Sgwrs:Dysgub y Dail

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Sgwrs:Dysgub Y Dail)

Ydi hwn yn addas?[golygu cod]

Am ddau reswm:

  • 1. A yw cerddi yn fwy addas i'w cynnwys ar y WiciDestun?
  • 2. Efallai bod y cyfranwr yn ddisgybl neu'n fyfyriwr achos bod dadansoddiad o'r gerdd yn yr erthygl. Dwi ddim yn siwr pa mor addas yw hyn chwaith, gan mai barn ydi o yn y pen draw dybiwn i?

Dwi am drafod y peth yn Y Caffi.--Ben Bore 11:35, 28 Mawrth 2008 (UTC)[ateb]

Fe fuaswn i'n meddwl fod erthygl ar gerdd unigol yn addas, cyn belled a'i bod yn gerdd adnabyddus. Os yw'r gerdd yn un fer, alla i ddim gweld fod drwg mewn cael testun y gerdd fel rhan o'r erthygl, cyn belled ag nad oes problem hawlfraint. Os yw'n gerdd hirach, byddai Wicitestun yn fwy addas i'r testun. O ran dadansoddiad o'r gerdd, byddai'n well rhoi barn beirniaid llenyddol cydnabyddedig, wedi ei briodoli, i osgoi yr elfen o farn bersonol. Rhion 12:20, 28 Mawrth 2008 (UTC)[ateb]
Yn cytuno â sylwadau Rhion. Gan fod problem hawlfraint i gael, rwyf wedi rhoi nodyn tudalen amheus ar yr erthygl - a gan mai problem hawlfraint sydd gennym bydd rhaid dileu'r gerdd o leiaf o fewn byr amser. O ran dadansoddiad y gerdd, yn cytuno nad yw'n addas i Wicipedia gan ei fod yn ymddangos yn waith gwreiddiol. Yn cytuno bod modd creu erthygl ar gerdd unigol os yw'n ddigon o bwys, fel arall gellir creu adran am gerdd unigol yn yr erthygl ar yr awdur. Mae modd i awdur gyfrannu dadansoddiad o gerdd ar Wicillyfrau - dwi ddim yn siwr beth yw'r polisiau fan'ny i sicrhau safon dda i'r cyfraniadau. Ond yr un yw'r problemau hawlfraint ar bob wici - ni ellir dyfynnu'r gerdd yn ei gyfanrwydd heb ganiatad deiliaid yr hawlfraint. Gweler Wikipedia am ragor o wybodaeth ar hawlfraint. Lloffiwr 21:25, 29 Mawrth 2008 (UTC)[ateb]
Doeddwn i ddim yn gwybod am y broblem hawlfraint, ond yn amau hynny. Fel arall cytunaf â'r pwyntiau uchod (gweler hefyd fy sylwadau yn Y Caffi). Anatiomaros 21:39, 29 Mawrth 2008 (UTC)[ateb]