Ann Coulter

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Ann Coulter
Ann Coulter by Gage Skidmore 3.jpg
Ganwyd 8 Rhagfyr 1961 Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Man preswyl Connecticut Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
  • Prifysgol Cornell
  • Prifysgol Michigan
  • Ysgol y Gyfraith Prifysgol Michigan
  • Ysgol Uwchradd New Canaan Edit this on Wikidata
Galwedigaeth colofnydd, ysgrifennwr, newyddiadurwr, awdur, doethinebwr, cyfreithiwr Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Plaid Weriniaethol Edit this on Wikidata
Gwefan http://www.anncoulter.com/ Edit this on Wikidata
Llofnod
Ann Coulter Signture 2.svg

Awdures Americanaidd yw Ann Coulter (ganwyd 8 Rhagfyr 1961) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel colofnydd, newyddiadurwr doethinebwr a chyfreithiwr. [1][2]

Fe'i ganed yn Ninas Efrog Newydd. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Cornell, Prifysgol Michigan, Ysgol y Gyfraith Prifysgol Michigan ac Ysgol Uwchradd New Canaan. [3]

Roedd yn gymarol wleidyddol ei natur, ac yn ystod ei hoes bu'n aelod o asgell dde eithafol y Blaid Weriniaethol.

Cafodd Coulter, a aned yn Ninas Efrog Newydd, ei magu yn New Canaan, Connecticut. Dyfnhaodd ei diddordebau ceidwadol wrth astudio hanes ym Mhrifysgol Cornell, lle cyd-sefydlodd The Cornell Review. Yn dilyn hynny, dechreuodd ar yrfa fel clerc y gyfraith cyn codi i amlygrwydd yn y 1990au am ei beirniadaeth di-flewyn ar dafod o'r Arlywydd Clinton. Roedd ei llyfr cyntaf yn ymwneud â'r cyhuddiadau yn erbyn Bill Clinton, ac yn deillio o'i phrofiad o ysgrifennu briffiau cyfreithiol ar gyfer cyfreithwyr Paula Jones (a gyhuddai Clinton o aflonyddu rhywiol, yn ogystal ag ysgrifennu colofnau am yr achosion.[4][5][6][7]

Mae ei cholofn ar gyfer Universal Press Syndicate yn ymddangos mewn nifer o bapurau newydd a gwefannau ceidwadol. Hyd at 2019 roedd wedi cyhoeddi 12 o lyfrau a fu ar restr 'Gwerthwyr Gorau'r New York Times .

Magwraeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed Hart Coulter i John Vincent Coulter (1926–2008), asiant gyda'r FBI o deulu Gwyddelig-Almaenig, a oedd yn enedigol o Albany, Efrog Newydd; a Nell Husbands Coulter (g. Martin; 1928–2009), brodor o Paducah, Kentucky.[8] Mae teulu mam Coulter yn yr Unol Daleithiau yn ymestyn yn ôl cyn Rhyfel Cartref America (1765 - 1783), tra bod cyndeidiau ei thad yn fewnfudwyr Gwyddelig ac Almaenig a gyrhaeddodd yr Unol Daleithiau yng nghanol y 19g.[9],[10] Mae ganddi ddau frawd hŷn: James, cyfrifydd, a John, cyfreithiwr.[11][12][13]

Coulter yn yr ysgol uwchradd, 1980

Cafodd ei magu mewn cartref ceidwadol yn Connecticut gan rieni Gweriniaethol, gyda thad a oedd yn eilynaddoli Joseph McCarthy. Dywed Coulter ei bod wedi nodi ei bod yn geidwadol ers meithrinfa. I baratoi ar gyfer dadleuon gwleidyddol, darllenodd lyfrau fel The Conscience of a Conservative gan Barry Goldwater.[14]

Yn 14 oed, ymwelodd Coulter â'i brawd hŷn yn Ninas Efrog Newydd, lle mynychodd John ysgol y gyfraith. Tra oedd yn y darlithoedd, rhoddodd sialens i'w chwaer chwaer fach i ddarllen llyfrau gan Milton Friedman a William E. Simon. Pan ddaeth gartref, holodd Coulter. Fel gwobr, aeth ef a'i ffrindiau â hi allan i dafarnau a dechreuodd freuddwydio am weithio fel awdur. Graddiodd o Ysgol Uwchradd New Canaan yn 1980.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

(hyd at 2019)

