Wicipedia:Y Caffi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
GerardM (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 288: Llinell 288:
==Betawiki update==
==Betawiki update==
* Currently 77.65% of the MediaWiki messages and 15.36% of the messages of the extensions used by the Wikimedia Foundation projects have been localised. Please help us help your language by localising at [http://translatewiki.net Betawiki]. This is the [http://translatewiki.net/w/i.php?title=Special:RecentChanges&namespace=8&trailer=%2Fcy recent localisation activity] for your language. Thanks, [[Defnyddiwr:GerardM|GerardM]] 13:53, 9 Mehefin 2008 (UTC)
* Currently 77.65% of the MediaWiki messages and 15.36% of the messages of the extensions used by the Wikimedia Foundation projects have been localised. Please help us help your language by localising at [http://translatewiki.net Betawiki]. This is the [http://translatewiki.net/w/i.php?title=Special:RecentChanges&namespace=8&trailer=%2Fcy recent localisation activity] for your language. Thanks, [[Defnyddiwr:GerardM|GerardM]] 13:53, 9 Mehefin 2008 (UTC)
* Currently 86.91% of the MediaWiki messages and 17.70% of the messages of the extensions used by the Wikimedia Foundation projects have been localised. Please help us help your language by localising at [http://translatewiki.net Betawiki]. This is the [http://translatewiki.net/w/i.php?title=Special:RecentChanges&namespace=8&trailer=%2Fcy recent localisation activity] for your language. Thanks, [[Defnyddiwr:GerardM|GerardM]] 12:20, 2 Awst 2008 (UTC)


==Erthyglau Llenyddiaeth==
==Erthyglau Llenyddiaeth==

Fersiwn yn ôl 12:20, 2 Awst 2008

Coffi
Coffi

Croeso i Gaffi y Wicipedia Cymraeg. Dyma dudalen i chi ofyn cwestiynau ynglŷn â Wicipedia, yn Gymraeg neu Saesneg, a bydd rhywun yn trio rhoi ateb i chi. Os yw'r cwestiwn yn un ieithyddol, ewch â hi draw i Wicipedia:Cymorth iaith os gwelwch yn dda.

I ychwanegu cwestiwn, cliciwch yma i ddechrau pennawd newydd, a teipiwch eich neges. Cofiwch lofnodi'r neges drwy ychwanegu pedair tilde (~~~~) ar y diwedd, os gwelwch yn dda.

Welcome to Welsh Wikipedia's Cafe. This is a page for you to ask questions about Wikipedia, in Welsh or English, and someone will try to answer you. If you need help on Welsh language usage, please ask in Wicipedia:Cymorth iaith. See also the learners' corner.

To pose a question, click here to start a new section, and type your message. Remember to sign your message with four tildes (~~~~) at the end, please.

Archifau'r Caffi __


Bot command translations

Hi. Could anybody translate me these interwiki bot commands to Welsh (they will be displayed in all interwiki bot summaries instead English)?

  • robot -
  • Adding -
  • Removing -
  • Modifying -

Thank you. lt:User:Hugo.arg 21:34, 15 Chwefror 2008 (UTC)[ateb]

  • robot - robot
  • Adding - Ychwanegu
  • Removing - Tynnu
  • Modifying - Newid

Unless anyone else has some better suggestions. Rhion 11:44, 17 Chwefror 2008 (UTC)[ateb]

Having looked at the context for these on the recent changes special page I would like to suggest the following:
  • Adding - yn ychwanegu
  • Removing - yn tynnu
  • Modifying - yn newid

on the understanding that these will follow the word robot as required. Lloffiwr 12:59, 20 Chwefror 2008 (UTC)[ateb]

Byrfoddau gwledydd

Mae cwestiwn wedi codi ar yr erthygl Tom Pryce am y byrfoddau yr ydym yn defnyddio mewn tablau ar gyfer enwau gwledydd. Dyma gopi o'r sgwrs ar hyn:

Byrfoddau yn y tabl canlyniadau. Ai byrfoddau'r FIA sydd yn y tabl Saesneg o'r canlyniadau? Os mai 'te, ydy hi'n well peidio â'u cyfieithu? Lloffiwr 19:02, 17 Chwefror 2008 (UTC)[ateb]

Mae'r Wikipedia Saesneg yn defnyddio system 'proprietary' ar gyfer yr byrfoddau. Nad yw'r system yr FIA yn addas oherwydd mae'r rasus cynnar gyda ond un llythur (e.e. F - France, J - Japan, D - Germany) rhai eraill gyda dau (BR - Brazil, GB - Great Britain) a'r leill tri. Sai'n siwr os dylwn ni defnyddio system arall (system yr International Olympic Committee effallai?) AlexJ 23:39, 17 Chwefror 2008 (UTC)[ateb]

Beth yw'r barn am yr hyn fyddai orau ar Wicipedia? Lloffiwr 23:22, 12 Mawrth 2008 (UTC)[ateb]

Mae tabl ar Wikipedia yn cymharu byrfoddau FIFA, IOC ac ISO, gweler Wikipedia. A fyddai'n syniad da i ni drosi'r tabl hwn i'r Gymraeg, p'un ai ydyn ni am ddefnyddio'r codau ai peidio? Oes rhywun ag awydd gwneud hyn? Fe allem ni benderfynu defnyddio un o'r setiau codau yma ar gyfer canlyniadau gyrru F1 a thablau eraill o bosib. Lloffiwr 18:10, 22 Mawrth 2008 (UTC)[ateb]
Wedi cyfieithu'r tabl sydd yn cymharu byrfoddau gwledydd. Yn cefnogi cynnig AlexJ i ddefnyddio byrfoddau'r IOC. Lloffiwr 18:15, 5 Mai 2008 (UTC)[ateb]

copyright

Does this wikipedia have an Exemption Doctrine Policy inline with this foundation resolution?Geni 18:13, 24 Mawrth 2008 (UTC)[ateb]

I can't find one. Is there a plan to develop one?Geni 23:26, 27 Mawrth 2008 (UTC)[ateb]
No Exemption Doctrine Policy as yet. This matter has not yet been discussed - will start drafting something as a basis for discussion before too long unless someone else starts the ball rolling. Lloffiwr 21:17, 6 Ebrill 2008 (UTC)[ateb]
Beth am beidio â chael polisi sydd yn caniatau eithriadau i'r polisi trwyddedu sylfaenol? Byddai'n golygu ein bod yn colli rhai o'r lluniau sydd ar Wicipedia ond yn golygu bod ein polisi yn gymharol hawdd i'w weinyddu. How about not having an Exemption Doctrine Policy? This would mean that we would lose some of our images but it would be relatively straightforward to administer. Lloffiwr 14:35, 26 Mai 2008 (UTC)[ateb]
Dyna'r ffordd hawsaf, mae'n debyg, ond dwi ddim yn awyddus i weld rhai o'n lluniau yn diflannu oni bai fod rheswm da am hynny (torri hawlfraint yn gwbl ddigywilydd, er enghraifft). Buaswn yn awgrymu fel man cychwyn ein bod yn mabwysiadu'r polisi trwyddedu sylfaenol yn ei grynswth. Wedyn gellir ystyried wneud newidiadau os yw'n briodol. Yn fy mhrofiad i ar y wici Saesneg a chomins, mai'r polisi sylfaenol yn llawer rhy hallt - mae nifer o gyfrannwyr eraill, diffuant, yn cwyno am hyn ac am y drafferth mae'n golygu weithiau i ddelwedd gael ei dderbyn. Ond o leiaf fel yna buasai gennym ni bolisi (mae hyn yn fy atgoffa am y ddadl ynglŷn â'r Gyfraith yng Nghymru: os am gael Cyfraith Gymreig y ffordd hawsaf yw mabwysiadu'r hyn sy'n bod eisoes, sef Cyfraith Lloegr, ei gwneud yn Gyfraith Cymru a'i diwygio [yn eitha trwyadl, mae'n debyg!]). Ydy hynny'n gwneud synnwyr? Anatiomaros 15:00, 26 Mai 2008 (UTC)[ateb]
Not much chance of me being able to make a meaningful contribution to this initiative, I'm afraid. But I agree we should probably attempt to have everything other wikipedias have, if someone is willing to do the work. Deb 17:24, 26 Mai 2008 (UTC)[ateb]
I think we should take a similiar stance to en:, except for the need to provide sources for pictures. Recently, I've been deleting pictures that have duplicates (or very similiar) on commons, and then I will try to replace pictures with unknown copyright status with known free versions from commons. Then I think we should create tags giving copyright status, and apply them to all pictures stored on Wicipedia, and if the uploader cannot give copyright status, the picture should be deleted. Paul-L 15:42, 28 Mai 2008 (UTC)[ateb]

Martha Jac a Sianco

Pam Martha, Jac a Sianco fel enw'r erthygl, a Martha Jac a Sianco enw ar glawr y llyfr cymraeg ( a Martha, Jac a Sianco ar y glawr saesneg)? Shelley Konk 12:46, 27 Mawrth 2008 (UTC)[ateb]

Ynteu cangymeriad gan y dylunydd (mi ofynnai iddo fo!) neu defnyddio lliw a layout fel punctuation mae o, os weli di mae Jac ar linell gwahanol i Martha ac yn liw gwahanol felly yn weledig, ti'n rhoi'r comma i fewn yn dy ben. Dylunwyr...dwi'n gwybod...sori! Thaf 08:18, 1 Mai 2008 (UTC)[ateb]
Hefyd os sylwi di ar gwales.com, mae'r teitl Cymraeg yn cynnwys comma ym mhob achos, yn cynnwys ar y CD o'r llyfr Cymraeg ac ar phob catalog a rhestr gobrau. Fedri di gymryd be ma' dylunwyr yn gwneud hefo pinshiad bach o halen - y peth pwysica fuasai gweld beth mae'n ddweud ar y credits a'r dudalen deitl tu mewn. Thaf 08:25, 1 Mai 2008 (UTC)[ateb]

Cerddi ar Wicipedia

Mae defnyddiwr newydd wedi ychwenegu erthygl Dysgub Y Dail

Ydi cerddi (a'u dadansoddi) yn addas?

