Brwydr Passchendaele: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Trefelio (sgwrs | cyfraniadau)
Ehangu - Brwydr Cefn Pilckem
Trefelio (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 2: Llinell 2:
Un o frwydrau'r [[Rhyfel Byd Cyntaf]] a ddigwyddodd rhwng mis Mehefin a mis Tachwedd [[1917]] oedd '''Brwydr Passchendaele''' (hefyd '''Trydedd Brwydr Ypres'''). Ymladdwyd y frwydr ger dinas [[Ypres]] yng [[Gwlad Belg|Ngwlad Belg]], rhwng byddin [[yr Almaen]] dan [[Max von Gallwitz]] ac [[Erich Ludendorff]], a lluoedd y cynghreiriaid, yn cynnwys milwyr o wledydd Prydain, Awstralia, Seland Newydd, Canada a Ffrainc ymysg eraill, dan [[Douglas Haig]] a [[Hubert Gough]].

Dedleuai Prif Weinidog Prydain, sef [[David Lloyd George]], yn erbyn y frwydr am nifer o resymau <ref>{{dyf llyfr|teitl=The Road to Passchendaele: The Flanders Offensive 1917, A Study in Inevitability|olaf=Terraine|cyntaf=John|blwyddyn=1977|cyhoeddwr=Leo Cooper|lleoliad=Llundain|isbn=0-436-51732-9}}</ref>. Cytunai'r Cadfridog Ffrengig Ferdinand Foch gydag ef. Credai'r ddau y dylid aros am gymorth yr Americanwyr.
Dedleuai Prif Weinidog Prydain, sef [[David Lloyd George]], yn erbyn y frwydr am nifer o resymau <ref>{{dyf llyfr|teitl=The Road to Passchendaele: The Flanders Offensive 1917, A Study in Inevitability|olaf=Terraine|cyntaf=John|blwyddyn=1977|cyhoeddwr=Leo Cooper|lleoliad=Llundain|isbn=0-436-51732-9}}</ref>. Cytunai'r Cadfridog Ffrengig [[Ferdinand Foch]] gydag ef. Credai'r ddau y dylid aros am gymorth yr Americanwyr.

Dechreuodd yr ymladd yn y cylch ym mis Mehefin, a dechreuodd y frwydr ei hun ar [[31 Gorffennaf]] 1917.<ref>{{dyf llyfr|teitl=The German Army at Passchendaele|olaf=Sheldon|cyntaf=Jack|blwyddyn=2007|cyhoeddwr=Pen and Sword Books|lleoliad=Barnsley|isbn=1-84415-564-1|tud=xiv}}</ref> Roedd yr ymgyrch wedi'i chynllunio gan Haig, er gwaethaf gwrthwynebiad Lloyd George. Y bwriad oedd torri drwy linellau'r Almaen a chipio porthladdoedd [[Oostende]] a [[Zeebrugge]], oedd yn cael eu defnyddio gan longau tanfor yr Almaen.

Llinell 13: Llinell 13:

==Hedd Wyn==
==Hedd Wyn==
Rhan o Frwydr Passchendaele oedd '''Brwydr Cefn Pilckem''', lle lladdwyd [[Hedd Wyn]] ar [[31 Gorffennaf]], diwrnod cynta'r frwydr. Roedd Simon Jones o Lanuwchllyn yn yr un frwydr, ac mewn sgwrs a recordiwyd gan [[Angueddfa Werin Cymru]] ym 1975, mae'n disgrifio sut y gwelodd Hedd Wyn yn syrthio:
Rhan o Frwydr Passchendaele oedd '''Brwydr Cefn Pilckem''', lle lladdwyd [[Hedd Wyn]] ar [[31 Gorffennaf]], diwrnod cynta'r frwydr. Roedd Simon Jones o Lanuwchllyn yn yr un frwydr, ac mewn sgwrs a recordiwyd gan [[Amgueddfa Werin Cymru]] ym 1975, mae'n disgrifio sut y gwelodd Hedd Wyn yn syrthio:
<blockquote>"Dydd ola o Orffenna', 'dech chi'n gweld, diwrnod cynta'r frwydyr fwya fuo yn y byd 'ma 'rioed ma'n debyg. Brwydyr Passchendaele. O’n ni’n cychwyn dros Canal Bank yn Ypres ac mi lladdwyd o ar hanner Pilckem… Mi gweles o'n syrthio. Ac mi allaf ddeud mai ''nosecap shell'' yn 'i fol lladdodd o, wyddoch chi. O’ch chi'n medru gwbod hynny. O, allech chi ddim sefyll hefo fo mae'n wir. Odd rhaid ichi ddal i fynd, 'de".<ref>{{cite web|url=https://amgueddfa.cymru/erthyglau/2007-04-25/Bardd-Cymraeg-yn-cwympo-yn-Flanders/ |title=Bardd Cymraeg yn cwympo yn Fflandrys |publisher=amgueddfacymru.ac.uk |date=2007-04-25 |accessdate=2017-08-28}}</ref></blockquote>

