John Jones (seryddwr): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 12: Llinell 12:


==Llyfryddiaeth==
==Llyfryddiaeth==
*Eleazar Roberts, 'John Jones y Seryddwr', ''[[Y Geninen]]'' (Gŵyl Dewi), 1901 , 42-6. Ysgrif sy'n cynnwys hanes byr ei fywyd ei hun gan John Jones.
*[[Eleazar Roberts]], 'John Jones y Seryddwr', ''[[Y Geninen]]'' (Gŵyl Dewi), 1901 , 42-6. Ysgrif sy'n cynnwys hanes byr ei fywyd ei hun gan John Jones.
*Samuel Smiles, ''Men of Invention and Industry'' (Llundain, 1884)
*Samuel Smiles, ''Men of Invention and Industry'' (Llundain, 1884)


Llinell 26: Llinell 26:
[[Categori:Seryddwyr Cymreig]]
[[Categori:Seryddwyr Cymreig]]
[[Categori:Ysgolheigion Cymreig]]
[[Categori:Ysgolheigion Cymreig]]

[[en:John Jones (astronomer)]]

Fersiwn yn ôl 01:47, 21 Tachwedd 2013

Llechen goffa John Jones

Seryddwr ac ieithydd Cymreig oedd John Jones (1818 - 1898), a adnabyddid hefyd fel John Jones y Sêr neu Ioan Bryngwyn Bach (ei enw barddol). Roedd yn ŵr hunanaddysgedig a enillodd gryn sylw yn ei oes fel seryddwr amatur. Roedd yn frodor o blwyf Llanidan, Ynys Môn.[1]

Bywgraffiad

Gweithiwr oedd John Jones ar hyd ei oes o ran ei alwedigaeth. Cafodd ei eni yn y Bryngwyn Bach ger Dwyran, Sir Fôn, yn 1818. Ychydig o addysg elfennol yn unig a gafodd yn blentyn. Cafodd waith fel gwas fferm ac yn 1848 aeth i weithio fel llwythwr llechi ym Mhorth Penrhyn ger Bangor.[2]

Darllenai lyfrau o lyfrgell gweinidog lleol a dysgodd am seryddiaeth - ei hoff bwnc - ac ieithoedd y Beibl gan ddod i fedru darllen Groeg a Hebraeg. Gwnaeth ddau sbienddrych (telesgop) iddo ei hun. Roedd hefyd yn barddoni.[3]

Daeth i amlygrwydd ar draws gwledydd Prydain pan gafodd ei "ddarganfod" gan yr awdur Samuel Smiles, a fu'n enwog yn ail hanner y 19eg ganrif am ei lyfrau "dod ymlaen" poblogaidd fel Self-Help, a ymwelodd ag ef ym Mangor ac a ysgrifenodd amdano yn ei gyfrol Men of Invention and Industry (1884).[4]

Bu farw ym Mangor yn 1898.[5]

Llyfryddiaeth

  • Eleazar Roberts, 'John Jones y Seryddwr', Y Geninen (Gŵyl Dewi), 1901 , 42-6. Ysgrif sy'n cynnwys hanes byr ei fywyd ei hun gan John Jones.
  • Samuel Smiles, Men of Invention and Industry (Llundain, 1884)

Cyfeiriadau

  1. Y Bywgraffiadur Ar-Lein
  2. Eleazar Roberts. 'John Jones y Seryddwr', Y Geninen (Gŵyl Dewi), 1901 , 42-6.
  3. Y Bywgraffiadur Ar-Lein
  4. Eleazar Roberts. 'John Jones y Seryddwr', Y Geninen (Gŵyl Dewi), 1901 , 42-6.
  5. Y Bywgraffiadur Ar-Lein