Dwi ddim yn siwr os yw hwn yn addas ar gyfer y Wicipedia. A yw cerddi yn fwy addas i'w cynnwys ar y WiciDestun (cyn belled ei fod yn "destunau gwreiddiol sy'n eiddo cyhoeddus neu o dan termau'r Drwydded Dogfennaeth Rhydd GNU (GFDL))?

Hefyd, efallai bod y cyfranwr yn ddisgybl neu'n fyfyriwr achos bod dadansoddiad o'r gerdd yn yr erthygl. Dwi ddim yn siwr pa mor addas yw hyn chwaith, gan mai barn ydi o yn y pen draw dybiwn i? Mae'n grêt bod pobl ifanc yn cyfrannu at y Wiciepdia a dwi ddim eisiau ei ddychryn ffwrdd, ond cyn i mi adael sylw am y peth ar ei dudalen sgwrs, beth yw'r 'polisi' am gerddi?--Ben Bore 11:42, 28 Mawrth 2008 (UTC)[ateb]

Mae'r awdur yn dweud ei fod yn [gymorth i fyfyrwyr eraill], (a dwi ddim yn amau hynny) ond a'i ar wicipedia yw ei le?--Ben Bore 15:18, 28 Mawrth 2008 (UTC)[ateb]
Dwi'n tueddu i gytuno. Mae 'na le i erthyglau am gerddi, e.e. mae gennym Armes Prydein, ond rhaid iddyn nhw fod yn gerddi adnabyddus sydd â lle amlwg yn hanes llenyddiaeth y wlad a chael digon i ddweud am y testun yn wrthrychol hefyd, fel y cefndir hanesyddol, mytholegol, a.y.y.b. neu ei ddylanwad ar waith llenorion eraill, cyfeiriadau ati mewn gweithiau llenyddol, ffilmiau, caneuon, a.y.y.b. — h.y. tipyn mwy na dadansoddiad neu feirniadaeth lenyddol o'r gerdd ei hun o safbwynt unigolyn. Mae'n braf cael pobl ifainc yn cyfrannu, fel ti'n ddeud, a dydw i ddim isio bod yn negyddol, felly be di'r ateb yma? Efallai buasai'n well fel adran fer yn yr erthygl am y bardd/beirdd, heb y testun cyfan (gellid postio hynny ar wicidestun os nad yw yno'n barod a rhoi dolen i mewn) a gydag agwedd fwy gwrthrychol? Anatiomaros 21:30, 28 Mawrth 2008 (UTC)[ateb]
Yn cytuno gyda sylwadau Anatamiamaros, heblaw bod problem hawlfraint ar y gerdd, hyd y gwelaf. Mae'r broblem hawlfraint yr un ar bob wici - Wicipedia, Wiciquote, Wicillyfrau a Wicitestun. Mae modd cyfrannu eich dadansoddiad eich hunan o gerdd ar Wicillyfrau - ond nid wy'n gwybod beth yw'r polisiau fan'ny i sicrhau safon dda i'r cyfraniadau. Lloffiwr 21:36, 29 Mawrth 2008 (UTC)[ateb]

Bot status for User:DragonBot

Hello! I ask for permission to run my interwiki bot DragonBot here at the Welsh Wikipedia, and to get a bot flag for it.

  • Bot accout: User:DragonBot (contributions)
  • Botmaster: User:DragonBot
  • Botmaster's home project: ml:User:Jacob.jose
  • List of botflags on others wikipedias: Malayalam(ml), English(en), Simple English(simple), Samogitian(bat-smg), Bengali(bn), Manipuri(bpy), Telugu(te), Russian(ru), Italian(it), Norwegian(no), Danish(da), Turkish(tr), Albanian(sq), Volapük(vo), Swedish(sv), Tamil(ta), German(de), Japanese(ja), Arabic(ar), Esperanto(eo), Romanian(ro), Catalan(ca), Spanish(es), French(fr)
  • Purpose: Interwiki
  • Technical details: Interwiki bot starting from wikis in South Asian Languages. Runs in Automated/Supervised mode. --Jacob.jose 13:32, 31 Hydref 2007 (UTC)[ateb]

Cornel y dysgwyr / Learners' corner

Rydw i wedi ychwanegu tudalen newydd Wicipedia:cornel y dysgwyr.

I've added a new Learners' Corner page (see above link). The main idea is that it is a place to list tasks that are suitable for learners to help with, who may not be able to write long sections of prose.

NB I can't promise how often I will log into Wicipedia myself, but that's not really the point as there must be quite a number of other learners out there.

Alan012 07:44, 13 Ebrill 2008 (UTC)[ateb]

Dwi 'di ychwanegu cyswllt i'r cornel ar y dudalen hafan (o dan "Cymuned"). --Adam (Sgwrs) 20:56, 14 Ebrill 2008 (UTC)[ateb]

Delweddau deniadol ar gael

Efallai fod rhai ohonoch chwi wedi gweld fy mod yn ychwanegu sawl llun dros y dyddiau diwethaf. Mae nhw ar gael dan drwydded Creative Commons o safle geograph.org (yma). Mae ganddyn nhw gronfa ddata sy'n cynnwys y rhan helaeth o Gymru a gweddill Prydain ac Iwerddon. Pe bai'n bosibl i ni fynd ati bob hyn a hyn i chwilio eu safle a chael lluniau ar gyfer pob pentref, mynydd, a.y.y.b., buasai'n wych. Tipyn o waith, wrth gwrs, ond mae'n rhywbeth i'w wneud bob hyn a hyn. Cewch chwilio ar y safle trwy roi enw yn y blwch chwilio neu gyda'r mapiau sŵmio i mewn, neu jest trïwch deipio "geograph" + "enw lle" yn google. Mae safon y lluniau'n amrywio ond mae rhai o nhw'n ardderchog (gweler y llun hwn er enghraifft). Rhaid nodi'r ffynhonnell - enw'r ffotograffydd a URL y llun (hawdd - nodwch y rhif ac mae'n dilyn ar http:www.geograph.org.uk/photo/[rhif] bob tro). Syniad da, gobeithio. Dim problem efo'r hawlfraint o gwbl - digon o enghreifftiau ar y wici Saesneg, ond dim llawer am Gymru - cyfle i ni achub y blaen?! Anatiomaros 21:57, 22 Ebrill 2008 (UTC)[ateb]

Gwych, ac yn waith digon pleserus yn fy marn i. Mae Flickr hefyd yn le da i chwilio am luniau, ble mae rhai defnyddwyr wedi rhoi trwydded Creative Commons ar eu lluniau - h.y. mae'r perchenog yn fodlon i bobl eu hail-ddefnyddio heb orfod gofyn am ganiatad, ond ar yr amod bod cydnabyddiaeth (a dolen at y llun neu broffil y defnyddiwr). Teipiais 'Cymru' a darganfod set yn cynnwys lluniau defnyddiol Plaid Cymru, San Steffan 1974 gan fab y newyddiadurwr Clive Betts!--Ben Bore 09:31, 23 Ebrill 2008 (UTC)[ateb]

Meetup about and around less resourced languages

Hi, some of you might already know that we are going to have a meeting about and around less resourced languages on 31st of May 2008, which among others involves the Wikimedia projects, in particular Wikipedia. For most less resourced languages Wikipedia is the first collaborative project. We will talk also about tools, like Apertium which can help a lot, and about Betawiki for the localization of the User Interface of not only Wikipedias, but all Mediawiki projects in general. Furthermore you will be able to know about activities like the Open Nursery project which collects and creates contents, concentrating on less resourced languages, how elders work together with young people to keep their language alive, about kids in Africa who may not use their mother tongue at school. You will have the possibility to watch videos about topics which reach from how the UN and UNESCO see the actual language pictures to projects like a grammar checking engine, a successful localization project and some more topics.

Of course, all of you are invited to meet up with us in Cherasco (yes, there is a Wiki-Camp available) and those who cannot come are invited to follow us on web-tv (we are not sure now if we will be live or if the presentations will be online as soon as possible after they are on, but in any case you will be able to watch or the videos with relevant information or see us live.

  • Click here for the programme of the 31st of May
  • Click here for information about lodging and travel
  • Click here for the programme from 21st May to 1st June
  • Click here to watch the WEB-TV (right now there are just two videos, one slide show and the information for the wiki camp online – we are still working on the actuall programming for the conference)

Well there is one more thing to tell you/to ask: of course it is very relevant for us as a foundation to know about the actual needs in your language community, why you find the projects you contribute to useful, what are your personal goals. You can post your comments under the programme of 31st May or send an e-mail with your notes to info [at] voxhumanitatis.org. Please note that Vox Humanitatis is non-politica. More info about us can be found at our website where you also find the projects we support, a link to our scope and a link to our members.

Should you have any questions or need further information, please feel free to contact us.

Thank you for your attention and we hope to meet you soon!

