Rhygyfarch ap Sulien: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) ehangu |
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) B Wedi symud Rhygyfarch i Rhygyfarch ap Sulien: cywirach |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 17:00, 16 Awst 2007
Roedd Rhygyfarch ap Sulien (1056 - 1099) yn ysgolhaig ac yn Esgob Tyddewi.
Mab oedd i Sulien, yntau yn ysgolhaig nodedig, yn Esgob Tyddewi, ond yn bennaf yn gysylltiedig a chlas Llanbadarn Fawr. Ysgrifennodd Rhygyfarch y llawysgrif Ladin "Sallwyr Rhygyfarch", sy'n cynnwys cyfieithiad o'r Sallwyr Hebraeg a deunydd arall, yn cynnwys penillion gan Rhygyfarch ei hun. Cyfansoddodd gerdd arall yn galaru oherwydd anrheithiau'r Normaniaid yng Ngheredigion. I Rhygyfarch y priodolir y Vita Davidiis ("Buchedd Dewi"), a gyfansoddwyd i amddiffyn annibyniaeth yr esgobaeth oddi wrth Archesgob Caergaint.