Stadiwm Aviva: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ham II (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'bawd|Stadiwm Aviva Stadiwm chwaraeon yn Nulyn yw '''Stadiwm Aviva'''. Dyma gartref timau Tîm rygb...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 05:48, 24 Mawrth 2015
Stadiwm chwaraeon yn Nulyn yw Stadiwm Aviva. Dyma gartref timau rygbi a phêl droed cenedlaethol Iwerddon. Fe'i lleolir ar safle hen gae chwarae Lansdowne Road; dymchwelwyd yr hen stadiwm yn 2007 ac agorwyd yr un newydd yn swyddogol ar 14 Mai 2010. Mae'n dal 51,700 o bobl. Yn 2011 cynhaliwyd gemau'r Cwpan Celtaidd cyntaf a rownd derfynol Cynghrair Europa UEFA yno. Noddir y stadiwm gan y cwmni yswiriant Aviva; mae ganddynt hawliau enwi dros y stadiwm am y cyfnod o 2009 hyd 2019.