Cheers :-) --SabineCretella 07:45, 29 Ebrill 2008 (UTC)[ateb]

Vandalism

Allwn ni'n cyswllt yr adran addysg Sir y Fflint, sy'n addef yr IP Arbennig:Contributions/193.63.87.227 ? Marnanel 16:34, 2 Mai 2008 (UTC)[ateb]

Dileu'r erthygl am y Wicipedia ar Wikipedia

Nid canfasio ydw i yma am i bobl roi ei barn ar Wikipedia:Articles for deletion/Welsh Wikipedia, ond oes gan rhywun unrhyw gyfeiriadau o werth, ble mae'r Wicipedia'n cael ei grybwyll. Dwi'n ciofio drllen amdano yn Y Faner Newydd ac yn Golwg (ac o bosib y Western Mail), ond does gyda fi ddim cof pryd.--Ben Bore 10:28, 18 Mai 2008 (UTC)[ateb]

Dwi'n credu mai rhywbryd cyn Ebrill 2007 y cafwyd erthygl ar Wicipedia yn Golwg - mae rhyw frith gof gennyf eu bod wedi argraffu'r erthygl wicipedia ar y Dylluan Fach fel enghraifft. Os caf gyfle af am dro i lyfrgell y dre i bori trwy'r ôl-rifynnau o Golwg a'r Faner Newydd, os ydynt ar gael. Lloffiwr 14:43, 18 Mai 2008 (UTC)[ateb]
Pam ychwanegu'r ddolen os nid canfasio ydych chi? Alan012 12:14, 19 Mai 2008 (UTC)[ateb]
Er mwyn gweld os oedd rhywun yn gwybod/cofio pryd cafodd y Wicipedia ei grybwyll yn y wasg Gymraeg (neu Saeseng). Ar y Wikipedia, mae adran i nodi pam mae'n cael ei grybwyll yn ywasg, dwi'n frith gofio rhywbeth tebyg ar y Wicipedia, ond dwi ddim yn siwr. Yn sicr byddai o werth. Diolch am eich cymorth.--Ben Bore 12:02, 20 Mai 2008 (UTC)[ateb]
Fe borais drwy hen rifynnau Golwg o Fedi 2006 hyd at Awst 2007 heb ddarganfod ond un frith-gyfeiriad at Wicipedia yn rhifyn 23 Awst 2007. Dy'n nhw ddim yn cadw'r Faner Newydd yn y llyfrgell. Dim rhagor o amser gennyf i bori ymhellach trwy Golwg yn anffodus. Gyda llaw, ro'wn i'n falch eich bod wedi gosod y cyswllt i'r dudalen dileu ar Wikipedia er mwyn i mi allu fynd at y dudalen yn hwylus, a darllen y drafodaeth fy hunan. Pe na byddech wedi rhoi'r cyswllt ynta' y bydde rhywrai wedi achwyn eich bod yn ceisio cwato'r drafodaeth! Bach o no win situation weda'i. :) Lloffiwr 19:08, 21 Mai 2008 (UTC)[ateb]

Commons Ticker

Mae modd i dderbyn gwybodaeth pan fo lluniau o Gomin Wicifryngau sy'n cael eu defnyddio ar Wicipedia ar fin cael eu dileu. Teclyn o'r enw Commons Ticker sydd yn gallu gwneud hyn - gweler [1] a Commons Delinker, sy'n egluro sut maent yn cael gwared ar gysylltiadau at luniau sydd wedi cael eu dileu. Oes rhywun neu rywrai ag awydd cadw llygad ar y Commons Ticker? - y diben yw rhoi cyfle i ni osod llun arall yn lle'r un sydd ar fin gael ei ddileu. Nid oes yn rhaid bod yn weinyddwr i wneud y gwaith hwn, ond bod angen i weinyddwr gynorthwyo i osod y teclyn ar Wicipedia. We can be notified when an image on Wikipedia Commons is about to be deleted by using the Commons Ticker - see [2] and Commons Delinker (which explains how Commons gets rid of links to deleted images. Is anyone interested in tracking the Commons Ticker? - the purpose is to give us the chance to load an alternative image from Commons. This work can be done by any user although an administrator needs to assist to install the Commons Ticker on Wicipedia Lloffiwr 14:26, 26 Mai 2008 (UTC)[ateb]

Bot status for Synthebot

Dear all, this is to request a bot flag for Synthebot. It has already made some test contributions. Its technical information is summarized below.

  • Operator: Julian Mendez
  • Automatic or Manually Assisted: mostly automatic in autonomous mode; sometimes manually assisted to solve interwiki conflicts
  • Programming Language(s): pywikipedia
  • Function Summary: interwiki links
  • Already has a bot flag on: more than 50 wikipedias, see SUL table

Further technical information is available on its main page. Thank you in advance. Regards, --Julian 13:47, 1 Mehefin 2008 (UTC)[ateb]

Hello. I would like to get a bot-flag on this wiki.

  • Operator: de:User:Euku
  • Purpose: Interwiki links: It adds/modifies/deletes interwiki links.
  • Software: pywikipediabot framework via SVN
  • Already has bot flag on: 51 Wikipedias, for example: ar, bn, ca, cs, de, en, es, eu, da, fr, he, hu, it, pl, ro, ru, sq, tr. (on German Wikipedia since 2006, with >67.000 edits), look at details
Thank you! --Euku 08:20, 4 Mehefin 2008 (UTC)[ateb]

Botiau

There are several bots at work which are not marked as such. I can't do so because I'm not a bureaucrat. Can someone else do it? I can probably work out a list. Marnanel 19:20, 5 Mehefin 2008 (UTC)[ateb]

Betawiki update

Erthyglau Llenyddiaeth

Rwy'n flin am gwestiynau twp fel hyn ond:

Rwy'n bwriadu ychwanegu at nifer o'r erthyglau llenyddiaeth yn y dyfodol agos. Oes canllawiau hawlfraint i'w dilyn wrth ddyfynnu? A beth yw'r rheol gyda dadansoddi themâu? Glanhawr 17:29, 11 Mehefin 2008 (UTC)[ateb]

Nid yw'r polisi hawlfraint ar Wicipedia wedi ei setlo eto - gweler uchod. Wedi dweud hynny bydd y polisi terfynol yn debygol o fod yn weddol agos at yr un ar Wikipedia ond rhywfaint yn fwy caeth, fel ag y mae gyda'r wiciau eraill sy'n defnyddio'r gweinydd yn Ewrop - yn dilyn egwyddorion 'fair dealing' yn hytrach na 'fair use'. Dyma ddetholiad o'r cyngor ar Wikipedia:

  • Y parth cyhoeddus:
  • Os nad yw rhywbeth yn y parth cyhoeddus:
    • Gellir holi caniatad yr awdur neu'r deiliad hawlfraint i gyhoeddi rhan o'i waith ar Wicipedia - gweler Using copyrighted work from others.
    • What is fair use? sy'n dweud - 'Quotations are very well known and widely used form of fair use and fair dealing and are explicitly allowed under the Berne convention.' Y cwestiwn yw, faint o ddarn o farddoniaeth sydd yn ormod? Fe welais rhywbeth am hwn rhywdro ar Wikipedia ond alla'i ddim yn fy myw a chael hyd iddo eto! Os yw'n awdl, gellir dyfynnu sawl llinell mae'n debyg, ond gyda cherdd o 8 llinell byddai dyfynnu degfed rhan ohono yn golygu dyfynnu llai nag un llinell!
    • eglurhad o 'fair dealing' ym Mhrydain. Mae cwestiwn yn codi fan hyn ynglŷn â phwrpas Wicipedia. Y mae'n bosib y byddai termau cyhoeddi Wicillyfrau, os ydynt yn caniatau defnydd addysgol yn unig, yn caniatau mwy o ryddid nag yw Wicipedia oherwydd y rhyddid i'w ddefnyddio at bwrpasau masnachol - dwi ddim wedi ymchwilio i hwn eto - oes rhywun yn gwybod rhywbeth am hwn?

Ynglŷn â'r man addas i drafod themâu - gweler Sgwrs:Dysgub Y Dail ac uchod. O'm rhan i, byddai'n well gennyf weld erthyglau am lenyddiaeth yn dechrau'n rhan o'r erthygl ar yr awdur. Os tyf yr erthygl yn rhy hir, dyna'r adeg i rannu'r deunydd yn erthyglau ar wahan ar gyfer yr awdur a'i waith. Os ydych am y rhyddid i ddadansoddi themau ag ati mae Wicillyfrau yn debygol o fod yn fwy hwylus; gan fod gwaith gwreiddiol, a beirniadaeth a allai dramgwyddo'r rheolau osgoi rhoi barn yn cael eu caniatau fan hynny, lle nad ydynt ar Wicipedia. Ar Wicipedia mae angen gallu cyfeirio at ffynhonell y 'wybodaeth' (gan gydnabod bod gwybodaeth am themau nofel yn 'wybodaeth'). Mae rhai ysgrifau beirniadaethol i'w cael ar Wikibooks, er bod y rhain yn ymddangos i mi fel petai nhw wedi eu cyfeirio at fyfyrwyr ysgol.

Petaech am fod yn fwy rhydd wrth drafod gwaith llenyddol gallech wrth gwrs greu erthyglau ar Wicipedia a Wicillyfrau. Mae modd rhoi nodyn yn cysylltu erthyglau ar bynciau tebyg ar y ddwy dudalen.

Dwi ddim yn gwybod a ydw hyn o unrhyw gymorth - fel y dywedais uchod nid oes polisïau wedi eu cytuno ar Wicipedia eto felly fy syniadau i yw'r rhain yn unig - rwyn siwr y cawn digon yn barod i anghytuno â'r sylwadau! Lloffiwr 19:36, 22 Mehefin 2008 (UTC)[ateb]

Request bot flag for WikiDreamer Bot

  • Operator: WikiDreamer
  • Automatic or Manually Assisted: Automatic
  • Programming Language(s): Python (Pywikipedia framework)
  • Function Summary: Interwiki from bs wikipedia
  • Bot with flag: 41 & ++ wikipedia

I run my bot now for 50 test edits. Thanks! --WikiDreamer Talk 14:20, 16 Mehefin 2008 (UTC)

wicipedia.org

(Sori am fod fy nghwestiwn yn Saesneg - atebwch yn Gymraeg os mae'n well gennych chi.)

