Penarddun: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
MystBot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: de:Penarddun |
→References: newidiadau man using AWB |
||
Llinell 10: | Llinell 10: | ||
<references/> |
<references/> |
||
[[ |
[[Categori:Mytholeg Gymreig]] |
||
[[Categori:Pedair Cainc y Mabinogi]] |
[[Categori:Pedair Cainc y Mabinogi]] |
||
Fersiwn yn ôl 17:32, 7 Mawrth 2013
Yn y traddodiad Cymreig, gwraig Llŷr a merch (neu chwaer) Beli Mawr yw Penarddun. Mewn rhai testunau achyddol mae Arthur yn un o ddisgynyddion Penarddun, ond ni ellir eu derbyn fel achau dilys.
Cyfeirir ati yn y Gyntaf o Bedair Cainc y Mabinogi, Branwen ferch Llŷr, fel mam Bendigeidfran, Branwen, a Manawydan gan Llŷr, a mam dau fab arall, sef y gefeilliaid Nisien ac Efnysien, gan Euroswydd.
Yn y Trioedd, rhestrir Llŷr (fel Llŷr Llediaith) yn un o 'Dri Goruchel Garcharor Ynys Prydain' am iddo gael ei ddal yn garcharor gan Euroswydd; dichon fod hyn yn deillio o chwedl goll am ymryson rhwng Euroswydd a Llŷr am gariad Penarddun.[1]
Cyfansoddair yw'r enw Penarddun o pen ac arddun "teg, prydferth (am ferch)"[2]).
References
- ↑ Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, 1991), Triawd.
- ↑ Geiriadur Prifysgol Cymru, vol. 1, p. 188.