Telor yr helyg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: vi:Chích liễu
B r2.7.3) (robot yn ychwanegu: ar:نقشارة الصفصاف
Llinell 24: Llinell 24:
[[Categori:Teloriaid]]
[[Categori:Teloriaid]]


[[ar:نقشارة الصفصاف]]
[[ba:Төйөт]]
[[ba:Төйөт]]
[[bg:Брезов певец]]
[[bg:Брезов певец]]

Fersiwn yn ôl 05:41, 27 Mehefin 2012

Telor yr Helyg
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Teulu: Sylviidae
Genws: Phylloscopus
Rhywogaeth: P. trochilus
Enw deuenwol
Phylloscopus trochilus
(Linnaeus, 1758)

Mae Telor yr Helyg (Phylloscopus trochilus) yn aelod o deulu'r Teloriaid ac yn aderyn cyffredin trwy ogledd a chanolbarth Ewrop ac Asia.

Mae'n treulio'r gaeaf yn Affrica i'r de o anialwch y Sahara ac mae'n un o'r adar mudol cyntaf i ddechwelyd yn y gwanwyn, ond fel rheol wythnos neu ddwy yn nwyrach na pherthynas agos iddo, sef y Siff-saff.

Adeiledir y nyth mewn coedydd agored gyda thyfiant is ar gyfer nythu ynddo neu dyfiant isel gyda choed yma ac acw. Fel rheol mae'n nythu mewn llwyn. Pryfed yw ei brif fwyd, ac mae'n eu dal ym mrigau'r coed.

Gall fod yn anodd gwahaniaethu rhwng Telor yr Helyg a rhai aelodau eraill o'r genws Phylloscopus, er enghraifft y Siff-saff. Mae rhwng 11-12 cm o hyd, yn wyrdd-frown ar y cefn a bron yn wyn oddi tano. Mae'r coesau yn olau, lliw pinc fel rheol, yn wahanol i'r Siff-saff sydd a choesau tywyll. Mae adenydd y Siff-saff yn fyrrach na rhai Telor yr Helyg hefyd. Y gân yw'r ffordd hawddaf i'w gwahaniaethu; mae cân Telor yr Helyg yn fath o chwiban sy'n gostwng tua'r diwedd, tra mae cân y Siff-saff fel ei enw - "siff-saff" yn cael ei ail-adrodd dro ar ôl tro.