Verdun, Ffrainc: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.3) (robot yn ychwanegu: pms:Verdun
SassoBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.3) (robot yn ychwanegu: simple:Verdun
Llinell 51: Llinell 51:
[[ro:Verdun]]
[[ro:Verdun]]
[[ru:Верден]]
[[ru:Верден]]
[[simple:Verdun]]
[[sk:Verdun]]
[[sk:Verdun]]
[[sl:Verdun, Meuse]]
[[sl:Verdun, Meuse]]

Fersiwn yn ôl 16:10, 31 Rhagfyr 2012

Am enghreifftiau eraill o'r enw gweler Verdun.

Quai Londres yn Verdun Dinas yng ngogledd-ddwyrain Ffrainc yw Verdun, prif ddinas ardal Meuse, yn rhanbarth hanesyddol Lorraine. Ei henw yn nghyfnod y Rhufeiniaid oedd Verodunum.

Gorwedd y ddinas ar lannau Afon Meuse. Mae ganddi furiau trwchus o'i chwmpas. Mae ganddi eglwys gadeiriol ganoloesol (11eg ganrif - 13eg ganrif). Ceir porthladd ar y gamlas sy'n rhedeg trwy'r ddinas.

Sefydlwyd esgobaeth yn Verdun yn y 3edd ganrif. Cafodd y ddinas ei difrodi gan y Ffrancod yn y 5ed ganrif ond fe'i hailadeiladwyd yn ddiweddarach yn y ganrif honno. Yn 843 arwyddwyd cytundeb yno rhwng tri mab Louis Dduwiol, Ymerawdwr Glân Rhufeinig, i rannu'r ymerodraeth. Yn 1552 cafodd Verdun ei hymgorffori yn nheyrnas Ffrainc gan Harri II. Ildiodd y ddinas i'r Almaenwyr yn 1789 yn y rhyfel rhwng Ffrainc a'r Almaen yn sgîl y Chwyldro Ffrengig ac eto yn 1870. Gwelodd Verdun ymladd ofnadwy yn y Rhyfel Byd Cyntaf a dinistriwyd y rhan fwyaf o'r ddinas yn y brwydro ffyrnig yn 1916 rhwng y Ffrancod, dan arweiniad Marsial Pétain, a'r Almaenwyr,un o frwydrau gwaethaf y Rhyfel Mawr.

Gweler hefyd