Sgandal camdrin plant yng Ngogledd Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.2+) (Robot: Yn newid en:Wales child abuse scandal yn en:North Wales child abuse scandal |
|||
Llinell 17: | Llinell 17: | ||
Crewyd swydd Comisiynydd Plant Cymru o ganlyniad i Adroddiad Waterhouse. |
Crewyd swydd Comisiynydd Plant Cymru o ganlyniad i Adroddiad Waterhouse. |
||
Yn Nhachwedd 2012 galwodd Steve Meesham, dyn sy'n honni iddo gael ei gam-drin yn rhywiol gan wleidydd Ceidwadol blaenllaw, am ymchwiliad newydd. Mewn cyfweliad ar y rhaglen [[BBC]] ''[[Newsnight]]'', dywedodd fod y gwleidydd wedi ei gam-drin yn fwy na dwsin o weithiau, ond ni chafodd enwi'r gwleidydd ar y rhaglen.<ref name=BBC-3-11-12>{{dyf gwe |url=http://www.bbc.co.uk/newyddion/20191048 |teitl=Dioddefwr yn galw am ymchwiliad newydd |cyhoeddwr=[[BBC]] |dyddiad=3 Tachwedd 2012 |dyddiadcyrchiad=4 Tachwedd 2012 }}</ref><ref>{{dyf gwe |url=http://www.golwg360.com/newyddion/cymru/90517-dioddefwr-trais-rhywiol-yn-enwi-tori-blaenllaw |teitl=Dioddefwr trais rhywiol yn enwi Tori blaenllaw |cyhoeddwr=[[Golwg360]] |dyddiad=3 Tachwedd 2012 |dyddiadcyrchiad=4 Tachwedd 2012 }}</ref> Cefnogir ymchwiliad newydd gan Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru.<ref>{{dyf gwe |url=http://www.golwg360.com/newyddion/cymru/90582-pwyso-am-ymchwiliad-newydd-i-gylch-o-bedoffiliaid |teitl=Pwyso am ymchwiliad newydd i gylch o bedoffiliaid |cyhoeddwr=[[Golwg360]] |dyddiad=4 Tachwedd 2012 |dyddiadcyrchiad=4 Tachwedd 2012 }}</ref> |
Yn Nhachwedd 2012 galwodd Steve Meesham, dyn sy'n honni iddo gael ei gam-drin yn rhywiol gan wleidydd Ceidwadol blaenllaw, am ymchwiliad newydd. Mewn cyfweliad ar y rhaglen [[BBC]] ''[[Newsnight]]'', dywedodd fod y gwleidydd wedi ei gam-drin yn fwy na dwsin o weithiau, ond ni chafodd enwi'r gwleidydd ar y rhaglen.<ref name=BBC-3-11-12>{{dyf gwe |url=http://www.bbc.co.uk/newyddion/20191048 |teitl=Dioddefwr yn galw am ymchwiliad newydd |cyhoeddwr=[[BBC]] |dyddiad=3 Tachwedd 2012 |dyddiadcyrchiad=4 Tachwedd 2012 }}</ref><ref>{{dyf gwe |url=http://www.golwg360.com/newyddion/cymru/90517-dioddefwr-trais-rhywiol-yn-enwi-tori-blaenllaw |teitl=Dioddefwr trais rhywiol yn enwi Tori blaenllaw |cyhoeddwr=[[Golwg360]] |dyddiad=3 Tachwedd 2012 |dyddiadcyrchiad=4 Tachwedd 2012 }}</ref> Cefnogir ymchwiliad newydd gan Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru.<ref>{{dyf gwe |url=http://www.golwg360.com/newyddion/cymru/90582-pwyso-am-ymchwiliad-newydd-i-gylch-o-bedoffiliaid |teitl=Pwyso am ymchwiliad newydd i gylch o bedoffiliaid |cyhoeddwr=[[Golwg360]] |dyddiad=4 Tachwedd 2012 |dyddiadcyrchiad=4 Tachwedd 2012 }}</ref> Cafodd [[Alistair McAlpine, Barwn McAlpine o West Green|yr Arglwydd McAlpine]] ei gysylltu â'r cyhuddiadau, a derbyniodd McAlpine ymddiheuriadau gan Meesham<ref>{{dyf gwe |url=http://www.bbc.co.uk/newyddion/20275086 |teitl=Dioddefwr yn ymddiheuro i'r Arglwydd McApline am ei gam-adnabod |cyhoeddwr=[[BBC]] |dyddiad=9 Tachwedd 2012 |dyddiadcyrchiad=12 Tachwedd 2012 }}</ref> a'r BBC<ref>{{dyf gwe |url=http://www.bbc.co.uk/newyddion/20279502 |teitl=BBC yn ymddiheuro'n ddiamod am adroddiad Newsnight |cyhoeddwr=[[BBC]] |dyddiad=10 Tachwedd 2012 |dyddiadcyrchiad=12 Tachwedd 2012 }]</ref> am ei gam-adnabod. O ganlyniad i'r ffrae dros y rhaglen, ymddiswyddodd [[George Entwistle]], Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC.