Anialwch Peintiedig, Arizona

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Anialwch Peintiedig)
Anialwch Peintiedig
Mathanialwch Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ardal warchodolY Fforest Betraidd, Arizona Edit this on Wikidata
SirCoconino County Edit this on Wikidata
GwladUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau35.5°N 110.08°W Edit this on Wikidata
Map
Anialwch Peintiedig
Boncyffion petraidd

Lleoliad[golygu | golygu cod]

Mae Anialwch Peintiedig, Arizona yn ardal Pedair Gornel yn Nhalaith Arizona yn Unol Daleithiau America (yn cyfeiro at fan cyswllt pedair talaith, sef Arizona, Mecsico Newydd, Utah a Cholorado). Mae'n ymestyn o Barc Cenedlaethol y Grand Canyon i'r de-ddwyrain ar lan ogleddol Afon Colorado Fach i Holbrook. Mae'r Anialwch tua 150 milltir (240 km) o hyd a 15 - 50 milltir (25 - 80 cilomedr) o led. Enwyd yr ardal ym 1858 gan Lieutenant Joseph C. Ives, chwilotwr yn gweithio dros y llywodraeth.[1] Mae'r anialwch hefyd yn rhan o Barc Cenedlaethol y Fforest Betraidd ac yn cynnwys y Fforest Ddu, un o bedwar ardal o fforest petraidd o'r Oes Mesosöig, sydd tua 170,000,000 o flynyddoedd oed.

Daeareg[golygu | golygu cod]

Mae maint Yr Anialwch Peintiedig yn 93,500 o aceri,[2] ac yn cynnwys haenau hawdd eu herydu o garreg silt, carreg llaid a siâl o'r Oes Triasig. Mae'r lliwiau'n dod o gyfansoddion o haearn a manganîs, haematit (coch), limonit (melin) a gypswm (gwyn),ac mae'r lliwiau yn arbennig o drawiadol gyda'r machlud. Mae haenau tenau o galchfaen a charreg folcanig ar ben mynydd siap bwrdd neu 'mesas'. Mae yno hefyd haenau o ludw silica folcanig sydd wedi creu boncyffion petraidd unigryw yn yr ardal.[3] Mae uchelder yr anialwch rhwng 4,500 - 6,500 troedfedd (1,370 - 1,980 metr). Mae'r ardal yn sych, efo gwlybaniaeth blynyddol rhwng 5 - 9 mod (127 - 229 mm) , ac mae'r tymheredd yn amrywio rhwng -31 a 41 gradd Celsius. Estynnwyd ffiniau y parc dwywaith, ym 1932 a 1970, i gynnwys mwy o anialwch i'r gogledd.

Presenoldeb dyn[golygu | golygu cod]

Mae mwyafrif y tir yn rhan o 'Diné Bikéyah', tir cenedl y Navaho, a defnyddir tywod yr ardal i greu peintiadau seremonïol.

Mae Canolfan yr Anialwch Peintiedig y tu fewn i Barc Cenedlaethol y Fforest Betraidd yn ymyl Holbrook, ac yn yr un ardal saif "Gwesty'r Painted Desert", sydd erbyn hyn yn amgueddfa a siop lyfrau yn hytrach na gwesty. Adeiladwyd y gwesty ym 1924 gan ddefnyddio maen lleol, yn gynnwys coed petraidd, ar yr hen 'Route 66' enwog. Mae olion y ffordd yn bodoli: o'r dwyrain i'r gorllewin, ar draws Arizona.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Britannica; adalwyd 9 Hydref 2012]
  2. arizona-leisure Archifwyd 2012-09-29 yn y Peiriant Wayback. Gwefan Arizona Leisure; adalwyd 9 Hydref 2012
  3. Gwefan American Southwest (Parc Cenedlaethol y Fforest Betraidd) Archifwyd 2012-10-06 yn y Peiriant Wayback.; adalwyd 9 Hydref 2012