I see that the domain wicipedia.org is owned by a cybersquatter. Did it previously point here? And does anyone have a view about whether it is worth trying to get hold of it? Alan012 05:24, 24 Mehefin 2008 (UTC)[ateb]

Dwi ddim yn gwybod os oedd arfer a chael ei gyfeirio (directed) yma. Yn y farn i does dim lot o bwynt ceisio ei brynnu, oni bai bod polis gan Sefydliad Wikipedia o fod a pherchnogaeth o gyferiadau fel hyn - beth am y wici's eraill mewn ieithoedd ag eithrio Saeseng (what's the situation with other wikies excluding the English one)? + ac yn bwysicach fyth, pwy fyddai'n talu? --Ben Bore 10:17, 27 Mehefin 2008 (UTC)[ateb]
Ok, diolch am yr ateb. Ro'n i'n tybio bod y Gymraeg yn eitha eithriadol fel iaith gyda'r wyddor Ladin sy ddim yn ei alw "Wikipedia" (e.e. mae'r Ffrangeg, Almaeneg, a Sbaeneg yn defnyddio "Wikipedia", er bod acen yn y Ffrangeg), ond wedi gweld y rhestr llawn yn ddiwetha - dwi'n anghofio'r URL yn anffodus gwelwch cyfeiriadau (cliciwch ar "show" er mwyn eu gweld) - mae lot o fersiynau gwahanol yr enw, a fasai hi ddim yn resymol i'r Foundation eu prynu nhw i gyd. Alan012 17:55, 30 Mehefin 2008 (UTC)[ateb]

Amlygrwydd

Ga'i dynnu sylw at y cwestiwn gododd Ben Bore am yr erthygl am Annette Strauch? Mae'r drafodaeth ar fy nhudalen sgwrs. Anatiomaros 18:58, 26 Mehefin 2008 (UTC)[ateb]

Ond efallai ei bod hi'n well rhoi o yma:
Dw i'n siwr mai Annette ei hun sydd wedi ysgrifennu'r erthygl yma. Mae hi wedi cyflawni llawer mwy na fi yn ei bywyd, ond dwi ddim yn siwr os yw bod ag MA yn ddigon i fod ag erthygl amdani ar Wicipedia. Mae hi'n amlwg yn frwd iawn dros Gymru a'r Gymraeg a hoffwn i ddim ei phechu - dyna pam dwi'n pass the buck ac yn codi'r peth fan hyn! Yn amlwg does dim rhaid i ni gadw atyr un canllawiau notability â'r wici Saesneg, ond ble mae bennu llinell?--Ben Bore 10:12, 26 Mehefin 2008 (UTC)[ateb]
Ia, roeddwn i'n amau fod rhywbeth reit od am yr erthygl - llawer gormod o fanylion "personol" ac ati. Dwi'n cyfadde hefyd yr oeddwn, fel ti, yn amheus am "amlygrwydd" Annette (gyda phob parch iddi). Lle mae tynnu'r llinell, dyna'r cwestiwn. Ac os ydy'n wir mai hi ei hun a ysgrifenodd yr erthygl a ydy hynny'n dderbyniol? Go bron brin bod hi'n erthygl ddiduedd felly. Wnes i ddim gwneud llawer o ddiwygio ar yr erthyl ar y pryd, jest rhoi'r categoriau ac ambell beth arall, ond dydy'r arddull ddim yn wrthrychol, a deud y lleia. Wn i ddim be dy'r gorau i wneud, ei chadw neu ei dileu? Rydym ni angen erthyglau yn sicr, ond ydy hynny'n rheswm dros dderbyn safonau is na'r disgwyl? Mae'r un peth yn wir am rai o'r erthyglau am gerddorion a bandiau Cymraeg hefyd, ond o leia mae 'na siawns bydd rhywun wedi clywed amdanyn nhw yn y lle cyntaf. Hyd y gwelaf i dydy hi ddim wedi cyhoeddi llawer, jest gwneud gwaith ymchwil, ac mae 'na ddwsinau o bobl tebyg yn y wlad 'ma. Bw wnawn ni felly? Dwi mewn tipyn o benbleth am hyn ac felly dwi am "basio'r byc" fel ti a rhoi nodyn yn y Caffi yn cyfeirio at ein trafodaeth bach yma, yn y gobaith bydd gan rywun arall farn am hyn. Anatiomaros 18:55, 26 Mehefin 2008 (UTC)[ateb]
Rydw i braidd yn amheus hefyd. Ydi hi wedi cyhoeddi rhywbeth? Mae hi'n eithaf amlwg ar Google, ond blogiau a phethau tebyg ydyn nhw. Rhion 20:45, 26 Mehefin 2008 (UTC)[ateb]
Dwi ddim yn gwybod a ydyw hi wedi cyhoeddi unrhyw beth o gwbl. Dim llyfr o leiaf; erthyglau efallai. Dwi'n tueddu i feddwl mai tipyn o hunan-gyhoeddusrwyd yw hyn yn y bôn. Mae 'na lawer o academyddion mwy amlwg heb erthyglau amdanynt, a buasech chi'n disgwyl i rywun fod yn adwur un llyfr safonol adnabyddus o leiaf i haeddu erthygl mewn gwyddoniadur. Anatiomaros 20:56, 26 Mehefin 2008 (UTC)[ateb]
Dylwn fod wedi codi'r peth yma yn y lle cyntaf. Fy rheswm dros beidio oedd achos dwi wedi bod mewn cyswllltiad âg Annette dros y we ynglŷn a rhywbeth arall (ni'n dau yn flogwyr a defnyddiwyr gwefan o'r enw QYPE), felly teimlais braidd yn lletwith yn codi'r peth. Byddw'n i'n cynnig ei ddileu, neu fe allai greu cansail i eraill wneud rhywbeth tebyg. O ran bandiau Cymraeg - mae hwn yn annoddach fyth. Roeddwn am gynnig bod ymddangosiad ar Bandit, neu cael cân ar Radio Cymru efallai'n ffon fesur o amlygrwydd - ond eto (a dwi'n ffan mawr o fandiau Cymraeg bach a mawr), gall unrhywun bron ddechrau boand Cymraeg a bod ar y radio o fewn 6 mis! - sori os ydy hynny'n swnio'n greulon.--Ben Bore 09:50, 27 Mehefin 2008 (UTC)[ateb]
Yn cytuno nad yw'r erthygl ar Annette Strauch yn egluro pam ei bod hi'n ddigon nodedig i haeddu erthygl amdani ar Wicipedia. Beth am gynnwys nodyn tudalen amheus ar yr erthygl a rhoi cyfle (gwedwch mis) i'r cyfrannwr, neu rywun arall, i ychwanegu tystiolaeth o amlygrwydd A Strauch i'r erthygl neu i'r dudalen sgwrs. Os oes ‘tystiolaeth’ yn cael ei ychwanegu ond bod amheuaeth a ydy e’n ddigonol gallem gynnal pleidlais dros y cynnig i ddileu.
Ar yr un pryd byddai'n werth i ni fynd ati, fel yr awgryma Ben Bore, i ddatblygu polisïau a chanllawiau ar ddileu erthyglau a'u cyfuno ac ar benderfynu a ydy rhywbeth yn ddigon nodedig ar gyfer Wicipedia. Ynta’ y bydd ein polisïau a’n canllawiau ni yn ddigon tebyg i’r rhai ar wiciau eraill ond eu bod efallai yn rhoi ystyriaeth i’r ffaith ein bod yn griw bach o olygwyr yma ar Wicipedia, ac hefyd bod yr hyn sydd o ddiddordeb i siaradwyr un iaith ddim o reidrwydd yr un mor ddiddorol i siaradwyr iaith arall.
Da gweld pwnc amlygrwydd y bandiau Cymraeg yn cael ei godi eto. Dwi’n cynnig y canlynol:
  • Dechrau tabl y bandiau a’r cantorion unigol sy’n canu yn Gymraeg. Gallem gael un tabl ar gyfer pawb o’r bandiau a’r cantorion unigol neu eu rhannu’n dablau llai yn ôl math y gerddoriaeth (canu gwlad, canu gwerin, roc, opera, ayb). Yn wahanol i’r canllaw ar Wikipedia, ni byddai’n rhaid dangos bod y band yn nodedig cyn ei roi yn y tabl. Petai amheuaeth ai ffug yw rhyw fand yn y tabl gallem holi am gyfeiriad at ffynhonnell sy’n sôn am y band. Beth am roi’r wybodaeth canlynol yn y tabl:
    • Enw’r band/canwr ac enwau’r aelodau mewn rhestr o dan enw’r band
    • Os mai un tabl ar gyfer pob math o fand fydd, yna’r math o gerddoriaeth
    • Dyddiad ffurfio’r band
    • Dyddiad gorffen y band
    • Cyswllt at wefan y band?
    • Nodiadau ychwanegol
  • Os am greu rhestr y bandiau Cymraeg yna gallem ystyried creu rhestr o fandiau a chantorion o Gymru sy’n canu yn Saesneg (neu ieithoedd heblaw Cymraeg), yn unig.
  • Gosod canllaw ar gyfer creu erthygl ar ryw ganwr neu fand. Mae rhai syniadau gennyf am amodau y gallem eu gosod, a bod angen i fand gyrraedd o leiaf un o’r amodau cyn cael erthygl amdanynt:
    • Bod band wedi cyhoeddi o leiaf (gwedwch) 2 CD/LP. O bosib gallem gyfyngu’r amod hwn ymhellach drwy osod amod bod angen bod adolygiadau o un o’r CDs wedi ymddangos yn y wasg genedlaethol.
    • Bod adolygiadau o gigs y band wedi ymddangos yn y wasg genedlaethol a bod y band/canwr wedi bod yn perfformio am rhagor na dwy flynedd.
    • Bod y band/canwr yn ymddangos mewn bywgraffiadur (ond nid cyfeiriadur).
    • Bod y band/canwr yn cael eu cydnabod yn ddylanwad ar bobl eraill (e.e. Meic Stephens am ei ddylanwad ar gerddorion eraill, Dafydd Iwan am ei ddylanwad politicaidd).
    • Bod y band/canwr yn cael eu trafod mewn erthyglau, mewn llyfrau, mewn rhaglenni teledu, ayb. Nid yw hyn yn cynnwys cyfeiriadau atynt wrth fynd heibio.
    • Os yw’r tystiolaeth ysgrifenedig yn brin, neu ei bod hi’n anodd cael gafael ar gyfeiriadau ysgrifenedig, yna bod cytundeb deg (gwedwch) o gyfranwyr â chyfrifon ganddynt ar Wicipedia, bod y band yn nodedig.
    • Bod y band/canwr wedi ennill gwobr nodedig. Ni fyddai hyn yn cynnwys gwobrau eisteddfodau lleol, eisteddfod yr Urdd na gwobrau ar gyfer newydd-ddyfodiaid.
  • Rhoi nodyn 'nodedig?' ar dudalennau’r bandiau di-nod sydd ar Wicipedia eisoes, fel ag a ddisgrifir isod. Ar y rhai na fydd yn cyrraedd y safon 'nodedig' gallem droi'r tudalen yn dudalen ail-gyfeirio at y tabl bandiau. Petai'r band yn datblygu i fod yn nodedig yn y dyfodol, digon rhwydd creu erthygl amdanynt eto.

