Whitehorse: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:Whitehorse01LB.jpg|thumb|chwith|250px|Gorsaf reilffordd Whitehorse]]
[[Delwedd:Whitehorse01LB.jpg|thumb|chwith|200px|Gorsaf reilffordd Whitehorse]]
[[Delwedd:Whitehorse_Yukon.JPG|250px|bawd|'''Whitehorse''']]
[[Delwedd:Whitehorse_Yukon.JPG|250px|bawd|'''Whitehorse''']]
'''Whitehorse''' yw prifddinas tiriogaeth [[Yukon]], yng ngogledd-orllewin [[Canada]]. Mae gan y ddinas boblogaeth o 24,151 (2006), sy'n cyfrif am dros 75% o boblogaeth Yukon.
'''Whitehorse''' yw prifddinas tiriogaeth [[Yukon]], yng ngogledd-orllewin [[Canada]]. Mae gan y ddinas boblogaeth o 24,151 (2006), sy'n cyfrif am dros 75% o boblogaeth Yukon.

Fersiwn yn ôl 17:06, 22 Chwefror 2018

Gorsaf reilffordd Whitehorse
Whitehorse

Whitehorse yw prifddinas tiriogaeth Yukon, yng ngogledd-orllewin Canada. Mae gan y ddinas boblogaeth o 24,151 (2006), sy'n cyfrif am dros 75% o boblogaeth Yukon.

Fel pen eithaf trafnidiaeth ar Afon Yukon, roedd y ddinas yn ganolfan bwysig yn Rhuthr Aur Klondike ar ddiwedd y 1880au. Mae'n brifddinas y diriogaeth er 1953, pan gafodd ei symud o Dawson City ar ôl adeiladu Priffordd Klondike. Enwir y ddinas ar ôl ffrydiau (rapids) White Horse. Adeiladwyd argae Whitehorse ym 1953, a chrewyd Llyn Chwatka, yn boddi’r ffrydiau.[1] Mae Mynydd Grey, Bryn Haeckel a Mynydd Golden Horn yn ymyl y dref.[2]

Adeiladwyd 2 dramffordd ar lannau Afon Yukon ym 1897 i hwyluso’r daith heibio i’r ffrydiau ar y ffordd i’r Klondike, a datblygodd dref o bebyll yno. Cyrhaeddodd y Rheilffordd White Pass a Yukon ym 1900.[3]


Cludiant

Mae'r ddinas ar garreg filltir 918 ar Briffordd Alaska ac ar un adeg roedd yn derminws i Reilffordd White Pass a Yukon o Skagway, Alaska.

Gwasanaethir Whitehorse gan Faes Awyr rhyngwladol Erik Neilsen[4]

Cyfeiriadau


Eginyn erthygl sydd uchod am Yukon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.