Desiderius Erasmus: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: gd:Desiderius Erasmus |
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: az:Desiderius Erasmus |
||
Llinell 29: | Llinell 29: | ||
[[an:Erasmo de Rotterdam]] |
[[an:Erasmo de Rotterdam]] |
||
[[ar:دسيدريوس إراسموس]] |
[[ar:دسيدريوس إراسموس]] |
||
[[az:Desiderius Erasmus]] |
|||
[[be:Эразм Ратэрдамскі]] |
[[be:Эразм Ратэрдамскі]] |
||
[[be-x-old:Эразм Ратэрдамскі]] |
[[be-x-old:Эразм Ратэрдамскі]] |
Fersiwn yn ôl 02:11, 13 Ionawr 2012
Yr oedd Desiderius Erasmus (27 Hydref 1466/1469 - 12 Gorffennaf 1536) yn ddyneiddiwr Gristnogol a llenor o Iseldirwr, a aned yn Rotterdam.
Erasmus oedd efallai'r mwyaf dylanwadol o feddylwyr mawr y Dadeni, nid yn unig am ei feddwl treiddgar ond am ei fod wedi astudio a dysgu ledled Ewrop.
Roedd yn ddyn dysgiedig iawn, yn ysgolhaig penigamp, a chyhoeddodd nifer o lyfrau yn ystod ei oes. Yr enwocaf ohonynt yw yr Encomium Moriae ("Molawd Ffolineb", 1509), a ysgrifennodd er diddanu ei gyfaill Thomas More.
Cyfieithodd y Testament Newydd o'r Roeg, am y tro cyntaf erioed, a dangosodd mai dogfen ail-law oedd y Beibl Fwlgat (cyfieithiad o gyfieithiad).
Gwrthwynebai'n gryf ddogmatiaeth a grym yr offeiriaid ac eto ni wrthododd y ddiwinyddiaeth Gatholig a chadwodd draw o'r ddadl ffyrnig ynghylch dysgeidiaeth Martin Luther.