Dai Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ad-drefnu cynnwys, newid dolen S4C i cy
treiglo dolen
Llinell 1: Llinell 1:
{{gweler hefyd|David Jones}}
{{gweler hefyd|David Jones}}
[[Canwr]], [[ffermwr]], [[cyflwynydd teledu]] a [[cyflwynydd radio|adio]] yw '''Dai Jones''' [[MBE]] (ganed [[1943]]), sy'n hannu o [[Llanilar|Lanilar]] ger [[Aberystwyth]], [[Ceredigion]].
[[Canwr]], [[ffermwr]], a [[cyflwynydd teledu|chyflwynydd teledu]] a [[cyflwynydd radio|adio]] yw '''Dai Jones''' [[MBE]] (ganed [[1943]]), sy'n hannu o [[Llanilar|Lanilar]] ger [[Aberystwyth]], [[Ceredigion]].


Mae Dai Jones yn fwyaf adnabyddus am gyflwyno rhaglen ''[[Cefn Gwlad]]'' ar [[S4C]]. Mae wedi bod yn cyflwyno'r sioe ers dros 25 mlynedd, gan greu, hyd 2008, 450 o raglenni.<ref name="S4C Press">{{dyf gwe| teitl=Cefn Gwlad yn dathlu chwarter canrif ar faes Y Sioe| cyhoeddwr=S4C Press Department| url=http://www.s4c.co.uk/sched/c_press_level2.shtml?id=115| dyddiadcyrchu=1 Rhagfyr 2008}}</ref>
Mae Dai Jones yn fwyaf adnabyddus am gyflwyno rhaglen ''[[Cefn Gwlad]]'' ar [[S4C]]. Mae wedi bod yn cyflwyno'r sioe ers dros 25 mlynedd, gan greu, hyd 2008, 450 o raglenni.<ref name="S4C Press">{{dyf gwe| teitl=Cefn Gwlad yn dathlu chwarter canrif ar faes Y Sioe| cyhoeddwr=S4C Press Department| url=http://www.s4c.co.uk/sched/c_press_level2.shtml?id=115| dyddiadcyrchu=1 Rhagfyr 2008}}</ref>

Fersiwn yn ôl 09:16, 9 Hydref 2012

Gweler hefyd: David Jones

Canwr, ffermwr, a chyflwynydd teledu a adio yw Dai Jones MBE (ganed 1943), sy'n hannu o Lanilar ger Aberystwyth, Ceredigion.

Mae Dai Jones yn fwyaf adnabyddus am gyflwyno rhaglen Cefn Gwlad ar S4C. Mae wedi bod yn cyflwyno'r sioe ers dros 25 mlynedd, gan greu, hyd 2008, 450 o raglenni.[1]

Bu Jones eisoes yn adnabyddus fel cyflwynydd y cwis Siôn a Siân pan ofynnodd y cyfarwyddwr a'r cynhyrchydd Geraint Rees iddo gyflwyno Cefn Gwlad.[1] Mae'n darlledu rhaglen ceisiadau ar BBC Radio Cymru.

Mae hefyd yn denor medrus, gan ennill y Rhuban Glas yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhydaman 1970. Mae wedi rhyddhau sawl record gyda'r label Gymreig, Cambrian.

Daeth yn llywydd Cymdeithas y Gwartheg Duon Cymreig ar ei ganmlwyddiant yn 2004/05.

Cyhoeddodd ei hunangofiant, Fi Dai Sy' 'Ma ym 1997.[2]

Cafodd ei ddychanu yn aml ar raglen gartŵn Gymraeg Cnex.

Gwobrau ac anrhydeddau

Gwobrwywyd gydag MBE am wasanaethau i adloniant yng Nghymru ar restr anrhydeddau'r flwyddyn newydd ym 1999.[3]

Enillodd Jones wobr BAFTA Cymru yn 2004 am ei gyfraniadau i ddarlledu ar y teledu a'r radio yng Nghymru. Yn ddiweddarach yr un flwyddyn, enillodd hefyd wobr Syr Bryner Jones am ei gyfraniad i faterion gwledig.

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1  Cefn Gwlad yn dathlu chwarter canrif ar faes Y Sioe. S4C Press Department.
  2. Dai Jones (1997). Cyfres y Cewri: 17. Fi Dai Sy' 'Ma. Gwasg Gwynedd. ISBN 9780860741428URL
  3.  MBE civil (H - M). BBC (31 Rhagfyr 1999).