<ref>{{dyf gwe |url=http://www.bbc.co.uk/newyddion/20287355 |teitl=Cyfarwyddwr cyffredinol y BBC, George Entwistle, yn ymddiswyddo |cyhoeddwr=[[BBC]] |dyddiad=11 Tachwedd 2012 |dyddiadcyrchiad=12 Tachwedd 2012 }}</ref> |
||
{{eginyn-adran}} |
|||
== Cyfeiriadau == |
== Cyfeiriadau == |
Fersiwn yn ôl 20:16, 12 Tachwedd 2012
Sgandal dros gamdrin plant yn rhywiol mewn cartrefi gofal yng Ngogledd Cymru oedd sgandal camdrin plant yng Ngogledd Cymru, a ganolbwyntiodd ar achosion yng Nghlwyd a Gwynedd o 1974 hyd 1990. Penodwyd Syr Ronald Waterhouse i arwain ymchwiliad ym 1997, a chyflwynwyd adroddiad Waterhouse yn 2000. Crewyd swydd Comisiynydd Plant Cymru o ganlyniad.
Cefndir
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Ymchwiliad Waterhouse
Gorchmynwyd ymchwiliad gan William Hague, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ym 1996 yn sgil penderfyniad gan Gyngor Sir Clwyd i wrthod cyhoeddi adroddiad gan ymchwiliad llai. Gwnaed penderfyniad y Cyngor ar sail cyngor cyfreithiol a rybuddiodd y bydd yr adroddiad yn annog achosion llys a cheisiadau am iawndal.[1]
Clywodd y tribiwnlys dros 700 o honiadau yn erbyn 170 o bobl mewn 40 o gartrefi, dros gyfnod o 20 mlynedd.[2] Parhaodd y tribiwnlys am 203 o ddiwrnodau a chlywodd dystiolaeth gan 575 o dystion, gan gynnwys 259 o achwynwyr a honnodd iddynt gael eu cam-drin mewn gofal. Archwiliodd y tribiwnlys 9,500 o ffeiliau'r gwasanaethau cymdeithasol, 3,500 o ddatganiadau i'r heddlu a 43,000 o dudalennau o gwynion.[1] Costiodd yr ymchwiliad £12 miliwn.[3]
Adroddiad Waterhouse
Yn Chwefror 2000 cyhoeddwyd yr adroddiad, "Ar Goll mewn Gofal", oedd yn hanner miliwn o eiriau ac yn cynnwys 72 o argymhellion. Galwodd yr adroddiad am "ad-drefnu'r system gofal yn llwyr", a beirniadodd weithwyr cymdeithasol, staff cartrefi preswyl, awdurdodau lleol, yr heddlu a'r Swyddfa Gymreig.[4] Ymhlith yr argymhellion oedd i benodi Comisiynydd Plant i Gymru, i awdurdodau lleol benodi Swyddog Cwynion i Blant, i awdurdodau lleol weithredu trefn canu cloch, i weithwyr cymdeithasol ymweld â phlant yn eu gofal bob dau fis, i adolygu'r rheolau parthed gofal preswyl preifat ac i adolygu anghenion a chostau gwasanaethau plant yn y Deyrnas Unedig.[5]
Croesawyd casgliadau'r adroddiad gan Ddirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, John Owen, ond datganodd na fydd yr heddlu yn erlyn yr un berson mewn cysylltiad â'r honiadau.[5]
Canlyniadau
Crewyd swydd Comisiynydd Plant Cymru o ganlyniad i Adroddiad Waterhouse.
