Heracles: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: war:Heracles |
B r2.7.1) (robot yn newid: ka:ჰერაკლე |
||
Llinell 52: | Llinell 52: | ||
[[it:Eracle]] |
[[it:Eracle]] |
||
[[ja:ヘーラクレース]] |
[[ja:ヘーラクレース]] |
||
[[ka:ჰერაკლე |
[[ka:ჰერაკლე]] |
||
[[kk:Геракл]] |
[[kk:Геракл]] |
||
[[ko:헤라클레스]] |
[[ko:헤라클레스]] |
Fersiwn yn ôl 23:06, 27 Ebrill 2012
Nid yw'r erthygl hon yn dyfynnu unrhyw ffynonellau. Helpwch wella'r erthygl hon drwy ychwanegu dyfyniadau i ffynonellau dibynadwy. Caiff cynnwys heb ei ddyfynnu ei herio, a gellir ei ddileu, o ganlyniad. Mae'r tag yma'n rhoi'r erthygl yma yn y categori Categori:Dim-ffynonellau. (Ionawr 2010) |
Roedd Heracles neu Herakles (Ἡρακλῆς), Hercules i'r Rhufeiniaid, hen ffurf Cymraeg Ercwlff, yn gymeriad mewn mytholeg Groeg. Roedd yn fab i Zeus ac Alcmene, ac roedd nifer o linachau brenhinol yn ei hawlio fel cyndad.
Roedd Heracles yn nodedig am ei gryfder eithriadol a'i ddewrder, ond roedd y dduwies Hera, gwraig Zeus, yn ei gasàu. Pan oedd Heracles yn Thebai, priododd Megara, merch y brenin Creon. Fodd bynnag gwnaeth Hera ef yn wallgof, a lladdodd Megara a'u plant. Pan sylweddolodd beth yr oedd wedi ei wneud aeth at Oracl Delphi am gyngor, a than ddylanwad Hera gyrrodd yr oracl ef i wasanaethu'r brenin Eurystheus am ddeuddeg mlynedd a gwneud unrhyw dasg y byddai'r brenin yn ei orchymyn iddo.
Rhoddwyd deuddeg tasg iddo i gyd. Yn ôl Apollodorus (2.5.1-2.5.12) roeddynt yn y drefn ganlynol:
- Lladd Llew Nemea.
- Dinistrio Hydra Lernaea.
- Dal Ewig Ceryneia.
- Dal Baedd Erymanthia.
- Glanhau stablau Augea.
- Lladd Adar Stymphalia.
- Dal Tarw Creta.
- Casglu Cesyg Diomedes.
- Dwyn Gwregys Hippolyte.
- Gyrru Gwartheg Geryon.
- Dwyn Afalau yr Hesperides.
- Cymeryd Cerberus yn garcharor.