Cytsain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
SieBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: mr:व्यंजन
SieBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn newid: kw:Kessonen
Llinell 53: Llinell 53:
[[kk:Дауыссыз дыбыстар]]
[[kk:Дауыссыз дыбыстар]]
[[ko:닿소리]]
[[ko:닿소리]]
[[kw:Kessonenn]]
[[kw:Kessonen]]
[[ln:Molelisi]]
[[ln:Molelisi]]
[[lv:Līdzskanis]]
[[lv:Līdzskanis]]

Fersiwn yn ôl 07:56, 17 Awst 2008

Sain a gynhyrchir drwy gau neu drwy gulhau llif yr awyr sy'n pasio allan o'r ysgyfaint ar hyd y llwybr lleisiol yw cytsain. Gan fod yna fwy o gytseiniaid yn ieithoedd y byd nag sydd yn y wyddor Ladin neu mewn unrhyw ddull sgrifennu arall, defnyddir symbolau'r Gymdeithas Seineg Ryngwladol (yr IPA) i'w dynodi. Yn draddodiadol, gwahaniaethir rhwng cytseiniaid ar sail nifer o nodweddion cynaniadol:

  • dull cynanu: sut mae'r cytsain yn cael ei chynanu, ai drwy atal llif yr awyr yn llwyr i greu ffrwydrolion megis /p b t d k g/ neu drwy lesteirio llif yr awyr yn rhannol i greu ffritholion megis /f/ (Cymraeg ff), /v/ (Cymraeg f), /θ/ (Cymraeg th), /ð/ (Cymraeg dd) neu /x/ (Cymraeg ch)
  • lle cynanu: lle ar hyd y llwybr lleisiol y digwydd y rhwystr. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae hyn yn golygu lle mae'r tafod yn ymgyffwrd â thaflod y genau
  • os yw'r tannau lleisiol yn dirgrynu fel y mae'r gytsain yn cael ei chynhyrchu, ceir cytsain leisiol megis /b d g v ð/; os nad yw'r tannau lleisiol yn dirgrynu, ceir cytsain ddi-lais
  • amser dechrau lleisio
  • dull y mae'r awyr yn llifo
  • hyd y gytsain

Ceir hefyd cytseiniaid sy'n newid eu cynaniad fel y maen nhw'n cael eu cynhyrchu. Os yw cytsain yn dechrau gyda rhwystr llwyr yn y llwybr lleisiol sydd wedyn yn gwanhau i fod yn rhwystr rhannol yn ail ran y gytsain, ceir cytsain affrithol megis /tʃ/ (fel yn y gair Tsieina) neu /dʒ/ (fel yn jôc).

Gall fod yna fwy nag un cynaniad yn yr un gytsain. Cyfeirir at hyn fel cynaniad eilradd.

Y cytseiniau yn Gymraeg yw:

  • b, c ch, d, dd, f, ff (yr un sain â ph), g, ng, h, l, ll, m, n, p, ph (yr un sain ag ff), r, rh, s, t, th.



 Mae'r erthygl hon yn Eginyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ei datblygu.