Anita Loos
Anita Loos | |
---|---|
Ganwyd | 26 Ebrill 1889, 26 Ebrill 1888 Mount Shasta |
Bu farw | 18 Awst 1981 o trawiad ar y galon Dinas Efrog Newydd |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, sgriptiwr, nofelydd, hunangofiannydd, actor ffilm, bywgraffydd |
Adnabyddus am | Gentlemen Prefer Blondes |
Arddull | comedi |
Tad | R. Beers Loos |
Priod | Unknown, John Emerson |
Awdur, dramodydd a sgriptwraig ffilm o'r Unol Daleithiau oedd Anita Loos (26 Ebrill 1889 – 18 Awst 1981). Mae hi'n fwyaf adnabyddus fel awdur y nofel lwyddiannus Gentlemen Prefer Blondes (1925), a addasodd hefyd fel drama lwyfan a sgript ffilm.
Ei bywyd
[golygu | golygu cod]Fe'i ganed yng Nghaliffornia i rieni a oedd yn berchen ar bapur newydd, a throdd yn gyflym at ysgrifennu fel bywoliaeth - newyddiaduraeth, dramâu un act, a sgriptiau ar gyfer ffilmiau tawel. Yn awdur ffraeth, ym 1912 cafodd gontract gyda'r cwmni cynhyrchu ffilm Biograph Company. Am gyfnod bu'n gweithio fel sgriptwraig o dan gyfarwyddyd D. W. Griffith. Yn ddiweddarach, ynghyd â’i gŵr John Emerson, ysgrifennodd gyfres o ffilmiau llwyddiannus a helpodd yr actor Douglas Fairbanks i ddod yn seren.
O'r 1920au bu’n gweithio yn Efrog Newydd a Chaliffornia, yn ysgrifennu ar gyfer y sinema a’r llwyfan. Roedd ei nofel Gentlemen Prefer Blondes yn llwyddiant mawr, gyda'i llun doniol o fateroliaeth y Dauddegau Gwyllt. Roedd ei pherthynas gyda'i gŵr, merchetwr rhonc, yn anodd, ac o ddechrau'r 1930au roeddent yn byw ar wahân. Tua diwedd ei hoes trodd fwyfwy at ysgrifennu cofiannau.
Gweithiau
[golygu | golygu cod]Ffuglen
[golygu | golygu cod]- Gentlemen Prefer Blondes (1925)
- But Gentlemen Marry Brunettes (1927)
- A Mouse is Born (1951)
- No Mother to Guide Her
- Fate Keeps on Happening (1984)
Llyfrau ffeithiol
[golygu | golygu cod]- A Girl Like I (hunangofiant) (1966)
- Kiss Hollywood Goodbye (hunangofiant) (1974)
Dramâu
[golygu | golygu cod]- Gentlemen Prefer Blondes (1926, 1949)
- Gigi (1951)
- Chéri (1959)