John Jones (seryddwr): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
|||
Llinell 12: | Llinell 12: | ||
==Llyfryddiaeth== |
==Llyfryddiaeth== |
||
*Eleazar Roberts, 'John Jones y Seryddwr', ''Y Geninen'' (Gŵyl Dewi), 1901 , 42-6. Ysgrif sy'n cynnwys hanes byr ei fywyd ei hun gan John Jones. |
*Eleazar Roberts, 'John Jones y Seryddwr', ''[[Y Geninen]]'' (Gŵyl Dewi), 1901 , 42-6. Ysgrif sy'n cynnwys hanes byr ei fywyd ei hun gan John Jones. |
||
*Samuel Smiles, '' |
*Samuel Smiles, ''Men of Invention and Industry'' (Llundain, 1884) |
||
==Cyfeiriadau== |
==Cyfeiriadau== |
Fersiwn yn ôl 01:10, 21 Tachwedd 2013
Seryddwr ac ieithydd Cymreig oedd John Jones (1818 - 1898), a adnabyddid hefyd fel John Jones y Sêr neu Ioan Bryngwyn Bach (ei enw barddol). Roedd yn ŵr hunanaddysgedig a enillodd gryn sylw yn ei oes fel seryddwr amatur. Roedd yn frodor o blwyf Llanidan, Ynys Môn.[1]
Bywgraffiad
Gweithiwr oedd John Jones ar hyd ei oes o ran alwedigaeth. Cafodd ei eni yn y Bryngwyn Bach ger Dwyran, Sir Fôn, yn 1818. Ychydig o addysg elfennol yn unig a gafodd yn blentyn. Cafodd waith fel gwas fferm ac yn 1848 aeth i weithio fel llwythwr llechi ym Mhorth Penrhyn ger Bangor.[2]
Darllenai lyfrau o lyfrgell gweinidog lleol a dysgodd am seryddiaeth - ei hoff bwnc - ac ieithoedd y Beibl gan ddod i fedru darllen Groeg a Hebraeg. Gwnaeth dau sbienddrych (telesgop) iddo ei hun. Roedd hefyd yn barddoni.[3]
Daeth i amlygrwydd pan gafodd ei "ddarganfod" gan yr awdur Samuel Smiles, a fu'n enwog yn ail hanner y 19eg ganrif am ei lyfrau "dod ymlaen" fel Self-Help, a ymwelodd ag ef ac a ysgrifenodd amdano yn ei gyfrol Men of Men of Invention and Industry (1884).[4]
Bu farw ym Mangor yn 1898.[5]
Llyfryddiaeth
- Eleazar Roberts, 'John Jones y Seryddwr', Y Geninen (Gŵyl Dewi), 1901 , 42-6. Ysgrif sy'n cynnwys hanes byr ei fywyd ei hun gan John Jones.
- Samuel Smiles, Men of Invention and Industry (Llundain, 1884)
Cyfeiriadau
- ↑ Y Bywgraffiadur Ar-Lein
- ↑ Eleazar Roberts. 'John Jones y Seryddwr', Y Geninen (Gŵyl Dewi), 1901 , 42-6.
- ↑ Y Bywgraffiadur Ar-Lein
- ↑ Eleazar Roberts. 'John Jones y Seryddwr', Y Geninen (Gŵyl Dewi), 1901 , 42-6.
- ↑ Y Bywgraffiadur Ar-Lein