, yw Orléans. Gorwedd ar lan Afon Loire 116 km i'r de-orllewin o Baris. Gelwir ei thrigolion yn Orléanais. Mae'n sedd esgobaeth ers y 4edd ganrif. Enwir dinas New Orleans (Nouvelle Orléans) yn yr Unol Daleithiau ar ôl Orléans.
Yn 1428, yn ystod y Rhyfel Can Mlynedd, roedd y Saeson yn gwarchae ar ddinas Orléans. Yn 1429, perswadiodd merch ieuanc o blith y werin, Jeanne d’Arc, y Dauphin, Siarl VII, i’w gyrru i godi’r gwarchae, gan ddweud ei bod wedi cael gweledigaeth gan Dduw yn gorchymyn iddi yrru’r Saeson allan. Llwyddodd i godi’r gwarchae o fewn naw diwrnod, ac ysbrydolodd y Ffrancwyr i gipio nifer o gaerau’r Saeson ar hyd Afon Loire. Yn fuan wedyn, cafodd y Ffrancwyr fuddugoliaeth dros y Saeson ym Mrwydr Patay. Coronwyd y Dauphin yn Reims fel Siarl VII, gyda Jeanne yn ei arwain i'w goroni.
Dioddefodd y ddinas lawer o ddifrod yn yr Ail Ryfel Byd, yn enwedig yn 1940, ond mae'r eglwys gadeiriol ganoloesol yn dal i sefyll. Mae Neuadd Dref Orléans (hôtel de ville) yn dyddio o'r 16fed ganrif.
Dolenni allanol
- (Ffrangeg) Gwefan swyddogol y ddinas