Sylffwr deuocsid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
TXiKiBoT (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: su:Walirang dioksida |
B robot yn ychwanegu: hi:सल्फर डाइआक्साइड |
||
Llinell 18: | Llinell 18: | ||
[[fr:Dioxyde de soufre]] |
[[fr:Dioxyde de soufre]] |
||
[[he:גופרית דו-חמצנית]] |
[[he:גופרית דו-חמצנית]] |
||
[[hi:सल्फर डाइआक्साइड]] |
|||
[[hr:Sumporov dioksid]] |
[[hr:Sumporov dioksid]] |
||
[[hu:Kén-dioxid]] |
[[hu:Kén-dioxid]] |
Fersiwn yn ôl 22:46, 28 Mehefin 2008
Nwy di-liw yw sylffwr deuocsid (SO2) ag iddo arogl treiddgar, taglyd. Prif ffynhonnell sylffwr deuocsid yw llosgi tanwydd ffosil mewn gorsafoedd pwer, purfeydd olew a gweithfeydd diwydiannol mawrion eraill a reoleiddir gan Asiantaeth yr Amgylchedd. Y sector tanwydd ag ynni yw’r ffynhonnell fwyaf o bell ffordd o sylffwr deuocsid o weithgareddau a reoleiddir gan yr Asiantaeth a’r sector hwn hefyd yw’r ffynhonnell genedlaethol fwyaf, gan gyfrannu 73% o’r cyfanswm cenedlaethol. Mae cerbydau modur, bwyleri a thanau mewn cartrefi hefyd yn rhyddhau sylffwr deuocsid.
Gall sylffwr deuocsid lidio’r llygaid a’r pibellau awyr, ac yn y crynoadau amgylcheddol uchaf medrant gynyddu symptomau’r rheini sy’n dioddef o asthma neu glefyd yr ysgyfaint. Gall sylffwr deuocsid hefyd arwain at effeithiau uniongyrchol ar lystyfiant a chyfrannu at law asid. Medrir cludo sylffwr deuocsid dros bellter maith a gall hyd at draean o’r sylffwr a waddodir mewn rhai mannau yn y DU ddeillio o ffynonellau ar y cyfandir.