Academi Bangla: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B cat Tagiau: Golygiad cod 2017 |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
{{Pethau}} |
|||
[[Image:Bangla academy.JPG|270px|bawd|Adeilad yr Academi Bangla yn [[Dhaka]]]] |
[[Image:Bangla academy.JPG|270px|bawd|Adeilad yr Academi Bangla yn [[Dhaka]]]] |
||
Asiantaeth iaith (neu fwrdd iaith) genedlaethol sy'n hyrwyddo'r iaith [[Bengaleg|Fengaleg]] (Bangla) ym [[Bangladesh|Mangladesh]] yw'r '''Academi Bangla''' ([[Bengaleg]]: বাংলা একাডেমী ; [[Saesneg]]: ''Bangla Academy''). Cafodd ei sefydlu ar [[3 Rhagfyr]] [[1955]]. Lleolir ei phencadlys yn Nhŷ Burdwan ar gampws [[Prifysgol Dhaka]], ger Parc Ramna yn [[Dhaka]], prifddinas Bangladesh. |

Golygiad diweddaraf yn ôl 19:36, 10 Ebrill 2021
Enghraifft o'r canlynol | rheoleiddiwr iaith |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1955 |
Pennaeth y sefydliad | Director General of Bangla Academy |
Pencadlys | Dhaka |
Gwladwriaeth | Bangladesh |
Gwefan | http://banglaacademy.gov.bd/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Asiantaeth iaith (neu fwrdd iaith) genedlaethol sy'n hyrwyddo'r iaith Fengaleg (Bangla) ym Mangladesh yw'r Academi Bangla (Bengaleg: বাংলা একাডেমী ; Saesneg: Bangla Academy). Cafodd ei sefydlu ar 3 Rhagfyr 1955. Lleolir ei phencadlys yn Nhŷ Burdwan ar gampws Prifysgol Dhaka, ger Parc Ramna yn Dhaka, prifddinas Bangladesh.
Sefydlwyd yr Academi yn dilyn cyfnod o ymgyrchu am hawliau ieithyddol gan fudiadau protest fel Bhasha Andolon ac addewid cyn etholiad 1954 gan y Ffrynt Unedig i greu'r ganolfa. Dywedodd eu maniffesto: "The prime minister from the United Front will dedicate the Bardhaman House for establishing a research centre for Bengali language".[1]
Prif orchwyl yr Academi yw cynnal gwaith ymchwil ar yr iaith Fengaleg, a'i diwylliant a hanes, a chyhoeddi gwaith llenyddol ac academaidd amdanynt. Mae wedi sefydlu Gwobr yr Academi Bangla, a roddir yn flynyddol am gyfraniadau llenyddol ac academaidd yn yr iaith.
I goffhau Bhasha Andolon a Diwnrod Merthyron yr Iaith, mae'r Academi yn cynnal Ffair Lyfrau Ekushey, y ffair lyfrau fwyaf yn y wlad, sy'n rhedeg am fis bob blwyddyn.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Mamun, Muntasir (Ionawr 2004) [1993] (Mewn Bengaleg). Dhaka: Smriti Bismritir Nogori (3ydd argraffiad, 4ydd argraffiad). Dhaka, Bangladesh: Ananya Publishers. tud. 178–180.
Gweler hefyd[golygu | golygu cod]
Dolen allanol[golygu | golygu cod]
- (Bengaleg) (Saesneg)