Cyfres Dramâu'r Byd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu |
|||
Llinell 16: | Llinell 16: | ||
[[Categori:Dramâu]] |
[[Categori:Dramâu]] |
||
[[Categori:Dramâu Cymraeg]] |
|||
[[Categori:Cyfieithiadau]] |
[[Categori:Cyfieithiadau]] |
||
[[Categori:Llenyddiaeth Gymraeg]] |
[[Categori:Llenyddiaeth Gymraeg]] |
Fersiwn yn ôl 14:11, 23 Tachwedd 2012
Cyfres o ddramâu gorau'r byd yw'r cyfieithiadau i'r Gymraeg yn Dramâu'r Byd a gyhoeddwyd gan Gwasg Prifysgol Cymru o 1969 i 1991. Prif olygydd y gyfres oedd yr Athro Gwyn Thomas.
Mae cyfresi eraill fel "Dramâu'r Byd " gan Gwasg Prifysgol Cymru sef "Y Ddrama yn Ewrop", yn ogystal â chyfresi "Dramâu Aberystwyth" gan CAA a "Cyfres yr Academi " gan yr Academi Gymreig.
Rhestr o deitlau yn "Dramâu'r Byd " ac "Y Ddrama yn Ewrop"
- 1969 Diwéddgan, cyfieithiad gan Gwyn Thomas o Fin de Partie Samuel Beckett
- 1970 Wrth aros Godot, cyfieithiad gan Saunders Lewis o En Attendant Godot Samuel Beckett
- 1972 Oidipus Frenin, un o'r Tair Drama Thebaidd gan Soffocles (497 BC - 406 BC) - cyfieithiad Euros Bowen (rhan o gyfres Y Ddrama yn Ewrop)
- 1976 Yr Ehedydd cyfieithiad gan Kathleen Parry o L'Alouette Jean Anouilh
- 1978 Caligula gan Albert Camus a gyfieithywd i'r Gymraeg gan Emyr Tudwal Jones a Prys Morgan.
- 1979 Gwahoddiad i Ginio, cyfieithiad gan John H. Watkins o Le Rendez-vous de Senlis Jean Anouilh
- 1979 Caeëdig Ddôr (Huis clos 1944). Y cyfieithiad i'r Gymraeg gan Richard T. Jones
- 1979 Oidipus yn Colonos, gan Soffocles, cyfieithiad Euros Bowen
- 1984 Electra, gan Soffocles, cyfieithiad Euros Bowen
- 1991 Miss Julie gan August Strindberg cyfieithwyd gan Glenda Carr a Michael Burns