Gareth Llewellyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
B robot Ychwanegu: it:Gareth Llewellyn
Llinell 14: Llinell 14:
[[en:Gareth Llewellyn]]
[[en:Gareth Llewellyn]]
[[fr:Gareth Llewellyn]]
[[fr:Gareth Llewellyn]]
[[it:Gareth Llewellyn]]

Fersiwn yn ôl 11:13, 17 Ebrill 2008

Mae Gareth Llewellyn (ganwyd 24 Chwefror 1969 ym Mhen-y-bont ar Ogwr) yn chwaraewr Rygbi'r Undeb a enillodd 92 o gpaiau dros Gymru fel clo.

Mae Llewellyn wedi chwarae rygbi dros glybiau Gastell Nedd, Harlequins, Y Gweilch a Narbonne, ac ymunodd a Bristol Shoguns ar ddechrau tymor 2005-06.

Chwaraeodd ei gêm gyntaf dros Gymru yn erbyn y Crysau Duon yn 1989 ac aeth yn ei flaen i ennill 92 o gapiau, gan guro'r record o 87 a ddelid gan Neil Jenkins yn y gêm brawf yn erbyn Ariannin ar 12 Mehefin 2004. Parhaodd y record yma nes i Gareth Thomas ennill ei 93eg cap yn 2007.

Bu'n gapten Cymru saith gwaith, a chwaraeodd mewn tair Cwpan y Byd - 1995, 1999 a 2003. Chwaraeodd rygbi rhyngwladol mewn tri degawd gwahanol a than wyth hyfforddwr gwahanol. Ar ôl i Gymru ennill Y Gamp Lawn yn 2005, cyhoeddodd ei ymddeoliad o rygbi rhyngwladol.

Mae ei frawd, Glyn Llewellyn, hefyd wedi chwarae rygbi dros Gymru.