Anthony Asquith

Oddi ar Wicipedia
Anthony Asquith
Ganwyd9 Tachwedd 1902 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw20 Chwefror 1968, 21 Chwefror 1968 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethcyfarwyddwr ffilm, sgriptiwr, actor, cyfarwyddwr Edit this on Wikidata
TadHerbert Henry Asquith Edit this on Wikidata
MamMargot Asquith Edit this on Wikidata

Roedd Anthony William Lars Asquith (9 Tachwedd 190220 Chwefror 1968) yn gyfarwyddwr ffilmiau Seisnig amlwg. Cydweithiodd yn llwyddiannus gyda'r dramodydd Terence Rattigan ar The Winslow Boy (1948), The Browning Version (1951), ymysg addasiadau eraill. Mae ei ffilmiau nodedig eraill yn cynnwys Pygmalion (1938), French Without Tears (1940), The Way to the Stars (1945) ac addasiad 1952 o The Importance of Being Earnest gan Oscar Wilde.[1]

Bywyd a gyrfa[golygu | golygu cod]

Ganed Asquith yn Llundain, yn fab i Herbert Henry Asquith, Prif Weinidog Y Deyrnas Unedig rhwng 1908 i 1916, a Margot Asquith ei wraig [2] Addysgwyd ef yn Eaton House,[3]. Coleg Winchester a Choleg Balliol, Rhydychen.

Ystyriwyd bod y diwydiant ffilm yn anghydnaws fel swydd i bobl barchus pan oedd Asquith yn ifanc,[4] ac yn ôl yr actor Jonathan Cecil, ffrind teuluol, daeth Asquith i'r proffesiwn er mwyn dianc o'i gefndir. Ar ddiwedd y 1920au, dechreuodd ei yrfa trwy gyfarwyddo pedair ffilm fud. Bu llwyddiant yr olaf o'r rhain, A Cottage on Dartmoor, yn fodd sefydlu ei enw da gyda'i gyfansoddiad ffrâm symudol, aml yn emosiynol. Roedd Pygmalion (1938) yn seiliedig ar ddrama George Bernard Shaw yn serennu Leslie Howard a Wendy Hiller.

Roedd Asquith yn ffrind hir dymor a chydweithiwr a Terence Rattigan (bu iddynt gydweithredu ar ddeg ffilm) a'r cynhyrchydd Anatole de Grunwald. Ymhlith ei ffilmiau diweddarach roedd The Winslow Boy (1948), Browning Version(1951), ill dau yn seiliedig ar ddramâu Rattigan a The Importance of Being Earnest (1952) seiliedig ar ddrama Oscar Wilde.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw ym 1968. Fe'i claddwyd yn All Saints Churchyard, Sutton Courtenay, ym Mro'r Ceffyl Gwyn.

Filmograffi[golygu | golygu cod]

Fffilmiau nodwedd[golygu | golygu cod]

Ffilmiau fer[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (2011, January 06). Asquith, Anthony (1902–1968), film director and aesthete. Oxford Dictionary of National Biography adalwyd 22 Medi 2018
  2. Screen online Anthony Asquith adalwyd 22 Medi 2018
  3. "Mr T.S. Morton". The Times. 23 Ionawr 1962
  4. The Guardian 6 Chwefror 2003 The Asquith version adalwyd 22 Medi 2018
  5. The Times, 14 Rhagfyr 1935, p. 11.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]