Sŵnami: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
|||
Llinell 22: | Llinell 22: | ||
== Hanes == |
== Hanes == |
||
Sefydlwyd y band yn 2011, gan ymddangos ar gystadleuaeth Brwydr y Bandiau C2 y flwyddyn honno. Daeth y band yn ail, gyda Siân Miriam yn cipio'r wobr gyntaf. Roedd y pum aelod gwreiddiol, Ifan Davies (llais, gitâr), Ifan Ywain (gitâr), Gerwyn Murray (gitar fâs, llais), Huw Ynyr (allweddellau, llais), a Tom Ayres (drymiau), wedi eu magu ym [[Meirionnydd]], gyda'r rhan fwyaf ohonynt yn mynychu [[Coleg Meirion-Dwyfor|Coleg Meirion Dwyfor]]. Ymddangosodd y grŵp ar raglen [[Bandit (rhaglen deledu)|Bandit]] ar y ffurf hwn.<ref>https://www.youtube.com/watch?v=WEBE1YVmFdM</ref> |
Sefydlwyd y band yn 2011, gan ymddangos ar gystadleuaeth Brwydr y Bandiau C2 y flwyddyn honno. Daeth y band yn ail, gyda Siân Miriam yn cipio'r wobr gyntaf. Roedd y pum aelod gwreiddiol, Ifan Davies (llais, gitâr), Ifan Ywain (gitâr), Gerwyn Murray (gitar fâs, llais), Huw Ynyr (allweddellau, llais), a Tom Ayres (drymiau), wedi eu magu ym [[Meirionnydd]], gyda'r rhan fwyaf ohonynt yn mynychu [[Coleg Meirion-Dwyfor|Coleg Meirion Dwyfor]]. Ymddangosodd y grŵp ar raglen [[Bandit (rhaglen deledu)|Bandit]] ar y ffurf hwn.<ref>https://www.youtube.com/watch?v=WEBE1YVmFdM</ref> Bu i'r grŵp ennill yng nghategori 'Band Newydd Gorau' yn noson wobrau'r [[Y Selar|Selar]] y flwyddyn hon. |
||
Erbyn rhyddhau eu senglau cyntaf, ''Mynd a Dod'' ac ''Eira'' ar label [[Rasal]] yn 2012, bu i Tom Ayres gyfnewid â Lewis Williams (gynt o Helyntion Jôs y Ficar) ar y drymiau, a Huw Ynyr yn penderfynu peidio ymddangos â'r band ar lwyfan. Ymunodd Gruff Jones, a oedd eisoes â phrosiect cerddorol electronig o'r enw [[Crash.Disco!]], |
Erbyn rhyddhau eu senglau cyntaf, ''Mynd a Dod'' ac ''Eira'' ar label [[Rasal]] yn 2012, bu i Tom Ayres gyfnewid â Lewis Williams (gynt o Helyntion Jôs y Ficar) ar y drymiau, a Huw Ynyr yn penderfynu peidio ymddangos â'r band ar lwyfan. Ymunodd Gruff Jones, a oedd eisoes â phrosiect cerddorol electronig o'r enw [[Crash.Disco!]], â'r band, gan achosi iddynt ddatblygu elfennau electronig eu cerddoriaeth ymhellach. Rhyddhawyd EP arall, ''Du a Gwyn'', ar y label hwn yn 2013, a oedd yn cynnwys un o'u caneuon mwyaf poblogaidd, 'Gwreiddiau'. |
||
Ymddangosodd y grŵp fel prif fand Maes B yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Gâr 2014|Eisteddfod Llanelli]], 2014, a hynny er gwaethaf y ffaith mai dim ond un EP a dwy sengl y bu iddynt ryddhau cyn hynny. Yn y flwyddyn honno, hefyd, y bu iddynt gyhoeddi eu cynnyrch cyntaf ar eu label presennol, [[I Ka Ching]], gyda'r record fer ''Cynnydd / Gwenwyn''. |
|||
Rhyddhaodd y grŵp eu halbwm cyntaf, ''Sŵnami'', yn 2015. Bu i'r albwm hwnnw ennill gwobr yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Maldwyn a'r Gororau 2015|Eisteddfod Maldwyn a'r Gororau]], 2015, am albwm gorau'r flwyddyn. |
|||
== Gwobrau == |
|||
=== Gwobrau'r Selar === |
|||
* 2011 - Band Newydd Gorau |
|||
* 2013 - Record Fer Orau (''Du a Gwyn''), Fideo Gorau (Gwreiddiau) |
|||
* 2014 - Record Fer Orau (Cynnydd/Gwenwyn), Fideo Gorau (Gwenwyn), Offerynnwr Gorau (Lewis Williams) |
|||
* 2015 - Cân Orau (Trwmgwsg), Gwaith Celf Gorau (''Sŵnami''), Band Gorau, Record Hir Orau (''Sŵnami)'' |
|||
=== Albwm Cymraeg y Flwyddyn (Eisteddfod Genedlaethol Cymru) === |
|||
* 2015 - ''Sŵnami'' |
|||
== Cyfeirnodau == |
Fersiwn yn ôl 16:24, 24 Chwefror 2017
Sŵnami |
---|
Mae Sŵnami yn fand roc indie o Wynedd.
