Diglosia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Huw P (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
Huw P (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Mewn [[ieithyddiaeth]] mae '''diglosia''' yn derm ar gyfer sefyllfa ble mae dwy iaith neu dwy fersiwn o’r un iaith yn cael eu defnyddio o fewn yr un gymuned. |
Mewn [[ieithyddiaeth]] mae '''diglosia''' yn derm ar gyfer sefyllfa ble mae dwy iaith neu dwy fersiwn o’r un iaith yn cael eu defnyddio o fewn yr un gymuned gan ddibynnu ar y sefyllfa. |
||
Yn ogystal ag iaith lafar pob dydd |
Yn ogystal ag iaith lafar pob dydd mae siaradwr yn newid i fersiwn wahanol o’r un iaith neu iaith wahanol ar gyfer sefyllfaoedd mwy ffurfiol. |
||
==Yr Iaith 'H' a’r iaith 'L'== |
==Yr Iaith 'H' a’r iaith 'L'== |
Fersiwn yn ôl 15:28, 18 Awst 2017
Mewn ieithyddiaeth mae diglosia yn derm ar gyfer sefyllfa ble mae dwy iaith neu dwy fersiwn o’r un iaith yn cael eu defnyddio o fewn yr un gymuned gan ddibynnu ar y sefyllfa.
Yn ogystal ag iaith lafar pob dydd mae siaradwr yn newid i fersiwn wahanol o’r un iaith neu iaith wahanol ar gyfer sefyllfaoedd mwy ffurfiol.
Yr Iaith 'H' a’r iaith 'L'
Mae’r iaith pob dydd yn cael ei dynodi fel yr iaith "L" (o’r gair Saesneg "low"). Fel arfer mae’r iaith "L" yn cael ei defnyddio yn y cartref ac ymhlith ffrindiau. Mae’r iaith "H" (o’r Saesneg "high") yn cael ei defnyddio mewn sefyllfaoedd mwy ffurfiol fel addysg, ysgrifennu neu ddelio gydag awdurdodau a phobl rymus.
Er enghraifft, fel arfer mae pobl Tsieina yn siarad eu tafodiaith leol fel yr iaith "L" gan newid i'r iaith "H" - Mandarin ar gyfer llythrennedd.
Yn yr un modd mae siaradwyr Cymraeg yn defnyddio Cymraeg llafar yn eu tafodiaith leol ymhlith ei gilydd gan newid i Gymraeg lenyddol safonol neu Saesneg ar gyfer ysgrifennu a darllen.
Ffynonellau
- Crystal, D. 2005. How Language Works Penguin Books. ISBN 0-14-051538-0
- https://en.wikipedia.org/wiki/Charles_A._Ferguson
- Ferguson, Charles A. 1959. Diglossia. Word 15: 325-340. http://www.mapageweb.umontreal.ca/tuitekj/cours/2611pdf/Ferguson-Diglossia.pdf