Afon Meuse: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.6.4) (robot yn newid: th:แม่น้ำเมิซ
Amirobot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: fa:موز (رود)
Llinell 36: Llinell 36:
[[et:Maas]]
[[et:Maas]]
[[eu:Mosa ibaia]]
[[eu:Mosa ibaia]]
[[fa:موز (رود)]]
[[fi:Maas]]
[[fi:Maas]]
[[fr:Meuse (fleuve)]]
[[fr:Meuse (fleuve)]]

Fersiwn yn ôl 09:17, 19 Tachwedd 2011

Afon Meuse (Afon Maas yn yr Iseldiroedd)

Afon yng ngorllewin Ewrop yw Afon Meuse (Iseldireg ac Almaeneg Maas). Mae'n tarddu yn Ffrainc, yna'n llifo trwy Wlad Belg a'r Iseldiroedd; mae'n 925 km (575 milltir) o hyd.

Afon Meuse oedd ffîn orllewinol yr Ymerodraeth Lân Rufeinig o ddechrau'r ymerodraeth yn y 9fed ganrif hyd pan ddaeth Alsace a Lorraine yn rhan o Ffrainc trwy Gytundeb Westphalia yn 1648.

Tardda'r Meuse ym mhentref Pouilly-en-Bassigny ar lwyfandir Langres (Haute-Marne) yn Ffrainc, a llifa tua'r gogledd trwy départements Vosges, Meuse ac Ardennes, heibio Sedan a Charleville-Mézières i Wlad Belg. Ger Namur mae Afon Sambre yn ymuno a hi. Mae'n awr yn llifo tua'r dwyrain a heibio Liège cyn troi tua'r gogledd i ffurfio'r ffîn rhwng Gwlad Belg a'r Iseldiroedd. Mae'n mynd heibio Maastricht a Venlo, yna'n troi tua'r gorllewin i gyrraedd y môr, gan rannu delta ag Afon Rhein.

Ceir cyfeiriad at yr afon fel ffîn yr Almaen yn Das Lied der Deutschen, Von der Maas bis an die Memel....