Hanes
Sefydlwyd y band yn 2011, gan ymddangos ar gystadleuaeth Brwydr y Bandiau C2 y flwyddyn honno. Daeth y band yn ail, gyda Siân Miriam yn cipio'r wobr gyntaf. Roedd y pum aelod gwreiddiol, Ifan Davies (llais, gitâr), Ifan Ywain (gitâr), Gerwyn Murray (gitar fâs, llais), Huw Ynyr (allweddellau, llais), a Tom Ayres (drymiau), wedi eu magu ym Meirionnydd, gyda'r rhan fwyaf ohonynt yn mynychu Coleg Meirion Dwyfor. Ymddangosodd y grŵp ar raglen Bandit ar y ffurf hwn.[1] Bu i'r grŵp ennill yng nghategori 'Band Newydd Gorau' yn noson wobrau'r Selar y flwyddyn hon.
Erbyn rhyddhau eu senglau cyntaf, Mynd a Dod ac Eira ar label Rasal yn 2012, bu i Tom Ayres gyfnewid â Lewis Williams (gynt o Helyntion Jôs y Ficar) ar y drymiau, a Huw Ynyr yn penderfynu peidio ymddangos â'r band ar lwyfan. Ymunodd Gruff Jones, a oedd eisoes â phrosiect cerddorol electronig o'r enw Crash.Disco!, â'r band, gan achosi iddynt ddatblygu elfennau electronig eu cerddoriaeth ymhellach. Rhyddhawyd EP arall, Du a Gwyn, ar y label hwn yn 2013, a oedd yn cynnwys un o'u caneuon mwyaf poblogaidd, 'Gwreiddiau'.
Ymddangosodd y grŵp fel prif fand Maes B yn Eisteddfod Llanelli, 2014, a hynny er gwaethaf y ffaith mai dim ond un EP a dwy sengl y bu iddynt ryddhau cyn hynny. Yn y flwyddyn honno, hefyd, y bu iddynt gyhoeddi eu cynnyrch cyntaf ar eu label presennol, I Ka Ching, gyda'r record fer Cynnydd / Gwenwyn.
Rhyddhaodd y grŵp eu halbwm cyntaf, Sŵnami, yn 2015. Bu i'r albwm hwnnw ennill gwobr yn Eisteddfod Maldwyn a'r Gororau, 2015, am albwm gorau'r flwyddyn.
Gwobrau
Gwobrau'r Selar
- 2011 - Band Newydd Gorau
- 2013 - Record Fer Orau (Du a Gwyn), Fideo Gorau (Gwreiddiau)
- 2014 - Record Fer Orau (Cynnydd/Gwenwyn), Fideo Gorau (Gwenwyn), Offerynnwr Gorau (Lewis Williams)
- 2015 - Cân Orau (Trwmgwsg), Gwaith Celf Gorau (Sŵnami), Band Gorau, Record Hir Orau (Sŵnami)
Albwm Cymraeg y Flwyddyn (Eisteddfod Genedlaethol Cymru)
- 2015 - Sŵnami