Fersiwn yn ôl 09:19, 28 Awst 2017

Milwyr Awstralia yn ystod Brwydr Passchendaele, 29 Hydref, 1917

Un o frwydrau'r Rhyfel Byd Cyntaf a ddigwyddodd rhwng mis Mehefin a mis Tachwedd 1917 oedd Brwydr Passchendaele (hefyd Trydedd Brwydr Ypres). Ymladdwyd y frwydr ger dinas Ypres yng Ngwlad Belg, rhwng byddin yr Almaen dan Max von Gallwitz ac Erich Ludendorff, a lluoedd y cynghreiriaid, yn cynnwys milwyr o wledydd Prydain, Awstralia, Seland Newydd, Canada a Ffrainc ymysg eraill, dan Douglas Haig a Hubert Gough.

Dedleuai Prif Weinidog Prydain, sef David Lloyd George, yn erbyn y frwydr am nifer o resymau [1]. Cytunai'r Cadfridog Ffrengig Ferdinand Foch gydag ef. Credai'r ddau y dylid aros am gymorth yr Americanwyr.

Dechreuodd yr ymladd yn y cylch ym mis Mehefin, a dechreuodd y frwydr ei hun ar 31 Gorffennaf 1917.[2] Roedd yr ymgyrch wedi'i chynllunio gan Haig, er gwaethaf gwrthwynebiad Lloyd George. Y bwriad oedd torri drwy linellau'r Almaen a chipio porthladdoedd Oostende a Zeebrugge, oedd yn cael eu defnyddio gan longau tanfor yr Almaen.

Cleifion ar ochr y ffordd yn dilyn Brwydr Menin Road Ridge

Parhaodd y frwydr hyd 6 Tachwedd, 1917, pan gipiwyd Passendale, oedd erbyn hynny yn ddim ond ychydig o adfeilion ynghanol y mwd. Mae dadl yn parhau ynglŷn â cholledion y ddwy ochr; yn ôl rhai ffigyrau collodd y cynghreiriaid 448,000 o filwyr wedi eu lladd neu eu clwyfo, a'r Almaen 260,000. Yn ôl eraill, roedd y ffigyrau yn fwy cyfartal.

Enwau'r Frwydr

Mae Trydedd Brwydr Ypres yn enw cyffredin arall ar Frwydr Passchendaele. Am gyfnod, defnyddid yr enw Brwydr Messines 1917 yn ogystal. Yr enw yn Almaeneg yw Trydedd Brwydr Fflandrys (Almaeneg: 'Dritte Flandernschlacht'), a'r enw Ffrangeg yw Ail Frwydr Fflandrys (Ffrangeg: '2ème Bataille des Flandres').

Hedd Wyn

Rhan o Frwydr Passchendaele oedd Brwydr Cefn Pilckem, lle lladdwyd Hedd Wyn ar 31 Gorffennaf, diwrnod cynta'r frwydr. Roedd Simon Jones o Lanuwchllyn yn yr un frwydr, ac mewn sgwrs a recordiwyd gan Amgueddfa Werin Cymru ym 1975, mae'n disgrifio sut y gwelodd Hedd Wyn yn syrthio:

"Dydd ola o Orffenna', 'dech chi'n gweld, diwrnod cynta'r frwydyr fwya fuo yn y byd 'ma 'rioed ma'n debyg. Brwydyr Passchendaele. O’n ni’n cychwyn dros Canal Bank yn Ypres ac mi lladdwyd o ar hanner Pilckem… Mi gweles o'n syrthio. Ac mi allaf ddeud mai nosecap shell yn 'i fol lladdodd o, wyddoch chi. O’ch chi'n medru gwbod hynny. O, allech chi ddim sefyll hefo fo mae'n wir. Odd rhaid ichi ddal i fynd, 'de".[3]

Ym Mrwydr Cefn Pilckem hefyd y bu farw'r bardd o Iwerddon Francis Ledwidge.

Cyfeiriadau

  1. Terraine, John (1977). The Road to Passchendaele: The Flanders Offensive 1917, A Study in Inevitability. Llundain: Leo Cooper. ISBN 0-436-51732-9
  2. Sheldon, Jack (2007). The German Army at Passchendaele. Barnsley: Pen and Sword Books, tud. xiv. ISBN 1-84415-564-1
  3. "Bardd Cymraeg yn cwympo yn Fflandrys". amgueddfacymru.ac.uk. 2007-04-25. Cyrchwyd 2017-08-28.