Mae canllaw Wikipedia yn trafod nad yw poblogrwydd nac enwogrwydd ar eu pennau eu hunain yn ddigon i gyrraedd y safon ‘nodedig’ ar gyfer cynnwys pobl yn Wikipedia. Mae hefyd yn trafod bod angen defnyddio synnwyr cyffredin wrth drafod hyn oll. Rwy’n cynnig bod ein canllaw ninnau’n cynnwys hyn.

Os y gwnawn ddatblygu rhyw system tebyg i’r hyn a drafodir uchod yna rwy’n cynnig y gallem ddefnyddio nodyn tebyg i’r nodyn a ddefnyddir ar Wikipedia i nodi bod amheuaeth a yw erthygl yn ddigon nodedig i’w gynnwys ar Wicipedia. Gallem roi cyfnod penodedig i ychwanegu tystiolaeth bod erthygl yn cyrraedd y safon o fod yn ‘bwnc nodedig’. Os cwyd anghydfod gallem gynnal pleidlais ar y dudalen ‘Tudalennau amheus’ ynglŷn â’r erthygl.

Lloffiwr 21:51, 28 Mehefin 2008 (UTC)[ateb]

Dw i'n meddwl yn sicr bod angen creu nodyn 'nodedig?/amheuaeth amlygrwydd', ac yna ei osod ar dudalen A Strauch (ac un neu ddau arall mae'n siwr). Mae'r syniad rhestru bandiau yn syniad da, ac mae'r meini prawf uchod ar gyfer creu erthygl am artist/fand wedyn yn swnio'n rhesymol. Mae erthygl Bandiau ar ffurf rhestr (cymysgedd o Cymraeg, Cymreig a rhyngwladol), categori Bandiau Cymreig (canu'n Gymraeg a Saesneg) ac erthygl Rhestr cantorion enwog (Cymraeg, Cymreig a rhyngwladol) i gyd yn bodoli'n barod, fyddai eisiau cael gwared neu uno rhai o'r rhain efallai?
Gol. Hefyd, dylai na fod polisi am hunan-gyhoeddusrwydd? Dwi'n siwr bod yr erthygl Paul Griffiths wedi ei ysgrifennu gannodo fo ei hun. Er, mae'n debyg iddo fod wedi cyflawni tipyn, ac mae hefyd mae wedi cyfrannu tipyn o erthyglau eraill.--Ben Bore 08:26, 30 Mehefin 2008 (UTC)[ateb]
Yn fy marn i, bydd yn dda iawn greu polisi addas, ond does dim rhaid ddisgwyl tan fydd y polisi wedi ei berffeithio yn lawn cyn gwneud rhywbeth gyda'r erthygl. Rhaid jest defnyddio'r nodyn sy gyda ni eisoes, a symud neu gopio'r drafodaeth hon i Wicipedia:tudalennau amheus. Alan012 18:14, 30 Mehefin 2008 (UTC)[ateb]
P.S. (a sori am y Saesneg) - re Paul Griffiths, there is no doubt at all. See his blog - note the URL and his username. Alan012 19:29, 30 Mehefin 2008 (UTC)[ateb]
Cafodd pedair dolen gwe am Annette Strauch eu dympio uchod yng nghanol y drafodaeth, heb nodyn o esboniad. (dyma nhw, wedi'u tacluso: "[3]; [4]; [5]; [6]; [7] a.y.y.b."). Hyd y gwelaf i dydyn nhw'n profi ddim byd ond bod Annette Strauch wedi gwneud gwaith ymchwil/archifio. Dwi'n digwydd nabod sawl person sydd wedi gwneud gwaith o'r fath, ond dwi'n siwr buaswn i ddim yn brifo eu teimladau taswn i'n deud bod nhw ddim yn haeddu erthygl yma am nad ydynt yn ddigon "amlwg". Anatiomaros 18:40, 19 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]

cysylltiadau masnachol

Sorry again about using so much English here, but it does say at the top that you can write in Welsh or English :-)

On a note vaguely related to the previous discussion, what's the policy on links to businesses? I haven't searched extensively for these links, but the Merthyr Tudful article links to a brewery and the Bangor one links to a holiday cottage. Is there an automated way to find external links? If so, it may be worth checking any that point to .co.uk or .com domains. Alan012 20:26, 30 Mehefin 2008 (UTC)[ateb]

Good point. It's a real problem on the english wikipedia which suffers constant spamming. Again, as above, there are so few of us and it's hard to keep track. Don't know if it's possible to adopt a bot for this from another wiki but we could really do with something along those lines, including a "find and replace" type of tool for category work, common spelling errors etc. I haven't a clue how we'd go about it though. Any ideas? Anatiomaros 20:47, 30 Mehefin 2008 (UTC)[ateb]
Found it. Arbennig:Linksearch. Type in "*.com" or "*.co.uk" for example. You still have to trawl through them, mind... Alan012 20:24, 1 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]

Angen Gweinyddwr Arall?

Carwn gynnig fy hun yn Weinyddwr a chredaf mai dyma'r lle pwrpasol i wneud hynny; cywirwch fi os ydw i'n anghywir. Carwn ofyn am ddau Weinyddwr i fy nghynnig.

Gwyddonydd wrth reddf, hanesydd o ran diddordeb a gwleidydd o ran natur!

Llywelyn2000 09:48, 5 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]

Wel, nid gweinyddwr ydw i, ond dwi'n eich cynnig serch hynny :-) Gallwch cyfrannu fel wyddonydd, hanesydd a gwleidydd heb fod yn weinyddwr, wrth gwrs. Ond os ydych chi am flocio fandaliaid a.y.y.b., dim problem yn fy marn i -- diolch am eich bodlonrwydd i helpu. Cofion, Alan012 21:41, 10 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]
Newydd sylwi ar hyn. Dwi'n fodlon eich cynnig chi, Llywelyn, er mai unig "fraint" gweinyddwr yw blocio fandaliaid a medru gwneud ambell dasg arall, mewn gwirionedd. Mwy pwysig o lawer yw creu erthyglau - basa'n braf cael bot neu ddau i wneud y gwaith arall i gyd! A sôn am weinyddwyr, wnes i sylwi fod Alan012 yn tynnu sylw at y ffaith fod rhai gweinyddwyr yn absennol - neu o leiaf heb wneud llawer - ers sbel rwan, ac felly efallai ei bod yn bryd i ni adolygu'r sefyllfa. Dwi'n fodlon cynnig Alan hefyd (os ydych chi'n dymuno hynny, Alan!). Anatiomaros 21:58, 10 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]
A minnau? Wel, diolch yn fawr am yr awgrymiad, ac faswn i ddim yn cwyno, wrth gwrs. Ond allwn i ddim addo faint fyddaf i o gymorth. Dysgwr ydw i yn unig, felly baswn i osgoi gweithredu mewn sefyllfaoedd cymhlith, os mae perygl nad ydw i wedi deall rhywbeth perthnasol. Alan012 22:59, 10 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]
Delio â fandaliaid yw'r rhan fwyaf o'r gwaith; does dim byd cymhleth iawn. Anaml mae rhaid delio a ffrae rhwng golygyddion yma, wrth lwc. Rwy'n barod i gefnogi'r ddau. Rhion 06:31, 11 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]

A finna'n credu mai Bot oedd Anatiomaros! Na, diolch am eich geirda. Fel cyn brifathro, mae gen i gryn brofiad o daflu drwgweithredwyr allan o'r dosbarth! Be di'r cam nesa? Oes 'na ddawns flodau? Llywelyn lll 22:37, 18 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]

Rhaid gofyn i un o'r Biwrocratiaid. Ond efallai fyddyn nhw am aros ychydig er mwyn i roi mwy o siawns i bobl eraill i wrthwynebu (er bod y wici mor dawel ar hyn o bryd nad ydw i'n sicr pwy boed yr eraill!). Alan012 06:48, 13 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]
Gan nad oes neb wedi wrthwynebu a bod Rhion, sydd yn fiwrocrat erbyn hyn (llongyfarchiadau iddo!), yn cefnogi'r ddau gais, dwi am eu gweithredu rwan. Anatiomaros 21:47, 18 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]
Wedi wneud o, mae gennym ddau weinyddwr newydd. Rwan bydd gennych y fraint o allu cicio allan fandaliaid a symud tudalennau! (ond byddwch yn ofalus gyda'r ail - mae dadnweud camgymeriad yn gallu bod yn drafferthus). Anatiomaros 21:54, 18 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]
Diolch yn fawr. Alan012 22:19, 18 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]
Diolch i bawb! A llongyfs i Alan a fi fy hun! Roedd teulu o betalau a llond llwyfan o liw! A'r Gymraeg ar y blaen yn cyhwfan fel gwên!!! Llywelyn lll 22:37, 18 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]
Dwi'n enwebu Ben Bore i fod yn weinyddwr. Mae o wedi derbyn y cynnig felly os caf rywun arall i gefnogi hoffwn symud ymlaen a'i wneud yn weinyddwr. Dwi wedi cynnig yr un peth i Tigershrike hefyd; mae wedi cyfrannu llawer dros y ddwy flynedd dwetha ond mae ar ei wyliau ar hyn o bryd, dwi'n meddwl, felly dim ymateb ganddo fo eto.
Dwi wedi bod yn sbiad ar y rhestr gweinyddwyr (Wicipedia:Gweinyddwyr). Er bod gennym 16 o enwau "ar bapur" ar hyn o bryd, mewn gwirionedd mae gennym ni lai na hynny. Mae dau heb wneud dim ers dros ddwy flynedd, sef Okapi a Gareth Wyn, ac un arall, Tomos ANTIGUA Tomos heb gyfrannu ers tua blwyddyn. Fedra'i ddim newid eu statws (meddwl buasai'n rhaid i fi a Rhion neu Deb ofyn i metawici i wneud hynny). Mae eraill ar y rhestr mond yn cyfrannu'n achlysurol iawn hefyd a heb wneud llawer hyd yn oed pan ddigwyddith hynny, e.e. Arwel Parry. Felly mae angen y ddau weinyddwr newydd i gael nifer resymol yma. Anatiomaros 15:49, 25 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]
Ynglŷn â newid statws y tri gweinyddwr sydd heb gyfrannu ers hydoedd - fe fyddai siwr o fod o werth holi iddynt a ydynt am barhau'n weinyddwyr. Mae'r broses o ddileu galluoedd gweinyddu yn gymharol syml os yw'r defnyddiwr ei hunan yn holi am y newid. Ond os nad ydynt am newid eu statws yna dwi'n gweld dim drwg mewn gadael llonydd iddynt am nawr.
Yn cefnogi'r cynnig i roi galluoedd gweinyddwr i Ben Bore a Tigershrike. Lloffiwr 09:42, 27 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]
Cefnogi'r ddau hefyd. Rhion 20:44, 27 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]
Dwi'n cefnogi'r dau enwebiad hefyd. --Adam (Sgwrs) 20:20, 28 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]

