Cob Cymreig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
diweddariad |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:WelshPonySectionD.jpg|bawd|de|Cob Cymreig]] |
[[Delwedd:WelshPonySectionD.jpg|bawd|de|Cob Cymreig]] |
||
Math o [[merlyn|ferlyn]], |
Math o [[merlyn|ferlyn]], (hy [[Ceffyl]] bach ysgafn) sy'n frodorol o Gymru yw'r '''Cob Cymreig'''. Mae'n un o bedwar adran y [[Merlyn Cymreig]], Adran D yn nosbarthiad [[Cymdeithas y Merlod a'r Cobiau Cymreig]]. |
||
Y cob yw'r mwyaf o bedair adran y Merlyn Cymreig; rhaid iddo fod yn dalach na 13.2 llaw, ac fel arfer maent yn mesur rhwn 14 ac 15 llaw. Maent yn boblogaidd fel ceffylau i'w marchogaeth neu i dynnu troliau ysgafn. Dywed Gwyddoniadur Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru; 2008) ''Disgrifir y cob Cymreig yn aml fel 'yr anifail marchogaeth a gyrru gorau yn y byd', ac mae'n enwog am ei ddewrder , ei natur hydrin ei ystwythder a'i dygnwch.'' Nid oes ffynhonnell i'r dyfyniad, fodd bynnag. |
Y cob yw'r mwyaf o bedair adran y Merlyn Cymreig; rhaid iddo fod yn dalach na 13.2 llaw, ac fel arfer maent yn mesur rhwn 14 ac 15 llaw. Maent yn boblogaidd fel ceffylau i'w marchogaeth neu i dynnu troliau ysgafn. Dywed Gwyddoniadur Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru; 2008) ''Disgrifir y cob Cymreig yn aml fel 'yr anifail marchogaeth a gyrru gorau yn y byd', ac mae'n enwog am ei ddewrder , ei natur hydrin ei ystwythder a'i dygnwch.'' Nid oes ffynhonnell i'r dyfyniad, fodd bynnag.<ref name=USEF/><ref name="WPCS C and D">[http://www.wpcs.uk.com/ponies/sectioncd.html Ponies and Cobs, Sections C and D] Adalwyd Awst 2009</ref><ref name=WPCSASecD>[http://www.welshpony.org/SectionD.htm Welsh Pony and Cob Society of America: Section D] adalwyd 14 Medi 2007</ref> Maent yn arbenig o ddof a chryf.<ref name=USEF/> |
||
Roedd pedigrî ceffyl mor bwysig yn yr [[Oesoedd Canol]] ag y mae heddiw. Canodd [[Guto'r Glyn]] (c.1435 – c.1493) [[cywydd|gywydd]] i ofyn march gan Faredudd ab Ifan o Gedewain dros Reinallt ap Rhys Gruffudd: |
Roedd pedigrî ceffyl mor bwysig yn yr [[Oesoedd Canol]] ag y mae heddiw. Canodd [[Guto'r Glyn]] (c.1435 – c.1493) [[cywydd|gywydd]] i ofyn march gan Faredudd ab Ifan o Gedewain dros Reinallt ap Rhys Gruffudd: |
||
Llinell 41: | Llinell 41: | ||
==Gweler heyfd== |
==Gweler heyfd== |
||
*[[Merlyn mynydd Cymreig]] |
*[[Merlyn mynydd Cymreig]] |
||
==Cyfeiriadau== |
|||
{{cyfeiriadau}} |
|||
==Dolen allanol== |
==Dolen allanol== |
Fersiwn yn ôl 07:49, 7 Ionawr 2017
Math o ferlyn, (hy Ceffyl bach ysgafn) sy'n frodorol o Gymru yw'r Cob Cymreig. Mae'n un o bedwar adran y Merlyn Cymreig, Adran D yn nosbarthiad Cymdeithas y Merlod a'r Cobiau Cymreig.
Y cob yw'r mwyaf o bedair adran y Merlyn Cymreig; rhaid iddo fod yn dalach na 13.2 llaw, ac fel arfer maent yn mesur rhwn 14 ac 15 llaw. Maent yn boblogaidd fel ceffylau i'w marchogaeth neu i dynnu troliau ysgafn. Dywed Gwyddoniadur Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru; 2008) Disgrifir y cob Cymreig yn aml fel 'yr anifail marchogaeth a gyrru gorau yn y byd', ac mae'n enwog am ei ddewrder , ei natur hydrin ei ystwythder a'i dygnwch. Nid oes ffynhonnell i'r dyfyniad, fodd bynnag.[1][2][3] Maent yn arbenig o ddof a chryf.[1]
Roedd pedigrî ceffyl mor bwysig yn yr Oesoedd Canol ag y mae heddiw. Canodd Guto'r Glyn (c.1435 – c.1493) gywydd i ofyn march gan Faredudd ab Ifan o Gedewain dros Reinallt ap Rhys Gruffudd:
- Mab i’r Du ym mhob erw deg
- O Brydyn, o bai redeg;
- Merch ei fam i’r march o Fôn
- Aeth i ddwyn wyth o ddynion;
- Mae wyrion i Ddu’r Moroedd,
- Gwn mai un onaddun oedd.
- Mae yngo nai Myngwyn Iâl
- Ym Mhowys, nis rhwym hual.
- Mae câr i farch Ffwg Gwarin,
- A’i gâr a fâl gwair â’i fin.
- Ucha’ march ei iachau ’m Môn,
- O baladr Talebolion.
- Dewis lwdn, nid oes ledach,
- A’i draed yw ei bedair iach.[4]
Defnyddia Guto sawl enw am y cob, gan gynnwys [m]arch, ebol, gorwydd, eddestr a [p]lanc. Ar wefan gutorglyn.net, mae R. Iestyn Daniel wedi addasu'r cywydd i iaith heddiw:
- Mab yw ef i’r Du o Brydyn
- ym mhob erw deg, pe bai’n rhedeg;
- merch yw ei fam i’r march o Fôn
- a aeth i gludo wyth o ddynion;
- mae yna wyrion gan Ddu’r Moroedd,
- gwn mai un ohonynt oedd ef.
- Mae Myngwyn Iâl yno
- ym Mhowys, ni all hual ei rwymo.
- Mae yna berthynas i farch Ffwg Gwarin,
- ac mae ei berthynas yn malu gwair â’i geg.
- Y march uchaf ei achau ym Môn ydyw,
- o linach Talybolion.
- Mae’n llwdn rhagorol, nid oes tras gymysg iddo,
- a’i draed yw ei bedair ach.
Gweler heyfd
Cyfeiriadau
- ↑ 1.0 1.1 Gwall cyfeirio: Tag
<ref>
annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enwUSEF
- ↑ Ponies and Cobs, Sections C and D Adalwyd Awst 2009
- ↑ Welsh Pony and Cob Society of America: Section D adalwyd 14 Medi 2007
- ↑ gutorglyn.net; Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd; adalwyd 7 Ionawr 2017.
Dolen allanol
- (Saesneg) Cymdeithas y Merlod a'r Cobiau Cymreig