Yn Nhachwedd 2012 galwodd Steve Meesham, dyn sy'n honni iddo gael ei gam-drin yn rhywiol gan wleidydd Ceidwadol blaenllaw, am ymchwiliad newydd. Mewn cyfweliad ar y rhaglen BBC Newsnight, dywedodd fod y gwleidydd wedi ei gam-drin yn fwy na dwsin o weithiau, ond ni chafodd enwi'r gwleidydd ar y rhaglen.[3][6] Cefnogir ymchwiliad newydd gan Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru.[7] Cafodd yr Arglwydd McAlpine ei gysylltu â'r cyhuddiadau, a derbyniodd McAlpine ymddiheuriadau gan Meesham[8] a'r BBC[9] am ei gam-adnabod. O ganlyniad i'r ffrae dros y rhaglen, ymddiswyddodd George Entwistle, Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC.[10]
Cyfeiriadau
- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Questions and answers that surround a catalogue of abuse against children. The Guardian (16 Chwefror 2000). Adalwyd ar 24 Hydref 2012.
- ↑ Cynnig llais i blant mewn gofal. BBC (13 Chwefror 2000). Adalwyd ar 23 Hydref 2012.
- ↑ 3.0 3.1 Dioddefwr yn galw am ymchwiliad newydd. BBC (3 Tachwedd 2012). Adalwyd ar 4 Tachwedd 2012.
- ↑ Galwad am 'ad-drefnu'r system gofal yn llwyr'. BBC (15 Chwefror 2000). Adalwyd ar 23 Hydref 2012.
- ↑ 5.0 5.1 Dim erlyn, meddai'r heddlu, ar ôl adroddiad camdrin. BBC (16 Chwefror 2000). Adalwyd ar 23 Hydref 2012.
- ↑ Dioddefwr trais rhywiol yn enwi Tori blaenllaw. Golwg360 (3 Tachwedd 2012). Adalwyd ar 4 Tachwedd 2012.
- ↑ Pwyso am ymchwiliad newydd i gylch o bedoffiliaid. Golwg360 (4 Tachwedd 2012). Adalwyd ar 4 Tachwedd 2012.
- ↑ Dioddefwr yn ymddiheuro i'r Arglwydd McApline am ei gam-adnabod. BBC (9 Tachwedd 2012). Adalwyd ar 12 Tachwedd 2012.
- ↑ {{dyf gwe |url=http://www.bbc.co.uk/newyddion/20279502 |teitl=BBC yn ymddiheuro'n ddiamod am adroddiad Newsnight |cyhoeddwr=BBC |dyddiad=10 Tachwedd 2012 |dyddiadcyrchiad=12 Tachwedd 2012 }]
- ↑ Cyfarwyddwr cyffredinol y BBC, George Entwistle, yn ymddiswyddo. BBC (11 Tachwedd 2012). Adalwyd ar 12 Tachwedd 2012.
Darllen pellach
- Corby, B., Doig, A. a Roberts, V. Public Inquiries into Abuse of Children in Residential Care (Llundain, Jessica Kingsley, 2001).
- Webster, Richard. The Secret of Bryn Estyn: The Making of a Modern Witch Hunt (Orwell Press, 2005).