Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Melangell"

Jump to navigation Jump to search
No change in size ,  13 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
(buchedd)
B
Santes Gymreig o'r [[6ed ganrif|6ed]] neu'r [[7fed ganrif]] oedd '''Melangell''' ([[Lladin]]:'''Monacella'''). Mae buchedd [[Lladin|Ladin]] iddi, ''Historia Divae Monacellae'', ar gael, yn dyddio o tua'r [[15fed ganrif]].
 
Yn ôl traddodiad, roedd yn enedigol o [[Iwerddon]] ac yn ferch i frenin. Ffôdd i osgoi priodas oedd wedi ei threfnu iddi gan ei thad, a daeth i [[Powys|Bowys]] i fyw fel meudwyes ym mhen uchaf dyffryn [[Afon TanatTanad]]. Un diwrnod daeth Brochwel, Tywysog Powys, (efallai [[Brochwel Ysgithrog]]) i'r dyffryn i hela. Ymlidiodd ei gŵn hela [[ysgyfarnog]], a redodd at Melangell a llochesu dan ei gwisg. Gwnaeth hyn ddigon o argraff ar Brochwel nes peri iddo roi'r dyffryn, a elwir yn awr yn [[Pennant Melangell|Bennant Melangell]] iddi. Daeth Melangell yn abades mynachlog fechan yno, ac mae'r eglwys yno wedi ei chysegru iddi. Yn yr eglwys gellir gweld creirfa Melangell, sydd wedi ei ail-adeiladu wedi iddo gael ei ddinistrio adeg y [[Diwygiad Protestannaidd]] ac sy'n un o'r esiamplau gorau o'i fath ym Mhrydain. Roedd yr eglwys yn gyrchfan boblogaidd i bererinion yn y Canol Oesoedd, ac yn ddiweddar mae'r cyngor sir wedi creu llwybr "Pererindod Melangell" yn arwain yno. Mae Melangell yn nawddsant ysgyfarnogod.
 
==Cysylltiad allanol==
37,236

golygiad

Llywio