Allectus: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: sh:Alekto
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: cs:Allectus
Llinell 14: Llinell 14:
[[bg:Алект]]
[[bg:Алект]]
[[ca:Al·lecte]]
[[ca:Al·lecte]]
[[cs:Allectus]]
[[de:Allectus]]
[[de:Allectus]]
[[en:Allectus]]
[[en:Allectus]]

Fersiwn yn ôl 13:39, 29 Gorffennaf 2011

Darn arian yn dwyn delw Allectus, gyda llong ar y cefn

Roedd Allectus (bu farw 296) yn uchel-swyddog Rhufeinig a lwyddodd i gipio grym ym Mhrydain o 293 hyd ei farwolaeth.

Gweithredai Allectus fel gweinidog cyllid i Carausius, oedd wedi cipio grym ym Mhrydain a rhan o Gâl am rai blynyddoedd. Yn 293 llwyddodd Constantius Chlorus, y Cesar yn y gorllewin, i gymeryd gogledd Gâl oddi wrtho a'i had-uno a'r ymerodraeth. Yr un flwyddyn llofruddiwyd Carausius gan Allectus, a ddaeth yn rheolwr Prydain yn ei le.

Ymosododd Constantius arni ym mis Medi 296. Ymddengys i lynges Constantius ei hun gael ei hatal rhag glanio gan y tywydd am gyfnod, ond glaniodd rhan arall o'r llynges dan Asclepiodotus. Gorchfygwyd Allectus mewn brwydr, efallai ger Calleva Atrebatum (Silchester heddiw), a lladdwyd ef.

Ceir cyfeiriad at Allectus yn "hanes" Sieffre o Fynwy, Historia Regum Britanniae.