Ffenics: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Vagobot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.2) (robot yn ychwanegu: war:Fenix (mitolohiya) |
MystBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.1) (robot yn newid: id:Feniks |
||
Llinell 35: | Llinell 35: | ||
[[hu:Főnix]] |
[[hu:Főnix]] |
||
[[hy:Փյունիկ (դիցաբանական)]] |
[[hy:Փյունիկ (դիցաբանական)]] |
||
[[id: |
[[id:Feniks]] |
||
[[is:Fönix]] |
[[is:Fönix]] |
||
[[it:Fenice]] |
[[it:Fenice]] |
Fersiwn yn ôl 06:17, 25 Chwefror 2012
Aderyn mytholegol, yn wreiddiol o fytholeg y Ffenicsiaid, yw'r ffenics (Hen Roeg: Φοῖνιξ, phoínix). Fe'i ceir ym mytholeg yr Hen Aifft fel y "Bennu", ac ym mytholeg Groeg a Rhufain hefyd.
Dywedir ei fod yn aderyn gyda phlu aur a choch sy'n byw am fil o flynyddoedd, yna pan mae'n teimlo diwedd ei oes yn agosáu, mae'n adeiladu nyth ac yn ei roi ar dân. Llosgir yr aderyn yn y nyth, ond o'r lludw mae ffenics newydd yn codi. Cred rhai mai'r fflamingo a roddodd gychwyn i'r chwedl. Defnyddir "ffenics" hefyd am yr aderyn fenghuang ym mytholeg Tsieina.
Daeth yr aderyn yn boblogaidd gyda'r Cristionogion cynnar fel symbol o atgyfodiad, ac mae'n boblogaidd mewn nifer o wledydd fel symbol i gyfleu syniad tebyg. Enwyd dinas Phoenix yn Arizona yn yr Unol Daleithiau ar ei ôl.