Edward George Bowen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
B Wedi symud Edwards Bowen i Edward George Bowen: enw llawn |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 08:36, 12 Hydref 2008
Ganwyd Edward George Bowen (1911-1991) yn Y Cocyd ('Cockett') ger Abertawe, ble'r aeth i'r coleg. Rhwng 1933 ac 1934 bu'n gweithio ar y darganfyddwr cyfeiriad gyda'r 'cathode-ray' yn Slough ble y daeth dan ddylanwad Robert Watson-Watt. Tua diwedd 1935, symudodd y tim cyfan i Ganolfan Ymchwil yr Awyrlu ('The Air Ministry Research Station') yn 'Bawdsey Manor', Suffolk lle gweithiwyd ar y 'radar' newydd. Bowen fu'n gyfrifol am ddyfeisio radar ar gyfer awyrennau.
Yn 1940 aeth i UDA a Canada i rannu gwybodaeth. Cludodd ei 'cavity magnetron', sef rhan hanfodol o'r radar-tonnau-centimetr gydag ef. Gweithiodd ymhellach ar ei ddyfais yn Washington a Sydney ble y cododd delesgop radar 210 troedfedd yn Parkes yn New South Wales.
Ymddeolodd yn 1971. Derbyniodd yr OBE yn 1941, Medal Rhyddid America yn 1947 a'r CBE yn 1962.