  • Coulter, Ann H. (1998). High Crimes and Misdemeanors: The Case Against Bill Clinton. Washington, DC; Lanham, MD: Regnery Pub. ISBN 978-0-89526-360-5. OCLC 39380711.
  • Coulter, Ann H. (2002). Slander: Liberal Lies About the American Right. New York, NY: Crown. ISBN 978-1-4000-4661-4. OCLC 49673076.
  • Coulter, Ann H. (2003). Treason: Liberal Treachery from the Cold War to the War on Terrorism. New York, NY: Crown Forum. ISBN 978-1-4000-5030-7. OCLC 52133318.
  • Coulter, Ann H. (2004). How to Talk to a Liberal (If You Must): The World According to Ann Coulter. New York, NY: Crown Forum. ISBN 978-1-4000-5418-3. OCLC 55746549.
  • Coulter, Ann H. (2006). Godless: The Church of Liberalism. New York, NY: Crown Forum. ISBN 978-1-4000-5420-6. OCLC 69594152.
  • Coulter, Ann H. (2007). If Democrats Had Any Brains, They'd Be Republicans. New York, NY: Crown Forum. ISBN 978-0-307-35345-0. OCLC 156784826.
  • Coulter, Ann H. (2009). Guilty: Liberal "Victims" and Their Assault on America. New York, NY: Crown Forum. ISBN 978-0-307-35346-7. OCLC 230728938.
  • Coulter, Ann H. (2011). Demonic: How the Liberal Mob Is Endangering America. New York, NY: Crown Forum. ISBN 978-0-307-35348-1.
  • Coulter, Ann H. (2012). Mugged: Racial Demagoguery from the Seventies to Obama. New York, NY: Sentinel HC. ISBN 978-1-59523-099-7.
  • Coulter, Ann H. (2013). Never Trust a Liberal Over 3 – Especially a Republican. Washington, DC: Regnery Publishing. ISBN 978-1621571919.
  • Coulter, Ann H. (2015). Adios, America: The Left's Plan to Turn Our Country Into a Third World Hellhole. Washington, DC: Regnery Publishing. ISBN 978-1621572671.
  • Coulter, Ann H. (2016). In Trump We Trust: E Pluribus Awesome!. Dinas Efrog Newydd: Sentinel. ISBN 978-0735214460.
  • Coulter, Ann H. (2018). Resistance Is Futile!: How the Trump-Hating Left Lost Its Collective Mind. New York: Sentinel. ISBN 978-0525540076.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol, dynodwr VIAF 70122833, https://viaf.org/, adalwyd 4 Tachwedd 2018Wikidata Q54919
  2. Dyddiad geni: Internet Movie Database, dynodwr IMDb nm1326010, https://www.imdb.com/, adalwyd 16 Hydref 2015Wikidata Q37312
  3. Galwedigaeth: http://www.huffingtonpost.com/mikki-morrissette/a-response-to-ann-coulter_b_157078.html. http://www.washingtonpost.com/wp-dyn/content/article/2007/03/05/AR2007030500425.html. http://www.worldatlas.com/webimage/countrys/namerica/usstates/nyfamous.htm.
  4. Rosenberg, Eli. "Ann Coulter once called Trump a 'god.' Now she says he's 'gutless' if he can't build the wall". Washington Post (yn Saesneg). Cyrchwyd 16 Chwefror 2019.
  5. Sollenberger, Roger. "Ann Coulter, of All People, Just Handed Democrats Their Strategy for 2020". pastemagazine.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 16 Chwefror 2019.
  6. "Ann Coulter says Jews, like rest of Democratic base, 'hate white men'". www.timesofisrael.com. The Times of Israel. Cyrchwyd 16 Chwefror 2019.
  7. Conroy, J. Oliver (17 Hydref 2018). "Ann Coulter believes the left has 'lost its mind'. Should we listen?". The Guardian. Cyrchwyd 16 Chwefror 2019.
  8. Smolenyak, Megan. "Ann Coulter's Immigrant Ancestors". The Huffington Post. http://www.huffingtonpost.com/megan-smolenyak-smolenyak/ann-coulters-immigrant-an_b_8332212.html.
  9. "Ann Coulter – 9 Ionawr 2008 – John Vincent Coulter". anncoulter.com.
    "Nell Husbands Nartin CoulterLL". humanevents.com. Ebrill 2009.
  10. Coulter, Ann (22 Ebrill 2009). "NELL HUSBANDS MARTIN COULTER". AnnCoulter.com. Cyrchwyd 27 Ionawr 2018.
  11. "James Coulter". LinkedIn. Cyrchwyd 27 Ionawr 2018.
  12. "Coulter & Walsh: About (John V. Coulter)". coulterwalsh.com. Cyrchwyd 27 Ionawr 2018.
  13. Holson, Laura M. (8 Hydref 2010). "Outflanked on Right, Coulter Seeks New Image". The New York Times. https://www.nytimes.com/2010/10/10/fashion/10coulter.html.
  14. "Ann Coulter Is a Human Being". Broadly (yn Saesneg). Cyrchwyd 4 Ebrill 2016.