Gwrthwynebydd cydwybodol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Cyfeiriadau: Manion using AWB
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Person sy'n gwrthwynebu [[hyfforddiant milwrol|hyfforddiant]] a [[gwasanaeth milwrol]] ar sail [[cydwybod]] yw '''gwrthwynebydd cydwybodol'''. Gall person gwrthwynebu [[gorfodaeth filwrol]] ar sail credoau crefyddol, athronyddol, neu wleidyddol.<ref>{{dyf gwe |iaith=en |url=http://www.britannica.com/EBchecked/topic/133266/conscientious-objector |teitl=conscientious objector |gwaith=[[Encyclopædia Britannica]] |dyddiadcyrchiad=6 Ionawr 2014 }}</ref>
Person sy'n gwrthwynebu hyfforddiant a [[gwasanaeth milwrol]] ar sail cydwybod yw '''gwrthwynebydd cydwybodol'''. Gall person gwrthwynebu [[gorfodaeth filwrol]] ar sail credoau crefyddol, athronyddol, neu wleidyddol.<ref>{{dyf gwe |iaith=en |url=http://www.britannica.com/EBchecked/topic/133266/conscientious-objector |teitl=conscientious objector |gwaith=[[Encyclopædia Britannica]] |dyddiadcyrchiad=6 Ionawr 2014 }}</ref> Mewn rhai gwledydd, mae gwrthwynebwyr cydwybodol yn cael eu neilltuo i wasanaeth sifil amgen yn lle consgripsiwn neu wasanaeth milwrol.

Yn hanesyddol mae llawer o wrthwynebwyr cydwybodol wedi cael eu dienyddio, eu carcharu, neu eu cosbi fel arall pan arweiniodd eu credoau at gamau yn gwrthdaro â system gyfreithiol neu lywodraeth eu cymdeithas. Mae diffiniad cyfreithiol a statws gwrthwynebiad cydwybodol wedi amrywio dros y blynyddoedd ac o genedl i genedl. Roedd credoau crefyddol yn fan cychwyn mewn llawer o genhedloedd ar gyfer rhoi statws gwrthwynebydd cydwybodol yn gyfreithiol.

Cafodd y gwrthwynebydd cydwybodol cyntaf a gofnodwyd, Maximilianus, ei draddodi i'r fyddin [[Rhufeinig|Rufeinig]] yn y flwyddyn 295, ond dywedodd wrth y Proconsul yn Numidia na allai wasanaethu yn y fyddin oherwydd ei argyhoeddiadau crefyddol. Cafodd ei ddienyddio am hyn, ac yn ddiweddarach cafodd ei ganoneiddio fel Sant Maximilian.

Ym Mhrydain ni chyflwynwyd yr hawl i wrthod gwasanaeth milwrol tan y [[Y Rhyfel Byd Cyntaf|Rhyfel Byd Cyntaf]]. Cofnodwyd tua 16,000 o ddynion, [[Crynwyr]] yn bennaf, fel gwrthwynebwyr cydwybodol. Rhoddwyd rolau di-filwrol i rai yn ymdrech y rhyfel ond gorfodwyd eraill i ymladd, gan wynebu carchar pe byddent yn gwrthod. Roeddent yn aml yn cael eu trin yn annheg ac roedd llawer yn eu hystyried yn ddiog, yn anniolchgar neu'n hunanol.

Erbyn [[yr Ail Ryfel Byd]], yn dilyn Deddf y Gwasanaeth Cenedlaethol yn 1939, roedd bron i 60,000 o Wrthwynebwyr Cydwybodol cofrestredig. Ailddechreuodd profi trwy dribiwnlysoedd, y tro hwn gan Dribiwnlysoedd Gwrthwynebiad Cydwybodol arbennig dan gadeiryddiaeth barnwr, ac roedd yr effeithiau yn llawer llai llym.



== Cyfeiriadau ==
== Cyfeiriadau ==

Fersiwn yn ôl 14:31, 11 Mehefin 2020

Person sy'n gwrthwynebu hyfforddiant a gwasanaeth milwrol ar sail cydwybod yw gwrthwynebydd cydwybodol. Gall person gwrthwynebu gorfodaeth filwrol ar sail credoau crefyddol, athronyddol, neu wleidyddol.[1] Mewn rhai gwledydd, mae gwrthwynebwyr cydwybodol yn cael eu neilltuo i wasanaeth sifil amgen yn lle consgripsiwn neu wasanaeth milwrol.

Yn hanesyddol mae llawer o wrthwynebwyr cydwybodol wedi cael eu dienyddio, eu carcharu, neu eu cosbi fel arall pan arweiniodd eu credoau at gamau yn gwrthdaro â system gyfreithiol neu lywodraeth eu cymdeithas. Mae diffiniad cyfreithiol a statws gwrthwynebiad cydwybodol wedi amrywio dros y blynyddoedd ac o genedl i genedl. Roedd credoau crefyddol yn fan cychwyn mewn llawer o genhedloedd ar gyfer rhoi statws gwrthwynebydd cydwybodol yn gyfreithiol.

Cafodd y gwrthwynebydd cydwybodol cyntaf a gofnodwyd, Maximilianus, ei draddodi i'r fyddin Rufeinig yn y flwyddyn 295, ond dywedodd wrth y Proconsul yn Numidia na allai wasanaethu yn y fyddin oherwydd ei argyhoeddiadau crefyddol. Cafodd ei ddienyddio am hyn, ac yn ddiweddarach cafodd ei ganoneiddio fel Sant Maximilian.

Ym Mhrydain ni chyflwynwyd yr hawl i wrthod gwasanaeth milwrol tan y Rhyfel Byd Cyntaf. Cofnodwyd tua 16,000 o ddynion, Crynwyr yn bennaf, fel gwrthwynebwyr cydwybodol. Rhoddwyd rolau di-filwrol i rai yn ymdrech y rhyfel ond gorfodwyd eraill i ymladd, gan wynebu carchar pe byddent yn gwrthod. Roeddent yn aml yn cael eu trin yn annheg ac roedd llawer yn eu hystyried yn ddiog, yn anniolchgar neu'n hunanol.

Erbyn yr Ail Ryfel Byd, yn dilyn Deddf y Gwasanaeth Cenedlaethol yn 1939, roedd bron i 60,000 o Wrthwynebwyr Cydwybodol cofrestredig. Ailddechreuodd profi trwy dribiwnlysoedd, y tro hwn gan Dribiwnlysoedd Gwrthwynebiad Cydwybodol arbennig dan gadeiryddiaeth barnwr, ac roedd yr effeithiau yn llawer llai llym.


Cyfeiriadau

  1. (Saesneg) conscientious objector. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 6 Ionawr 2014.
Eginyn erthygl sydd uchod am luoedd milwrol neu wyddor filwrol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.