Andrew Thomas (pêl-droediwr)

Oddi ar Wicipedia
Andrew Thomas (pêl-droediwr)
Gwybodaeth Bersonol
Enw llawnAndrew Thomas
SafleAmddiffynnwr
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
1993–2008Caersws459(3)
2008-2011Y Drenewydd65(0)
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 7 Chwefror 2016 (UTC).
† Ymddangosiadau (Goliau).

Chwaraewr pêl-droed Cymreig yw Andrew Thomas. Chwaraeodd dros 400 o gemau i Gaersws yn Uwch Gynghrair Cymru gan arwain y clwb i Gwpan y Gynghrair deirgwaith ac i Ewrop yn Nhlws Intertoto.

Chwaraeodd Thomas i dimau ieuenctid Caersws cyn chwarae i’r clwb am 15 tymor yn Uwch Gynghrair Cymru. O dan y rheolwr Mickey Evans, roedd yn gapten ac yn graig amddiffynnol mewn tîm enillodd Gwpan y Gynghrair yn 2000-01, 2001-02 a 2006-07.[1]

Yn 2002 Thomas oedd capten y clwb pan chwaraeodd Caersws yn erbyn PFC Marek o Fwlgaria, y tro cyntaf i'r clwb ymddangos mewn cystadleuaeth Ewropeaidd.[2] Symudodd Thomas i’r Drenewydd yn 2008 a chwaraeodd i’r clwb am ddau dymor gan orffen ei yrfa wedi chwarae 522 o gemau, yr ail nifer fwyaf o gemau’n holl hanes y gynghrair.[3]

Cafodd ei urddo'n aelod o Oriel Anfarwolion Uwch Gynghrair Cymru ym mis Hydref 2012.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "League Cup". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-04-01. Cyrchwyd 2016-02-07. Unknown parameter |published= ignored (help)
  2. "2002 Intertoto Cup draw". Unknown parameter |published= ignored (help)
  3. 3.0 3.1 "Oriel yr Anfarwolion: Andrew Thomas". Sgorio. Unknown parameter |published= ignored (help)