Gair benthyg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau) Cychwyn o'r cychwyn Tagiau: Golygiad cod 2017 |
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau) Tagiau: Golygiad cod 2017 |
||
Llinell 17: | Llinell 17: | ||
== Gweler hefyd == |
== Gweler hefyd == |
||
* [[Benthyg geiriau i'r Gymraeg]] |
* [[Benthyg geiriau i'r Gymraeg]] |
||
* [[Rhestr geiriau Cymraeg wedi cael eu adnewid]] |
|||
[[Categori:Benthyceiriau| ]] |
[[Categori:Benthyceiriau| ]] |
Fersiwn yn ôl 15:29, 9 Chwefror 2021
Mae gair benthyg (ll. bethyceiriau) yn air a fabwysiadwyd o un iaith (iaith y rhoddwr) ac a ymgorfforir mewn iaith arall heb ei gyfieithu ee daw'r gair 'ffenestr' o'r Lladin 'ffenestra', daw'r gair benthyg 'car' i'r Saesneg o'r Frythoneg 'car'. Mae hyn yn wahanol i gytrasau (cognates), sy'n eiriau mewn dwy iaith neu fwy sy'n debyg oherwydd eu bod yn rhannu tarddiad etymolegol, a chalïau, sy'n cynnwys cyfieithu.
Mae'r gair Cymraeg]] 'caffi' a'r gair Saesneg 'café' ill dau'n fenthyceiriau o'r Ffrangeg 'café'. Pan dyfeisir gwrthrych newydd, mae'n rhaid cael gair newydd amdano, a dau o'r dewisiadau yw: naill ai benthyg gair o iaith arall, neu greu gair newydd sbon. Pan ddaeth y cyfrifiadur yn boblogaidd yn y 1950au - 1970au, roedd yn rhaid wrth air i'w ddisgrifio. Bentyciodd rhai ieithoedd y gair Saesneg:
- Almaeneg - computer
- Daneg - computer
- Eidaleg - computer
- Ffijïeg - Kompiuta
- Cernyweg - comptyor
tra bathodd ieithoedd eraill (gan gynnwys y Gymraeg) eu geiriau eu hunain:
- Fietnameg - máy tính
- Latfieg - dators
- Gwyddeleg - ríomhaire
- Tsieceg - počítač