Maredudd ab Owain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Lloffiwr (sgwrs | cyfraniadau) cyfieithu nodiadau |
YurikBot (sgwrs | cyfraniadau) B robot Adding: en, it |
||
Llinell 17: | Llinell 17: | ||
[[Category:Marwolaethau 999|Maredudd ab Owain, Tywysog Gwynedd]] |
[[Category:Marwolaethau 999|Maredudd ab Owain, Tywysog Gwynedd]] |
||
[[en:Maredudd ab Owain]] |
|||
[[fr:Maredudd ab Owain]] |
[[fr:Maredudd ab Owain]] |
||
[[it:Maredudd ab Owain]] |
Fersiwn yn ôl 11:09, 16 Mawrth 2006
Roedd Maredudd ab Owain (bu farw 999) yn frenin Gwynedd a Deheubarth.
Roedd Maredydd yn fab i Owain ap Hywel Dda, brenin Deheubarth. Pan aeth Owain yn rhy hen i arwain mewn brwydr, cymerodd Maredydd ei le, ac yn 986 llwyddodd i gipio Gwynedd o ddwylo Cadwallon ab Ieuaf. Yr oedd Gwynedd wedi bod yn rhan o derynas ei daid, Hywel Dda ac mae'n debyg fod y teulu yn parhau i'w hawlio. Ar farwolaeth Owain yn 988 daeth Maredydd yn frenin Deheubarth hefyd. Efallai fod y cyfan o Gymru heblaw Gwent a Morgannwg yn rhan o'i deyrnas.
Mae cofnod amdano yn ymosod ae sefydliadau gwyr Mercia ar hyd y ffin a chofnodir hefyd ei fod wedi talu pris o geiniog y pen i ryddhau nifer o'i ddeiliaid oedd wedi eu cymeryd yn garcharorion yn ymosodiadau'r Llychlynwyr. Yr oedd ymosodiadau y Daniaid yn broblem barhaus yn ystod teyrnasiad Maredydd. Yn 987 ymosododd Godfrey Haroldson ar Ynys Môn gan ladd mil o wyr a dwyn dwy fil ymaith yn garcharorion.
Bu Maredudd farw yn 999 ac mae'n cael ei ddisgrifio yn y brutiau fel "brenin enwocaf y Brythoniaid". Yn dilyn ei farwolaeth enillwyd gorsedd Gwynedd yn ôl i linach Idwal Foel gan Cynan ap Hywel.
Cyfeiriadau
- John Edward Lloyd (1911) A history of Wales: from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co.)