David Ffrangcon Davies: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
D22 (sgwrs | cyfraniadau)
B trwsio dolen
Llinell 17: Llinell 17:


==Dolenni allanol==
==Dolenni allanol==
* [http://yba.llgc.org.uk/cy/s-DAVI-FFR-1855.html Y Bywgraffiadur Ar-lein]
* [http://yba.llgc.org.uk/cy/c-DAVI-FFR-1855.html Y Bywgraffiadur Ar-lein]





Fersiwn yn ôl 09:11, 15 Chwefror 2009

Canwr opera baritôn o Gymru oedd David Thomas Ffrangcon Davies (11 Rhagfyr 1855 - 13 Ebrill 1918).

Ei fywyd

Ganwyd Davies ym Methesda, Gwynedd. Cymerodd yr enw Ffrangcon ar ôl enw Nant Ffrancon. Aeth i Ysgol Friars, Bangor cyn mynd ymlaen i Goleg yr Iesu, Rhydychen lle enillodd gradd BA yn 1881. Cafodd ei ordeinio'n offeiriad a gwasanaethodd fel curad Llanaelhaiarn (1884) ac wedyn Conwy (1885). Astudiodd yr organ yng Nghonwy dan Roland Rogers. Ar ôl methu cael swydd fel canonwr yn Eglwys Gadeiriol Bangor penderfynodd ganolbwyntio ar yrfa fel cantor. Cafodd swydd fel curad Eglwys y Santes Fair yn Hoxton, Llundain, lle cafodd y cyfle i barhau â'i astudiaethau cerddororol.

Yn 1889 priododd Annie Francis Rayner. Roedd eu merch, Gwen Ffrangcon-Davies, yn actores boblogaidd gyda gyrfa yn ymestyn dros saith degawd. Bu farw Davies yn 1918.

Gyrfa gerddorol

Dechreuasai Davies ymddiddori mewn cerddoriaeth diolch i ddylanwad ei dad ym Methesda. Tra yn Eglwys Fair, Hoxton, astudiodd dan y tenor William Shakespeare.

Yn 1888, dechreuodd ganu yn broffesiynol yng Nghaerdydd. Ymunodd gyda Chwmni Opera Carl Rosa a chanodd ei ran gyntaf ar y llwyfan fel yr herald yn yr opera Lohengrin, gan Wagner. Cafodd ei lwyddiant mwyaf fel Felix yn Elijah Mendelssohn, a ganodd am y tro cyntaf yn 1890 yng ngŵyl cerddoriaeth Horringham, Swydd Efrog.

Ar ddiwedd y 1890au, teithiodd Davies i ganu yn yr Unol Daleithiau a'r Almaen. Symudodd i Berlin i ganu a dysgu canu. Yn 1901 aeth ar ail daith i'r Unol Daleithiau i ganu a darlithio. Yn 1904 cafodd ei apwyntio yn athro canu yn yr Academi Frenhinol yn Llundain. Cyhoeddodd lyfr The Singing of the Future yn 1905.

Ffynonellau

  • Martial Rose, Forever Juliet: The Life and Letters of Gwen Ffrangcon-Davies, 1891-1992 (2003).

Dolenni allanol