Biwrocratiaid

Mae'r drafodaeth uchod yn codi cwestiwn arall. Ar hyn o bryd, hyd y gwelaf fi, dim ond dau fiwrocrat sydd gennym, Arwel a Deb, ac nid yw Arwel yma ryw lawer erbyn hyn. A fyddai'n syniad cael un ychwanegol? Fe fuaswn yn awgrymu y byddai Anatiomaros yn ddewis da. Rhion 07:46, 14 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]

Cytuno -- neu chi, Rhion, neu'r dau. Problem daerach yw diffyg o olygyddion, ond wna i drafod hynny mewn adran arall. Alan012 19:38, 14 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]
Dwi'n barod i ymgymryd â'r cyfrifoldeb os ydy pawb yn fodlon, a does dim amheuaeth gennyf fod Rhion yn ddewis da hefyd. Dylem ni gofio am gyfraniadau mawr Lloffiwr hefyd: mae hi'n gwneud llawer o waith "cynnal a chadw" yma ac yn gyfarwydd iawn efo "mecanyddiaeth" y system erbyn hyn, buaswn i'n feddwl. Dwn i ddim faint o fiwrocratiad sy'n arferol ar wicipedia llai, ond mae angen cael rhywun cyfrifol ar gael trwy'r amser, gan gofio fod gan bobl waith i'w wneud hefyd, yn mynd ar eu gwyliau, a.y.y.b. Anatiomaros 20:47, 14 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]
Yn fy marn i, rhoi statws bot yn gyflym yw'r peth pwysicaf. Oes mae'r biwrocratau ar eu gwyliau, mae gwneud gweinyddwyr newydd yn gallu aros ychydig heb broblemau mawr, ond os mae rhywun yn dechrau defnyddio bot heb y statws cywir, y dewis ydy: (a) blocio'r bot, hyd yn oed os ydy e'n gwneud rhywbeth defnyddiol, (b) cael milynau o newidiadau amherthnasol yn y newidiadau diweddar. Alan012 21:02, 14 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]
P.S. Sori am anghofio Lloffiwr. Alan012 21:04, 14 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]
A dweud y gwir plaen, mae digon o bethau gennyf ar y gweill fel gweinyddwr ar Wicipedia, + yn fy mywyd arall, felly nid oes modd i mi gymryd at unrhywbeth arall ar hyn o bryd. Diolch felly am gofio amdanaf, a chewch fy anghofio eto, a chroeso! :-) Rwyn cytuno ei bod yn syniad da i rannu'r baich o fod yn fiwrocrat fel nad yw'r baich i gyd jest ar ysgwyddau Deb. Dwi'n cefnogi'r cynnig i apwyntio Anatiamaros yn fiwrocrat. Lloffiwr 22:09, 15 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]

Okay, so who is it going to be - Anatiomaros and Rhion? Please come to my talk page to state your willingness if you want me to do the biz. Deb 17:21, 17 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]

Hysbysebu Wicipedia

Dwi'n barnu mai diffyg o olygyddion yw problem bwysicaf Wicipedia Cymraeg. Beth am ddylunio poster A4 syml iawn, ac ei ddanfon i lyfrgelloedd cyhoeddus mawr ac undebion fyfyrwyr yng Nghymru, gydag ymofyniad i'w arddangos? Dim peth costus, faswn i'n tybio. Os dydym ni ddim am ei gwneud yn ein henwau ein hunain fel unigolion, gallwn ni ofyn i'r Wikimedia Foundation os oes rhywbeth sy'n medru cael ei wneud yn eu henw. Eich barnau? Diolch, Alan012 19:56, 14 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]

Syniad da, ond dwi ddim yn siwr sut mae delio a'r gost o'i argraffu a'i dosbarthu. Tybed a oes unrhyw un yn gwybod am be mae wicipedias eraill, yn arbennig y rhai llai, yn gwneud i gael cyhoeddusrwydd? Does gennyf ddim syniad lle i ddechrau gofyn! Posiblrwydd arall ydy cael dolen ar rai o'r gwefannau Cymraeg fel maes-e a.y.y.b. Tybed a fyddai maes-e yn barod i wneud hynny, am gyfnod o leiaf, fel cymwynas, h.y. yn rhad ac am ddim? Anatiomaros 20:40, 14 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]
Syniad da iawn. Mae cyn-berchennog maes-e wedi bod yma yn ddiweddar :-) Alan012 20:54, 14 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]
Dw i'n siomedig cyn lleied o gyfrannwyr maes-e sy'n cyfrannu at y Wicipedia, (er fe arweiniodd dolen at erthygl am John ac Alun ar y Wikipedia Saesneg at lot o fandaleiddio un tro - ond stori arall yw hynny). Un ffordd mae'r wici Basgeg a Chatalaneg wedi creu cynydd sylweddol yn nifer erthyglau (os nad cyfranwyr) yw drwy nodi taged/carreg filltir arbennig. Aeth y Basgwyr am 25,000 a'r Catalanwyr am 100,000 ac wedi hen wireddu hyn. Tra'n creu cyflwyniad ar wefannau Cymraeg ar gyfer Eisteddfod 2007, roedd 10,500 o erthyglau ar y Wicipedia Cymraeg, a heddiw mae 17,000+. Dwi'n deall pwysigrwydd Quality not Quantity, ond beth fyddai o le ar anelu at ffigwr o 30,000 erbyn Awst 2009 (neu 25,000 erbyn Mawrth y 1af 2009 i fod yn Gymreig). Gallai hyn fod yn sail i unrhyw bosteri, neu lythyru papurau bro/Golwg/Cymro/Maes-e ayyb.--Ben Bore 16:05, 15 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]
Ia, dwi'n methu deall agwedd pobl weithiau hefyd, dim yn unig cyfranwyr maes-e ond y ffaith fod llawer o'r erthyglau am leoedd yng Nghymru ayyb ar y wicipedia Saesneg yn amlwg wedi dod gan Gymry Cymraeg - a dydyn nhw byth yn meddwl am wneud yr un peth yma yn eu hiaith eu hunain. Ond ta waeth am hynny am rwan. Mae'r syniad o osod targed yn un da (cyn belled a'n bod yn medru ei chyraedd hi!) ac yn sail i ennill tipyn o gyhoeddusrwydd. Dwi'n rhyfeddu hefyd at y ffaith fod cyn lleied o bobl sy'n gweithio dros yr iaith neu'n caru ei llenyddiaeth yn cyfrannu yma. Ydyn nhw ddim yn gweld y botensial? Pa gyfle arall sydd 'na, yn ymarferol, i greu gwyddoniadur o'r fath yn y Gymraeg? Ble mae ein cyfeirlyfrau Cymraeg ar bynciau heblaw Cymru a'r Gymraeg? Mae angen cic mewn rhan arbennig o anatomi ein sefydliadau - dim llyfrau safonol ar gyfnodau hanes fel yr Ymerodraeth Rufeinig, China Hynafol, yr Hen Aifft ayyb - mae'r rhestr yn ddiddiwedd. Gallai'r wicipedia newid hynny, tasa pobl mond yn sylweddoli; a buasai'r wybodaeth ar gael i bawb, dim jest y rhai sy'n medru ffordio talu hanner can punt am gyfrol. Phew, tipyn o rant, ond roedd angen deud hynny! Mewn gair dwi'n cefnogi dy syniad a gobeithio cawn ni wneud rhywbeth amdano. Buasai'n braf cael barn y cyfranwyr eraill ar hyn. Anatiomaros 17:06, 15 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]
ON Cyn belled â mae "Quality not Quantity" yn y cwestiwn, dwi ddim yn awgrymu ein bod yn cael erthyglau ar bynciau mawr sy'n deud dim byd ond rhywbeth fel "Popeth sydd wedi bod, sy'n bod, ac a fydd yw'r Bydysawd. [diwedd yr "erthygl"]", ond mae gennym nifer o restrau daearyddiaeth ayyb lle buasai nodi'r lleoliad a rhoi map a/neu llun yn ddigon am rwan (taleithiau gwledydd, afonydd ayyb). Anatiomaros 17:13, 15 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]
O-ON Copïo a phastio, gan newid y manylion, yw'r cyfrinach! Anatiomaros 20:21, 15 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]
O-ON#2 Dwi wedi gwneud fy siar o hynny am heddiw. Gyda thipyn o ymarfer ac amynedd mae'n mynd yn gyflym, ond mae bod meidrol yn diflasu a blino ar ôl awr neu ddwy. (Man cychwyn da: Categori:Rhestrau). Pe bai pawb yn ceisio rhoi hanner awr neu awr at wneud hynny ar bob ymweliad yma buasai'n bosibl cael 50-100 o erthyglau newydd bob dydd. Dwi ddim yn awgrymu gwneud dim byd ond hynny, neu byddem ni i gyd yn cracio i fyny(!), ond i'w gadw mewn cof a'i wneud yn aml. Anatiomaros 20:37, 15 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]
Diolch am eich ymdrechion, ond rhaid i'r ymateb fod yn atynnu "critical mass" o bobl, sy'n mwynhau creu erthyglau, nid bod ag ychydig o bobl sy'n ei wneud fel ddyled. Does dim pwrpas mewn ceisio gwneud mwy nag ydych yn ei fwynhau - basai hynny'n anghynaladwy. A pheidiwch ag anghofio hefyd bod y defnyddwyr rwan yn cynnwys nifer o ddysgwyr fel fi, sy'n medru gwneud pethau bychain ond ysgrifennwn ni ddim lawer o ryddiaith hir (mae'n araf iawn imi hyd yn oed ysgrifennu'r sylw hwn). Cwynoch chi am y Cymru Cymraeg sy'n creu erthyglau yn Saesneg ond dim yn eu hiaith eu hunain -- beth am wahodd nifer ohonynt i ddod yma fel ddechrau (os dydy hon ddim yn cyfrif fel sbamio), yn ogystal ag hysbysebu ar faes-e? Dwi newydd ychwanegu hysbyseb yn y safle Saesneg hefyd. Peth arall helpus fasai darparu geirfaoedd arbenigol, er enghraifft faswn i'n ceisio creu rhai erthygl am yr wyddoniaeth tasai rhestr o dermau gwyddonol. Alan012 22:52, 15 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]
Ella bod hi rhy hwyr eleni, ond byddai rhoi rhyw arddangosfa yn y steddfod ar stondin (Prifysgol neu Bwrdd yr IAith efallai) ar sur mor hawdd yw creu erthygl, dangos beth sydd ar gael a beth sydd ar goll. Rhywbeth i'w weithio ato ar gyfer 2009 efallai? oes rhwyun yma â chysylltiadau â'r sefydliadau sy'n debygol o fod a stondinau (gyda chysylltiad i'r we) yn y steddfod? --Ben Bore 09:55, 16 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]

