Ffiwdaliaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'System wleidyddol, economaidd a chymdeithasol mewn bod drwy Ewrop yn yr Oesoedd Canol oedd '''ffiwdaliaeth''' neu'r '''drefn ffiwdal'''. Amrywiod...'
 
YiFeiBot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 1 langlinks, now provided by Wikidata on d:q37739
Llinell 12: Llinell 12:
[[Categori:Systemau cymdeithasol]]
[[Categori:Systemau cymdeithasol]]
[[Categori:Systemau economaidd]]
[[Categori:Systemau economaidd]]

[[en:Feudalism]]

Fersiwn yn ôl 05:29, 8 Awst 2015

System wleidyddol, economaidd a chymdeithasol mewn bod drwy Ewrop yn yr Oesoedd Canol oedd ffiwdaliaeth neu'r drefn ffiwdal.

Amrywiodd y drefn o wlad i wlad ac o oes i oes, ond yn gyffredinol y teyrn oedd y pen, ac yn rhoi tir i'r arglwyddi. Bu'r arglwydd yn addo ffyddlondeb i'r teyrn, ac yn rhoi tir i farchogion ei ardal. Rhan y marchog oedd i amddiffyn ac ymladd dros ei farwn, ac i ddarparu gwaith i'r bileiniaid lleol. Swydd y bilain oedd i weithio i'r marchog.

Cymru a Lloegr

Dechreuodd y drefn ffiwdal yn Nheyrnas Lloegr dan Wiliam I yn yr 11eg ganrif. Roedd yn fodd iddo wobrwyo'r arglwyddi Normanaidd a'i gynorthwyodd i ennill Brwydr Hastings. Rhoddodd darnau o dir i farwniaid ar hyd a lled Lloegr, a gofynnodd y barwniaid i'r marchogion i'w helpu i reoli'r ardaloedd. Roedd y werin bobl yn fodlon gyda'r drefn newydd ar y cyfan oherwydd roeddent yn derbyn tir a gwaith am y tro cyntaf. Doedd yr hen farchogion Seisnig ddim yn fodlon gan iddynt golli tir a statws. Gorchmynnodd Wiliam i bob barwn yn y wlad addo i fod yn ffyddlon i'r brenin uwchben pawb arall, i geisio atal y barwniaid troi yn ei erbyn. Llwyddodd Wiliam i atgyfnerthu ei rym ac i reoli'r wlad yn effeithiol gyda'r drefn hon.

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: