Orléans: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
RedBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.2) (robot yn newid: pt:Orléans |
B r2.7.2) (robot yn ychwanegu: br:Orleañs |
||
Llinell 33: | Llinell 33: | ||
[[be-x-old:Арлеан]] |
[[be-x-old:Арлеан]] |
||
[[bg:Орлеан]] |
[[bg:Орлеан]] |
||
[[br:Orleañs]] |
|||
[[ca:Orleans]] |
[[ca:Orleans]] |
||
[[ceb:Orléans]] |
[[ceb:Orléans]] |
Fersiwn yn ôl 17:43, 3 Awst 2012
- Erthygl am y ddinas yn Ffrainc yw hon. Gweler hefyd Orleans (gwahaniaethu).
Dinas hanesyddol yng ngogledd canolbarth Ffrainc yw Orléans, sy'n brifddinas weinyddol département Loiret a rhanbarth Centre hefyd. Gorwedd ar lan Afon Loire 116 km i'r de-orllewin o Baris. Gelwir ei thrigolion yn Orléanais. Mae'n sedd esgobaeth ers y 4edd ganrif. Enwir dinas New Orleans (Nouvelle Orléans) yn yr Unol Daleithiau ar ôl Orléans.
Yn 1428, yn ystod y Rhyfel Can Mlynedd, roedd y Saeson yn gwarchae ar ddinas Orléans. Yn 1429, perswadiodd merch ieuanc o blith y werin, Jeanne d’Arc, y Dauphin, Siarl VII, i’w gyrru i godi’r gwarchae, gan ddweud ei bod wedi cael gweledigaeth gan Dduw yn gorchymyn iddi yrru’r Saeson allan. Llwyddodd i godi’r gwarchae o fewn naw diwrnod, ac ysbrydolodd y Ffrancwyr i gipio nifer o gaerau’r Saeson ar hyd Afon Loire. Yn fuan wedyn, cafodd y Ffrancwyr fuddugoliaeth dros y Saeson ym Mrwydr Patay. Coronwyd y Dauphin yn Reims fel Siarl VII, gyda Jeanne yn ei arwain i'w goroni.
Dioddefodd y ddinas lawer o ddifrod yn yr Ail Ryfel Byd, yn enwedig yn 1940, ond mae'r eglwys gadeiriol ganoloesol yn dal i sefyll. Mae Neuadd Dref Orléans (hôtel de ville) yn dyddio o'r 16fed ganrif.
Adeiladau a chofadeiladau
- Canolfan Charles Peguy
- Tŷ Jeanne d'Arc
Enwogion
- Gustave Lanson (1857 - 1934), hanesydd
- Charles Péguy (1873 - 1914), bardd
Dolenni allanol
- (Ffrangeg) Gwefan swyddogol y ddinas