Gdańsk: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
ZéroBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: tet:Gdańsk |
JAnDbot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: vep:Gdan'sk |
||
Llinell 114: | Llinell 114: | ||
[[uk:Гданськ]] |
[[uk:Гданськ]] |
||
[[uz:Gdańsk]] |
[[uz:Gdańsk]] |
||
[[vep:Gdan'sk]] |
|||
[[vi:Gdańsk]] |
[[vi:Gdańsk]] |
||
[[vo:Gdańsk]] |
[[vo:Gdańsk]] |
Fersiwn yn ôl 17:34, 3 Chwefror 2012
Mae Gdańsk (hefyd Almaeneg: Danzig, Casiwbeg: Gduńsk) yn un o ddinasoedd mwyaf Gwlad Pwyl. Mae wedi'i lleoli ar aber Afon Wisła a Môr Baltig. Porthladd pwysig i'r wlad a phrifddinas foifodiaeth (talaith) Pomorskie yw hi. Yn 2004 'roedd ynddi boblogaeth o 460,524. Rhan o Trójmiasto ("teirddinas") ydy Gdansk, gyda Gdynia a Sopot. Daw'r cofnod hanesyddol cynharaf o'r ddinas yn 997. Y pryd hynny aeth Sant Adalbert yno er mwyn troi'r preswylwyr i Gristionogaeth. Ymhen canrifoedd daeth Gdańsk yn ddinas mwyaf cyfoethog Gweriniaeth Pwyl. Gadwodd hi hunan lywodraeth eto. Yn y ddeunawfed ganrif enillwyd Gdańsk gan Brwsia. Wedyn Dinas Rydd oedd hi am gyfnod. Yr ail dro iddi fod yn Ddinas Rydd oedd ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf. Almaenwyr, Pwyliaid, Casiwbiaid ac Iddewon oedd yn byw yno, ac 'roedd heddwch yn eu mysg nes i Hitler ddod i rym yn Yr Almaen. Mynnodd e gysylltu Gdańsk gyda'r Almaen. Felly dechreuwyd Yr Ail Ryfel Byd.
Ar ôl y rhyfel daeth y ddinas i Wlad Pwyl. Yn yr 80au bu streiciau seiri llongau a gweithwyr eraill yno gyda Lech Wałęsa (Arlywydd Gweriniaeth Pwyl wedyn) yn eu harwain. Cred llawer mai'r digwyddiad hwn sbardunodd gwymp comiwnyddiaeth yn Ewrop.