Tibet: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B robot yn ychwanegu: be-x-old:Тыбэт |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:Tibet |
[[Delwedd:Tibet in China (all claimed).svg|bawd|250px|Tibet, y dalaith hunanlywodraethol a'r ardal hanesyddol]] |
||
[[Delwedd:Flag of Tibet.svg|250px|bawd|[[Baner Tibet]] cyn [[1950]] a baner y llywodraeth alltud. Defnyddiwyd y fersiwn yma gyntaf gan y 13<sup>eg</sup> [[Dalai Lama]] yn [[1912]]]] |
[[Delwedd:Flag of Tibet.svg|250px|bawd|[[Baner Tibet]] cyn [[1950]] a baner y llywodraeth alltud. Defnyddiwyd y fersiwn yma gyntaf gan y 13<sup>eg</sup> [[Dalai Lama]] yn [[1912]]]] |
||
Fersiwn yn ôl 15:32, 23 Rhagfyr 2011
Mae Tibet yn enw cyffredin ar dalaith hunanlywodraethol yng ngorllewin Gweriniaeth Pobl Tsieina, a adnabyddir yn swyddogol fel Rhanbarth Ymreolaethol Tibet, ac hefyd ar y wlad hanesyddol o'r un enw, oedd a ffiniau gwahanol. Y brifddinas yw Lhasa. Mae'r erthygl hon yn canolbwyntio ar y wlad hanesyddol.
Daearyddiaeth
Mae'r ardal yn fynyddig, ac yn cynnwys mynydd uchaf y byd, Mynydd Everest, ar y ffin gyda Nepal. Ond mae'n wlad o lwyfandiroedd uchel anferth hefyd, lled-anial, gyda nifer mawr o lynnoedd sy'n cynnwys llynnoedd sanctaidd fel Llyn Manasarovar a Llyn Rakshastal.
Hanes
Mae hanes hir Tibet yn adlewyrchu'r ffaith ei bod yn gorwedd yng nghanol Asia.
Yn 1959 meddiannwyd Tibet gan China, a sefydlodd y 14eg Dalai Lama lywodraeth mewn alltudiaeth yn Dharamsala yng ngogledd India.
Israniadau hanesyddol
Rhennid teyrnas Tibet yn dair rhanbarth hanesyddol, sef:
O'r tair rhanbarth hyn dim ond Ü-Tsang a rhan o orllewin Kham sy'n cael eu cynnwys yn Rhanbarth Ymreolaethol Tibet. Mae Amdo wedi ei throi yn dalaith Qinghai.
Diwylliant
Bwdhaeth Tibet neu Fwdhaeth Dibetaidd yw'r enw a arferir am y gangen o Fwdhaeth a ddatblygodd i fod yn grefydd mwyafrif llethol y Tibetiaid. Yn ogystal ceir rhai pobl sy'n dal i ddilyn y grefydd Bön, cyn-Fwdhaidd, a cheir poblogaethau Mwslim mewn rhannau o'r wlad hefyd, yn enwedig yn y gogledd.
Tibeteg yw prif iaith yr ardal. Tafodiaith Lhasa (Ü-Tsang) yw'r lingua franca draddodiadol ac iaith llenyddiaeth Dibeteg.
Gweler hefyd
- Baner Tibet
- Bwdhaeth Tibet
- Dalai Lama
- Gweinyddiaeth Ganolog Tibet - llywodraeth alltud Tibet
- Rhanbarth Ymreolaethol Tibet - y rhanbarth fodern, yn Tseina.