Nantwich: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Zorrobot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.5.2) (robot yn ychwanegu: nn:Nantwich |
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: sv:Nantwich |
||
Llinell 21: | Llinell 21: | ||
[[pl:Nantwich]] |
[[pl:Nantwich]] |
||
[[ro:Nantwich]] |
[[ro:Nantwich]] |
||
[[sv:Nantwich]] |
|||
[[vo:Nantwich]] |
[[vo:Nantwich]] |
Fersiwn yn ôl 19:24, 29 Ionawr 2012
Tref yn Swydd Gaer, Lloegr yw Nantwich. Gorwedd ar lan Afon Weaver a Chamlas Undeb Swydd Amwythig. Yn hanesyddol bu'n enwog am ei diwydiant halen. Mae'n adnabyddus am ei hadeiladau gwyn a du hynafol, hanner pren, sy'n cynnwys tri adeilad rhestredig graddfa I.
Lleolir y dref tua 5 milltir i'r de-orllewin o Crewe. Mae'n groesffordd hanesyddol gyda'r priffyrdd A530, A529 ac A534 yn ymledu ohoni. Mae'r briffordd A534/A51 yn osgoi'r dref i'r gogledd a'r dwyrain.
Ceir terfyn gogleddol Camlas Llangollen i'r gogledd-orllewin o Nantwich, ar Gamlas Undeb Swydd Amwythig. Adlewyrchir y cysylltiad â Chymru yn yr enw stryd 'Welsh Row' ac efallai yn elfen gyntaf enw'r dref ei hun, sef nant.