Atmosffer: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau using AWB
Llinell 9: Llinell 9:
== Atmosffer y Ddaear ==
== Atmosffer y Ddaear ==
''Prif erthygl: [[Atmosffer y ddaear]]''<br />
''Prif erthygl: [[Atmosffer y ddaear]]''<br />
Fel nifer o blanedau eraill, mae gan y Ddaear hithau fantell o nwyon amddifynnol o'i hamgylch sy'n eu hamddiffyn rhag tymheredd eithafol.
Fel nifer o blanedau eraill, mae gan y Ddaear hithau fantell o nwyon amddifynnol o'i hamgylch sy'n eu hamddiffyn rhag tymheredd eithafol.

[[Nitrogen]] yw prif nwy atmosfferig [[y Ddaear]]. Ceir yn yr atmosffer hefyd [[ocsigen]], sef nwy sy'n hanfodol i [[organebau byw]] resbiradu a'r nwy [[carbon deuocsid]] sy'n cael ei ddefnyddio gan [[planhigion|blanhigion]] yn y broses o [[ffotosynthesis]]. Mae'r atmosffer hefyd yn fath o darian rhag niwed i enynnau [[organebau byw]] gan [[ymbelydredd]] [[uwchfioled]] yr [[haul]].

Fersiwn yn ôl 11:31, 12 Mawrth 2017

Llun lloeren o hecsagon Sadwrn. Mae'r hecsagon (sydd wedi'i leoli ger pegwn gogleddol Sadwrn ddwywaith maint y Ddaear.
Ardal uwch atmosffer y ddaear

Haen o nwyon yw'r atmosffer (hefyd "atmosffêr"; o'r Groeg ἀτμός - atmos, "vapor" + σφαίρα - sphaira, "sffêr") sy'n amgylchynu planed neu gorff digon sylweddol i'w gadw drwy atyniad ei ddisgyrchiant.

Mae rhai planedau megis y Cewri Nwy, sef pedair planed allanol Cysawd yr Haul, yn ddim byd ond nwy, ac felly fe ellir dweud fod ganddynt atmosffer twfn.

Atmosffer y Ddaear

Prif erthygl: Atmosffer y ddaear
Fel nifer o blanedau eraill, mae gan y Ddaear hithau fantell o nwyon amddifynnol o'i hamgylch sy'n eu hamddiffyn rhag tymheredd eithafol.

Nitrogen yw prif nwy atmosfferig y Ddaear. Ceir yn yr atmosffer hefyd ocsigen, sef nwy sy'n hanfodol i organebau byw resbiradu a'r nwy carbon deuocsid sy'n cael ei ddefnyddio gan blanhigion yn y broses o ffotosynthesis. Mae'r atmosffer hefyd yn fath o darian rhag niwed i enynnau organebau byw gan ymbelydredd uwchfioled yr haul.

Cymerwyd miliynau ar filiynau o flynyddoedd i'w greu gan newidiadau bio-cemegol wrth i organebau byw farw a dadelfennu.

Gwasgedd atmosfferig

Gwasgedd atmosfferig yw'r grym ar roddir yn berpendicwlar ar wyneb gan nwyon a chyfrifir hyn bob yn uned o arwynebedd. Mae'r gwasgedd atomosfferig yn ddibynol ar faint grym ei disgyrchiant a chyfanswm màs y golofn o nwyon uwch ei phen. Ar y Ddaear, mae'r unedau o wasgedd aer wedi eu safoni a gelwir hwy yn 'uned atmosfferig' (atm), a ddiffinir fel 101,325 Pa (760 Torr sef 14.696 pwys / modfedd agwâr (psi).

Cyfeiriadau

Chwiliwch am atmosffer
yn Wiciadur.