Ynys Anticosti
Gwedd
(Ailgyfeiriwyd o Anticosti)
| Math | ynys |
|---|---|
| Prifddinas | Port-Menier |
| Poblogaeth | 177 |
| Cylchfa amser | UTC−05:00 |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | L'Île-d'Anticosti |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 7,941 km² |
| Uwch y môr | 192 metr |
| Gerllaw | Jacques Cartier Strait, Honguedo Strait |
| Cyfesurynnau | 49.5386°N 63.2453°W |
| Hyd | 217 cilometr |
![]() | |
| Perchnogaeth | Henri Menier, Wayagamack Pulp and Paper Co., Government of Quebec |

Ynys ynghanol Gwlff St Lawrence yn nwyrain Canada yw ynys Anticosti (Ffrangeg: Île d'Anticosti, Saesneg: Anticosti Island, Iaith Innu: Notiskuan, Iaith Mi'kmaq: Natigostec). Yn weinyddol, mae'n rhan o dalaith Quebec.
Gydag arwynebedd o 7,892 km2, hi yw ugeinfed ynys Canada o ran maint. Yn y gogledd, fe'i gwahenir oddi wrth ranbarth Côte-Nord o dalaith Quebec (Penrhyn Labrador) gan Gulfor Jacques Cartier, ac yn y de mae Culfor Honguedo yn ei gwahanu oddi wrth benrhyn Gaspé.
Er ei bod yn ynys fawr, ychydig o boblogaeth sydd arni, 266 yn 2001, y rhan fwyaf ym mhentref Port-Menier yng ngorllewin yr ynys.

