Neidio i'r cynnwys

Angharad Pearce Jones

Oddi ar Wicipedia
Angharad Pearce Jones
GanwydMedi 1969 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethcelfyddydwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amTri Map o Gymru: mynyddoedd, bryniau a chymoedd Edit this on Wikidata
Gosodwaith gan Angharad Pearce Jones, Canolfan Cywain, y Bala
Un o'r tair rhan o'r cerflyniau "Tri Map o Gymru", yn Adeilad y Senedd

Artist o Gymru yw Angharad Pearce Jones (ganwyd Medi 1969), sy'n gweithio'n bennaf ar osodweithiau a cherfluniau. Mae hi'n byw yn y Garnant, yng Ngorllewin Cymru[1]. Gadawodd Goleg Menai, Bangor i fynd i astudio dylunio 3D ym Mhrifysgol Brighton ym 1988. Dychwelodd i fyd addysg yn 1997 i astudio Celf Gain yn Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd, ac yma y dechreuodd hi ar ei gwaith o greu gosodweithoedd mawr. Mae hi hefyd yn gyfarwyddwr ar gwmni HAEARN-DESIGNER BLACKSMITHS Ltd.[2]

Angharad oedd dylunydd a gwneuthurwr Coron yr Eisteddfod yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli yn 2000.

Enillodd hi'r y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain yn Eisteddfod Genedlaethol 2024. Roedd ei gwaith yn rhan o fynedfa arddangosfa Y Lle Celf, a roddodd ddewis o ddau lwybr i ymwelwyr o boptu ei gosodwaith ffens fetel.[3]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. W. Jones, Peter; Hitchman, Isabel (2017). Ôl-ryfel i Ôl-fodern: Bywgraffiadur Artistiaid Cymru: Bywgraffiad Artistiaid Cymru. Gwasg Gomer. t. 435.
  2. "Angharad Pearce Jones - Bywgraffiad". angharadpearcejones.com. Cyrchwyd 28 Ebrill 2018.
  3. "Lluniau o'r Eisteddfod: Datgelu enillwyr gwobrau y Lle Celf eleni". Newyddion S4C. 3 Awst 2024. Cyrchwyd 4 Awst 2024.