Mercia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
cat
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 23: Llinell 23:
* [[757]] [[Beornrad]]
* [[757]] [[Beornrad]]
* [[757]] - [[796]] [[Offa, brenin Mercia|Offa]]
* [[757]] - [[796]] [[Offa, brenin Mercia|Offa]]
* [[787]] - [[796]] [[Ecgfrith, brenin Mercia|Ecgfrith]] (Mitherrscher)
* [[787]] - [[796]] [[Ecgfrith, brenin Mercia|Ecgfrith]] (Cyd-frenin)
* [[796]] - [[821]] [[Cenwulf]]
* [[796]] - [[821]] [[Cenwulf]]
* [[821]] - [[823]] [[Ceolwulf I, brenin Mercia|Ceolwulf I.]]
* [[821]] - [[823]] [[Ceolwulf I, brenin Mercia|Ceolwulf I.]]

Fersiwn yn ôl 19:16, 9 Gorffennaf 2007

Terynas Mercia, yn dangos y deyrnas wreiddiol yn y 6ed ganrif mewn gwyrdd tywyll, a maint eithaf y deyrnas rhwng y 7fed a'r 9fed ganrif mewn gwydd golau.

Roedd Mercia (Eingl-Sacsoneg:Mierce, "pobl y gororau"), yn un o deyrnasoedd yr Eingl-Sacsoniaid, gyda'i chalon o gwmpas dyffryn Afon Trent.

Roedd Mercia'n ffinio â nifer o deyrnasoedd cymru, yn enwedig Powys, a bu llawer o ymladd rhyngddynt, ond hefyd ambell dro gynghrair. Y brenin cyntaf y gwyddir amdano oedd Creoda, a ddaeth i rym tua 585. Dilynwyd ef gan ei fab, Pybba, yn 593. Dilynwyd ef gan Cearl yn 606, yna daeth Penda yn frenin. Gwnaeth Penda gynghrair gyda nifer o'r brenhinoedd Cymreig i ymgyrchu yn erbyn Northumbria, yn enwedig Cadwallon ap Cadfan, brenin Gwynedd.


Lladdwyd Penda gan y Northunbriaid ym Mrwydr Winwaed yn 655, ac am gyfnod gwanychwyd Mercia yn fawr. Yn ddiweddarach, tua dechrau'r 8fed ganrif, cryfhaodd y deyrnas eto, a chipiwyd darn sylweddol o ddwyrain Powys, yn cynnwys y brifddinas, Pengwern. Daeth Æthelbald yn frenin yn 716, ac wedi iddo ef farw bu rhyfel am yr orsedd a enillwyd gan Offa. Yn ddiweddarach edwinodd grym Mercia, cipiwyd rhan ddwyreiniol y dernas gan y Daniaid a thyfodd Wessex i fod y mwyaf grymus o deyrnasoedd Lloegr.

Brenhinoedd a rheolwyr Mercia