Nant Ffrancon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Dyffryn yn [[Eryri]] yw '''Nant Ffrancon''', sy'n ymestyn tua'r gogledd o [[Llyn Ogwen|Lyn Ogwen]] a [[Cwm Idwal|Chwm Idwal]] hyd at gyffiniau pentref [[Bethesda]]. Credir bod "Ffrancon" yn hen enw ar filwr hur. |
Dyffryn yn [[Eryri]] yw '''Nant Ffrancon''', sy'n ymestyn tua'r gogledd o [[Llyn Ogwen|Lyn Ogwen]] a [[Cwm Idwal|Chwm Idwal]] hyd at gyffiniau pentref [[Bethesda]]. Credir bod "Ffrancon" yn hen enw ar filwr hur ([[Ffranciaid|Ffranc]]), ond nid yw pawb yn cytuno â'r esboniad. |
||
Mae Nant Ffrancon o ddiddordeb [[daeareg|daearegol]] mawr, gan ei bod yn enghraifft glasurol o ddyffryn a grewyd gan rewlif, ac yn dangos siâp "U" nodweddiadol y dyffrynnoedd hynny, gydag ochrau serth a gwaelod gwastad. Ar ochr ddwyreiniol y dyffryn mae llethrau [[Pen yr Ole Wen]] a [[Carnedd Dafydd]] yn y [[Carneddau]], tra ar yr ochr orllewinol mae llethrau rhai o gopaon y [[Glyderau]] megis [[Y Garn (Glyderau)|Y Garn]], Foel Goch a Mynydd Perfedd. Mae llawer o'r meini yn y dyffryn yn dangos tystiolaeth eu bod wedi eu symud gan y rhewlif yn ystod [[Oes yr Iâ]]. Er bod [[Afon Ogwen]] yn llifo ar hyd y dyffryn, nid yr afon a greodd y dyffryn yma. |

Mae priffordd yr [[A5]] hefyd yn dilyn y dyffryn gan esgyn i Fwlch Nant Ffrancon ger [[Llyn Ogwen]]. Oddi yno â yn ei blaen i [[Capel Curig|Gapel Curig]]. Ceir ffordd gynharach sy'n dilyn ochr orllewinol y Nant. |
|||
[[Categori:Dyffrynnoedd Cymru]] |
|||
[[Categori:Gwynedd]] |
[[Categori:Gwynedd]] |
||
[[Categori:Bylchau Cymru]] |
|||
[[en:Nant Ffrancon Pass]] |
Fersiwn yn ôl 20:32, 21 Tachwedd 2007
Dyffryn yn Eryri yw Nant Ffrancon, sy'n ymestyn tua'r gogledd o Lyn Ogwen a Chwm Idwal hyd at gyffiniau pentref Bethesda. Credir bod "Ffrancon" yn hen enw ar filwr hur (Ffranc), ond nid yw pawb yn cytuno â'r esboniad.
Mae Nant Ffrancon o ddiddordeb daearegol mawr, gan ei bod yn enghraifft glasurol o ddyffryn a grewyd gan rewlif, ac yn dangos siâp "U" nodweddiadol y dyffrynnoedd hynny, gydag ochrau serth a gwaelod gwastad. Ar ochr ddwyreiniol y dyffryn mae llethrau Pen yr Ole Wen a Carnedd Dafydd yn y Carneddau, tra ar yr ochr orllewinol mae llethrau rhai o gopaon y Glyderau megis Y Garn, Foel Goch a Mynydd Perfedd. Mae llawer o'r meini yn y dyffryn yn dangos tystiolaeth eu bod wedi eu symud gan y rhewlif yn ystod Oes yr Iâ. Er bod Afon Ogwen yn llifo ar hyd y dyffryn, nid yr afon a greodd y dyffryn yma.
Mae priffordd yr A5 hefyd yn dilyn y dyffryn gan esgyn i Fwlch Nant Ffrancon ger Llyn Ogwen. Oddi yno â yn ei blaen i Gapel Curig. Ceir ffordd gynharach sy'n dilyn ochr orllewinol y Nant.