Undeb Cymru Fydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dolenni heb eu creu ers oes pys. Dim dolenni cochion ar wiki Saesneg erbyn hyn. Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol |
|||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
:''Am enghreifftiau eraill o'r enw Cymru Fydd gweler y [[Cymru Fydd (gwahaniaethu)|dudalen gwahaniaethu]]''. |
:''Am enghreifftiau eraill o'r enw Cymru Fydd gweler y [[Cymru Fydd (gwahaniaethu)|dudalen gwahaniaethu]]''. |
||
Cymdeithas ddiwylliannol wladgarol oedd '''Undeb Cymru Fydd'''. Fe'i sefydlwyd yn [[1941]] pan unwyd |
Cymdeithas ddiwylliannol wladgarol oedd '''Undeb Cymru Fydd'''. Fe'i sefydlwyd yn [[1941]] pan unwyd Undeb Cenedlaethol y Cymdeithasau Cymreig a Phwyllgor Amddiffyn Diwylliant Cymru i ffurfio mudiad newydd gyda'r bwriad o hyrwyddo [[diwylliant Cymru]] a'r iaith [[Gymraeg]] a bod yn ffocws a chyfrwng cydweithredu i'r perwyl hwnnw. Mae'r enw yn adlais o enw'r mudiad gwladgarol cynharach [[Cymru Fydd]]. |
||
[[T. I. Ellis]] ([[1899]] - [[1970]]), mab y gwleidydd [[Thomas Edward Ellis]] ([[1859]] - [[1899]]) a chwaraeodd ran bwysig yn yr hen Gymru Fydd, oedd ysgrifenydd y mudiad hyd [[1967]]. |
[[T. I. Ellis]] ([[1899]] - [[1970]]), mab y gwleidydd [[Thomas Edward Ellis]] ([[1859]] - [[1899]]) a chwaraeodd ran bwysig yn yr hen Gymru Fydd, oedd ysgrifenydd y mudiad hyd [[1967]]. |
Fersiwn yn ôl 13:22, 14 Mawrth 2016
- Am enghreifftiau eraill o'r enw Cymru Fydd gweler y dudalen gwahaniaethu.
Cymdeithas ddiwylliannol wladgarol oedd Undeb Cymru Fydd. Fe'i sefydlwyd yn 1941 pan unwyd Undeb Cenedlaethol y Cymdeithasau Cymreig a Phwyllgor Amddiffyn Diwylliant Cymru i ffurfio mudiad newydd gyda'r bwriad o hyrwyddo diwylliant Cymru a'r iaith Gymraeg a bod yn ffocws a chyfrwng cydweithredu i'r perwyl hwnnw. Mae'r enw yn adlais o enw'r mudiad gwladgarol cynharach Cymru Fydd.
T. I. Ellis (1899 - 1970), mab y gwleidydd Thomas Edward Ellis (1859 - 1899) a chwaraeodd ran bwysig yn yr hen Gymru Fydd, oedd ysgrifenydd y mudiad hyd 1967.
Un o ymgyrchoedd cyntaf y mudiad oedd y frwydr i warchod Mynydd Epynt ac ardaloedd eraill yng Nghymru rhag cael eu meddiannu gan y Swyddfa Ryfel ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd, ond methiant fu.
Prif weithgarwch yr undeb oedd pwyso ar lywodraeth Prydain i fabwysiadu polisïau mwy ffafriol a datganoliedig i Gymru a'r Gymraeg mewn meysydd fel addysg a darlledu. Yn ogystal cyhoeddid cyfres o lyfrau a chylchgronau fel Cofion Cymru ar gyfer y Cymry yn y lluoedd arfog adeg yr Ail Ryfel Byd.
Ond roedd agweddau mwy gwleidyddol i'r undeb hefyd. Ym 1950 cynhalwyd cynhadledd arbennig a roes y sbardun i gychwyn yr Ymgyrch dros Senedd i Gymru. Collodd yr undeb ei ffordd yn y 1960au gyda'r cynnydd mewn cenedlaetholdeb Cymreig gwleidyddol a sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg (1962). Dirwynwyd yr undeb i ben yn 1969.
Darllen pellach
- T. I. Ellis, Undeb Cymry Fydd (1960)
- William George, Cymru Fydd (Lerpwl, 1945)
- R. Gerallt Jones, A Bid for Unity (1971)