Llun

Syt maen rhoi llun ar erthygl? Tom.G.Cartwright

Mae neges iti ar dy dudalen Sgwrs. Anatiomaros 19:18, 17 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]

Llun

lle mae y botwm uwchlwytho ffeil? Tom.G.Cartwright

Nid botwm ydy e, ond mae cysylltiad yn y blwch offer ar y chwith (dan y blwch chwilio). Alan012 07:06, 18 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]

Diolch ond maen dweud: Dim ond defnyddwyr o blith y grwpiau Defnyddwyr wedi eu cadarnhau'n awtomatig, Gweinyddwyr sy'n cael gwneud y weithred y ceisiasoch amdani. ydy ghynny yn meddwl na gedraf i wneud?

Dim amser gen i i ddod o hyd i'r tudalennau help ar Wikipedia a Commons ond rwyn credu efallai bod yn rhaid i chi 'gadarnhau' eich cyfrif gyntaf cyn gallu uwchlwytho ffeiliau. Ewch at eich rhaglen e-bost ac fe ddylai fod e-bost yn eich disgwyl a chyswllt cadarnhau arno. Mae'n rhaid rhoi'ch cyfeiriad e-bost i Wicipedia cyn gallu uwchlwytho ffeiliau, os cofiaf yn gywir. Lloffiwr 13:07, 18 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]
Ro'n i wedi anghofio am hyn, ond dydy cyfrifon newydd sbon ddim yn gallu uwchlwytho ffeiliau. Wedi pedwar diwrnod (neu debyg), mae pob cyfrif yn cael ei gadarnhau'n awtomatig. Efallai mae ffordd i'w gadarnhau'n gynharach, ond dwi'm yn siwr. Dyma hysbysrwydd yn y fersiwn Saesneg. Alan012 15:51, 18 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]


diolch cymaint mae hynna wedi gwneud i fi ddeall. diolch yn fawr iawn

I need help, I want to add an article to the chemistry section

How do I add a table of elements with their old names in addition to their new names?

eg: rhif symbol enw newydd hen enw ac enwiau eraill 1 H Hydrogen Ulai* Awyr hylosg gwyen**

  • means its from the Fferylliaeth artcicle in Chambers, while ** means it's from Caerfallwch's dictionary.

I have also produced a periodic table with the new and old name for many elements, and would like to share it with people.

Alan012's just created a table for your welcome article Hen enwau Cymraeg am yr elfennau‎. Just open it for editing, copy the table and change the names etc. within the table layout. Anatiomaros 19:12, 19 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]

Nifer y Defnyddwyr = ymgyrch am nawdd?

Oes 'na ddata wedi'i gasglu dros y blynyddoedd diwetha ynglŷn â niferoedd defnyddwyr Wici Cym?

Yn ail, Oni ddylai'r brifysgol / Bwrdd yr Iaith ayb gyflogi Anatiomaros, Rhion, Alan, Deb, Lloffiwr ayb i wneud hyn yn broffesiynol? Mae Wici am ddim i'r byd mawr crwn ond mae'r Gwyddoniadur diweddar yn gyfyng ei wybodaeth a'i apêl... ac yn £75!!! Llywelyn lll 21:43, 21 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]

Mae 'na restr o ddefnyddwyr cofrestredig yn y Tudalennau arbennig (gwaelod y blwch offer ar y chwith <<<<). Siwr gen i fod na ystadegau ar gael trwy metawici neu yn ein meddalwedd ni hefyd. Buasai'n braf yn wir tasai'n bosibl cael un o'n cyrff mawr i dalu rhai o ni am wneud y gwaith, ond yn anffodus dwi ddim yn meddwl fod hynny'n debyg o ddigwydd (buasai yn erbyn rheolau'r wicipedia hefyd). Ar y llaw arall mae pawb yn rhydd i gyfrannu'n ariannol i'r wicipedia.... Gair bach yng nghlust pwy bynnag sy'n rhedeg y Bwrdd Iaith erbyn hyn? A dwi'n cytuno'n llwyr am y Gwyddoniadur Cymreig, er ei fod yn braf gweld cyhoeddiad o'r fath dydi hi ddim fel tasa ni'n brin o ddeunydd academaidd am Gymru - beth am BOPETH ARALL? (gweler hefyd fy "rant" bach uchod yn yr adran am gyhoeddusrwydd ayyb!). Ond fel 'na mae hi yng Nghymru bach, mae'n debyg. Anatiomaros 22:03, 21 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]
Diddorol. Tua 2000 wedi trafferthu i gofrestr fel defnyddiwr! Faint sydd wedi darllen / defnyddio Wici felly? Pum gwaith gymaint? Mi af am dro i chwilio. Yn y cyfamser efallai y dylai'r Academi ddefnyddio Wici i ryddhau'r testun gyda grant gan Y Loteri Genedlaethol, Y Cyngor Celfyddydau fel yr awgrymi - i Wici. A grant arall i'w farchnata yn y Steddfod, ar y teledu ayb (gweler uchod). Llywelyn lll 22:26, 21 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]
O feddwl cyn lleied sy'n cyfrannu, dw i'n amau pa mor gywir ydy'r ffigwr aelodau cofrestredig, a'i botiau ydy nifer sylweddol ohonynt dybed? Sgwn i oes modd gweld faint o wahnol ddefnyddiwyr (cofrestredig neu beidio, ac eithrio botiau) sy'n gwneud golygiadau pob mis.
Efallai bod modd clymu sefydliadau addysg mewn i'r peth heb fynd yn groes i reolau talu am olygu.
  • Er mai prinder erthyglau yn yr iaith sydd yn hytrach nag am yr iaith, dw i'n meddwl byddai'n syniad holi pob adran Gymraeg/Hanes Cymru prifysgolion Cymru a gofyn beth am grybwyll i'w myfyrwyr eu bod yn cyfrannu o leaif un erthygl at y Wici Cymraeg yn seiliaedig ar eu gwaith cwrs
  • Soniodd athro TG wrthai ('Duw' ar maes-e) ei fod yn ystyried gosod erthygl ar wicipedia (ar bwnc fel gwyddoniaeth/daearyddiaeth) fel rhan o waith cwrs myfyrwyr 6ed dosbarth, gany byddai'n ticio sawl blwch (TG, iaith Cymraeg + pwnc dan sylw)
  • Gan bod prinder adnoddau dysgu yn Gymraeg, beth am ofyn i CBAC neu aelodau UCAC i weld os oes mod cyd-lynu ehangiad erthyglau/erthyglau newydd yn ymwneud â beth sy'n cael eu dysgu (gwyddoniaeth, hanes, daearyddiaeth ayyb). Efallai gelli'r cael slot mewn cynhadledd neu rhywbeth?
Y gamp cyntaf yw dod o hyd i rhywun yn y sefydliadau hyn fyddai'n gweld a deall gwerth y peth yn gyntaf, ac iddyn nhw wedyn berswadio aelodau eraill o'u seydliadau.--Ben Bore 10:09, 22 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]
Diolch am yr awgrymiadau adeiladol, Ben Bore. Rwyt ti'n iawn am y ffigurau am gyfranwyr cofrestredig; mae nifer yn dod yma ac yn cofrestru ond am ryw reswm neu'i gilydd yn cyfrannu dim wedyn ac mae 'na fots a phobl o wicipedau iaith eraill hefyd (dod yma i roi dolenni ayyb, heb fedru Cymraeg). Y gwir ydyw does gennym ni ddim byd llawer i'w frolio ar hyn o bryd am nifer y cyfranwyr, ond y posibiliadau sy'n bwysig. Dwi'n meddwl ein bod ni wedi cyrraedd y pwynt lle mae'r sylfeini wedi eu gosod yn bur gadarn, ond rwan mewn gwirionedd y mae'r gwaith go iawn yn dechrau. Yn anffodus dwi ddim yn nabod neb yn bersonol a allai helpu yn y cyfeiriadau uchod, h.y. sy'n aelodau dylanwadol o gyrff addysg ayyb. Wyt ti'n nabod rhywun? Fyddet ti'n fodlon cysylltu ag un o'r sefydliadau, fel athrawon.com, ar ran y wicipedia? Braf gweld y drafodaeth yma'n datblygu a gobeithio y daw rhywbeth ohoni. Ar lefel fwy syml, beth am bob un ohonom ni ysgrifennu llythyr byr at ei bapur bro lleol yn deud beth ydy'r wicipedia ac annog cyfraniadau? Mae pob cyhoeddusrwydd, mawr a bach, yn faen i'r wal. Anatiomaros 16:40, 22 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]
Gadewch i ni wneud dau beth: 1. Cyd-lunio llythyr addas ag gyfer y cyrff. 2. Rhanu'r gwaith fel a ganlyn (newidiwch y tabl!!!):



Corff Gwirfoddolwr Canlyniad / Adborth]])
Papurau Bro Llywelyn2000 ____
Arall ____ ____
Arall ____ ____
UCAC Ben Bore ____
Awdurdodau Addysg ____ ____
Yr Eisteddfod Genedlaethol ____ ____
Loteri Cenedlaethol ____ ____
Canolfan Bedwyr ____ ____
Eisteddfodau Lleol Lloffiwr ____

Llywelyn lll 23:00, 22 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]

Dyma'r dudalen ystadegau am Cy:Wicipedia ar y safle ystadegau - [8]. Mae modd mynd atynt trwy bwyso ar y rhif erthyglau yn y paragraff cyntaf ar 'Hafan', a dilyn y cyswllt at y safle ystadegau. Byddai'n gret petai rhywun i gael a chwant ail-wampio'r dudalen Wicipedia:Ystadegau_Wicipedia_Cymraeg arno - mae cyswllt at hwn o'r adran 'Cymorth a Chymuned' ar 'Hafan'. Lloffiwr 20:23, 22 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]
Rwyn credu bod y syniad o gyhoeddi Gwyddoniadur Cymru ar Wicipedia yn non-starter llwyr oherwydd yr hawlfraint ar y cynnwys. Am y syniad o gael gweithwyr proffesiynol ar Wicipedia Cymraeg, rwyn ategu'r hyn a ddwedodd Anatiamaros, bod hyn yn mynd yn erbyn ysbryd gwirfoddol wici. Fe gafwyd system bounty am rai misoedd ar Betawiki er mwyn hyrwyddo cyfieithu'r rhyngwyneb i ieithoedd llai eu defnydd yn y trydydd byd - ar gyfer ieithoedd heb lawer o adnoddau ysgrifenedig a chymunedau tlawd oedd hwn. Fe fyddai yn siwr o fod yn syniad da i gysylltu â Chanolfan Bedwyr wrth weithio ar y rhyngwyneb - mae hyn wedi bod ar fy meddwl ers tro - rwyf wedi cael trafferth yn ymuno â'r rhwydwaith WELSH-TERMAU-CYMRAEG@JISCmail - ac heb gael amser i fynd ati i sorto hwn - popeth yn ei dro fydd raid. Am y gwahanol ffyrdd o hybu cyfrannu at Wicipedia - beth am gynnig testun i eisteddfodau lleol - creu erthygl ar bwnc o ddiddordeb lleol - ar ba bynnag ffurf sy'n gyfleus (ar bapur, ar ffeil Word)? Rwyn bwriadu cysylltu â threfnwyr yr eisteddfod lleol i mi. Lloffiwr 20:58, 22 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]
Wel dyna ddiddorol ydy'r dudalen ystadegau! Beth mae'n ei ddangos? - Fod Wicipedia'n tyfu o nerth i nerth. Gwych! Chydig o farchnata rwan! ac ymlaen!
Rwyn bwriadu cysylltu â threfnwyr yr eisteddfod lleol i mi. O ran gwybodaeth, dw i newydd sylwi ar raglen Eisteddfod Genedlaethol 2008 bod cystadleuaeth llenyddol [Cofnod] Blog (hyd ar 200 o eiairau), gyda gwobr o £200! Beirniadaeth dydd Mercher.--Ben Bore 07:50, 25 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]

(ailosod y marjin!) Am daflu rhyw ddwy geiniog bach i fewn...

  • Rydw i wedi bod yn llawer fwy gweithgar ar y wicipedia Saesneg na'r un Gymraeg, mae'n rhaid i mi gyfaddef. Roedd yn haws o lawer i mi ddysgu'r grefft o ymchwilio, amgodio, ac addasu pethau ar honno, gan fod cymaint mwy o cyfraniadau a strwythur yno'n barod. Erbyn dechrau'r haf ro'n i wedi 'cwblhau' fy mhrosiect mawr cyntaf, sef datblygu erthygl w:cy:Anglesey Central Railway ers mis Rhagfyr, hyd at gydnabyddiad 'Erthygl Da'. A heno (wedi bod ar wyliau) dwi wedi dechrau ar ei gyfieithu i'r Gymraeg (rhyw chwarter wedi ei wneud hyd yn hyn). Y drafferth mwyaf y gwelaf gyda cyfrannu at y wicipedia Cymraeg yw'r absenoldeb o erthyglau eraill i gysylltu â, a'r unig ateb i'r broblem yma yw i'w sgwennu nhw. Felly dyma addewid personol i dynnu fy mys allan a dechrau sgwennu!
  • O ran geiriaduron eraill, mae'n hollol anghyfreithiol i gopio'r Gwyddoniadur Cymraeg yma neu Wyddoniadu Mawr y Plant), ond mae'n berffaith dderbyniol i'w aralleirio neu ei ddyfynnu (ond rhaid bod yn ofalus tra'n aralleirio: mae angen ail-sgwennu'r ffeithiau yn dy eiriau dy hun a dyfynnu'r ffynhonell i osgoi plagarism (methu cofio'r Gymraeg, a diffyg egni i godi a nôl geiriadur).
  • Marchnata? Mae na Eisteddfod Genedlaethol mawr yn ymlwybro i Gaerdydd ymhen rhyw bythefnos. Allem ni ddim fforddio stondin, ond mae modd codi posteri ar y maes. Mae logo wicipedia mewn lliwiau hwylus ar gyfer argraffu du a gwyn, a fyddai'n eithaf rhad i wirfoddolwr brwdfrydig eu hargraffu. Gallai pawb gyfrannu at ddylunio posteri, ac os oes pobl fyddai'n fodlon papuro'r maes yn ystod y penwythnos gyntaf, fe fyddai ymwybyddiaeth yn codi'n syfrdanol. Gallem greu pamffledi neu flyers bychain, a gofyn i stondinau caredig fel Bwrdd/Cymdeithas yr Iaith a.y.y.b. os y byddent yn fodlon i ni roi rhai ar eu byrddau. Mae gen i rhai syniadau ar gyfer dyluniadau, ond mae hi'n rhy hwyr heno i wneud llawer rwan.

English summary:

  • I found it easier to learn 'wikicraft' on the English wikipedia, but I promise to pull my weight here now.
  • We can always quote other encyclopaedias, just not copy them.
  • Some posters and flyers would be ideal for the upcoming National Eisteddfod

Ansbaradigeidfran 22:54, 24 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]

Cardiff Meetup and Wikimedia UK

Firstly my apologies for the lack of Welsh on my behalf. I might be from wales but i never really got the hang of welsh coming from a mostly English family. I would interested in whether there are any meetups which are arranged through this wiki. I mostly edit the English wiki and I have only stumbled across the odd welsh editor. If there are none prehaps we should look at setting a meet up in cardiff as a start. Let me know if anyone here could help me with this. Secondly i would like to boost up some welsh involvement in Wikimedia Uk. Activity has started to really get going and i would like to see some involvement from wales. Seddon 23:00, 21 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]

Hi Seddon, a fair few of the contirbutirs here also contribue to the English wiki. Regarding other editors from Wales there, are you aware of the WikiProject Wales and the Welsh Wikipedians' notice board? There hasn't been a meetup of users of the Wicipedia (this wiki), although i suggested on for last years National Eisteddfod, as it's the one annual event where the largest number of Welsh speakers from allover Wales and beyond come together - but there wasn't much interest then. It's in Cardiff this year (as you may be aware if you live there), so it would be a good time to arrange something, but it's a bit late now as it's less than a fortnight away! Your best bet at suggesting a meetup is via the Welsh Wikipedian's noticeboard. Are you Seddon on the English Wikipedia? I'd have left a response there, but you/he/she seems to be under an editor review and I can't see a link to a talk page. Rhys/--Ben Bore 09:09, 22 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]

Rhoi Llun Mewn Erthygl

Rhoi Llun Mewn Erthygl, Plis dywedwch wrthaf fi syt maen rhoi llun mewn erthygl.

Diolch

Wedi ychwanegu'r llun i'r erthygl am Ysgol Dyffryn Ardudwy. Dylai'r newid yma (y darn mewn gwyrdd) esbonio sut mae gwneud at eto.--Ben Bore 09:47, 23 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]

Bot status for SilvonenBot

Hello, I am requesting a bot flag for SilvonenBot:

  • Operator: fi:Käyttäjä:Silvonen
  • Bot name: SilvonenBot (contributions)
  • Programming language: Python (pywikipedia)
  • Already has a bot flag on: ay, bcl, bg, ca, cs, da, de, en, eo, es, et, eu, fi, fiu-vro, fo, fr, he, hr, hu, id, io, is, it, ja, ka, ko, la, lt, lv, mdf, myv, nds, nl, nn, no, pl, pt, ro, ru, se, simple, sk, sl, sr, sv, sw, th, tr (contributions)
  • Purpose: Interwiki linking
  • Technical details: The bot runs daily, usually in autonomous mode starting from Finnish, sometimes assisted manually.

I am now starting a test run. Thank you in advance! --Silvonen 04:15, 24 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]

Seems to be running fine - bot status granted. Anatiomaros 16:07, 27 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]

Golygu Erthygl

All rhywun hefo hanner gafael ar ramadeg a.y.y.b. daro golwg ar Lein Amlwch? Dwi newydd orffen ei gyfieithu o'r Saesneg, ond mae'n siwr fod yna gamgymeriadau lu.

Ansbaradigeidfran 21:39, 27 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]

Erthygl fendigedig! Braidd yn hwyr heno i feddwl am weithio trwyddi, ond gobeithio gwneiff rywun - fi, efallai - hynny fory. Anatiomaros 22:23, 27 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]

Lluniau Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Helo. Rwy'n rhan o dîm bach sy'n gobeithio ymchwilio, yn ystod mis Awst, i rannu rhywfaint o'r cynnwys digidol sy'n perthyn i Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Un o'r ffyrdd o wneud hyn yw trwy rannu rhai o'n delweddau a ddigidwyd ag erthyglau perthnasol ar Wikipedia a Wicipedia. Byddwn yn ddiolchgar iawn petaech yn anfon unrhyw adborth atom, felly mae croeso i chi bicio draw at ein tudalen 'Defnyddiwr' er mwyn gweld mwy o wybodaeth am y prosiect neu adael sylwadau ar y dudalen Sgwrs. Diolch! Llyfrgell Genedlaethol Cymru 09:32, 31 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]

Syniad ardderchog : byddai'n hwb mawr i waith y wicipedia Cymraeg. (Gweler hefyd eich Tudalen Sgwrs). Anatiomaros 14:58, 31 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]